Epynt

BETH I’W WNEUD AG EPYNT?
neu
‘GO HOME, SAVE LIVES’

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tipyn o sylw wedi ei roi ar y cyfryngau ac yn y wasg i gofio Epynt a’r 80 mlynedd ers y ‘Chwalu’. Un o’r cyfryngau mwyaf effeithiol fu tudalen Facebook, ‘Atgofion Epynt’, a sefydlwyd ddiwedd Mawrth ac sydd bellach efo 800 o ddilynwyr.

I’r sawl na ŵyr yr hanes, aeth y Weinyddiaeth Amaeth i gymdogaeth Epynt ym Mawrth 1940 a rhoi gwybod i aelodau’r gymdogaeth fod angen iddynt symud o’u tai o fewn deufis, gan fod eisiau’r tir ar y Fyddin fel maes tanio. Cwynodd y trigolion fod hyn yn amhosib oherwydd ei bod yn dymor wyna a chawsant ddeufis o ras. Yn fuan iawn, roedd yr ysgol, y dafarn a’r capel wedi eu cau. Erbyn 30 Mehefin roedd preswylwyr 54 o gartrefi wedi eu symud a’u holl anifeiliaid wedi eu gwerthu. Ar 1 Gorffennaf dechreuodd y tanio.

 Fel y gallwch ddychmygu, bu’n brofiad trawmatig i bob un ohonynt, yn enwedig y rhai hŷn. Gadawsant aelwydydd lle ganed hwy, lle ganed eu rhieni a’u teidiau a’u neiniau. Roedd ebolion wedi bod ar y mynydd am dros fil o flynyddoedd. Roedd yn gymdogaeth wâr, gyfeillgar, ddiwylliedig, ac roedd bron yn uniaith Gymraeg. Dywedwyd bod yr hyn ddigwyddodd ar Fynydd Epynt wedi symud ffin y Gymraeg bron ugain milltir i’r gorllewin. Mae hynny i’w weld ar y dudalen Facebook. Mae sawl cyfraniad yn Saesneg yn cyfeirio at ‘Tad-cu’ neu ‘my grandmother … who used to live there’.

 Mae’n gymdogaeth werthfawr i hanes Cymru. Wrth i Williams Pantycelyn ganu, ‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell’, golygfa tua Mynydd Epynt roedd o’n cyfeirio ati. Ar gyrion Epynt mae ei gartref. Ym mhen arall y gymdogaeth mae Cefn Brith, cartref y merthyr John Penri. Allwch chi weld y Fyddin yn sefydlu maes tanio mor agos i rai o dai mwyaf hanesyddol Lloegr?

 Gan i’r cyfan ddigwydd mor sydyn, ni chafwyd ymgyrch faith yn erbyn y cynllun. Ceisiodd Plaid Cymru godi llais, ond yn ofer. Roedd hi’n gyfnod rhyfel â’r Natsïaid yn rhuthro drwy Ewrop. Mater bach oedd tynged cymuned ar fynydd-dir yng Nghymru, pris bach i’w dalu am amddiffyn pobl wrth i fomiau ddisgyn ar Gaerdydd ac Abertawe. Mudodd pobl Epynt dan yr argraff y cawsent ddod yn ôl yno unwaith y deuai’r rhyfel i ben. Gadawodd y Weinyddiaeth Amddiffyn iddynt gredu hynny.

 Cymerodd Thomas Morgan, Glandŵr, yr addewid yn rhy lythrennol. Mynnai ddychwelyd i’w gartref yn rheolaidd i gynnau tân ar yr aelwyd rhag ofn i’r lle ddirywio. Anwybyddodd rybudd y milwyr i gadw draw. Un diwrnod, daeth yno i ganfod fod ei gartref wedi diflannu. Roedd y Fyddin wedi ei ffrwydro. Deallodd Thomas Morgan nad oeddent am gael dychwelyd.

Daeth y rhyfel i ben a chadwodd y Fyddin ei gafael ar y 30,000 o erwau o Fynydd Epynt. Erbyn 1990, pan euthum yno gyntaf, roedd hanner can mlynedd wedi mynd heibio ac roedd y Fyddin wedi cynyddu nifer yr erwau roedden nhw wedi eu meddiannu yn yr ardal. Yr hyn a’m dychrynodd oedd y pentref ffug yr oedden nhw wedi ei godi ar y tir yn ddiweddar. Wedi dymchwel 54 o ffermydd, codasant dai o’r newydd, tai gwag na fyddai neb yn byw ynddynt. Adeiladwyd eglwys hyd yn oed, eglwys na fyddai neb yn addoli ynddi a mynwent na fyddai neb yn cael ei gladdu yno. Unig ddiben yr eglwys ar Epynt yw lle i ymarfer lladd o’i chwmpas. Unig ddiben y cerrig beddi ffug yw lle i guddio tu ôl iddynt wrth anelu gwn. Mae’r cyfan yn ffiaidd. Fel y dywed Tudur Dylan mewn cerdd ddiweddar:

Ar hyd afon Rhiw Defaid
sgidiau dur sy’n lledu’r llaid
o’u barics nos a bore
i ddod â lladd hyd y lle;
yma’n y cwm, tanc mewn cae,
bwledi ’Mhant y Blodau.

Dyna pam y teimlaf fod yr hyn ddigwyddodd ar Epynt yn waeth na’r hyn ddigwyddodd yng Nghapel Celyn. Nid oedd trawma’r bobl y bu raid iddynt adael eu cartrefi yng Nghapel Celyn fymryn llai, ond mae’r hyn ddigwyddodd wedyn yn waeth yn achos Epynt. Cwm wedi ei foddi fydd Cwm Tryweryn am byth. Nid oes modd newid y dirwedd.

Ar Epynt, mae’r tir yn dal yno. A phob dydd ers 1 Gorffennaf 1940, maent yn sarnu’r cof o’r newydd wrth berffeithio’r dechneg o ladd. Roedd y rhai a ffermiai dir Epynt yn trin tir da. Mae’r Fyddin wedi ei lygru efo gwerth 80 mlynedd o ffrwydradau. Nid oes modd ffermio ar Epynt drachefn.

Diben y cofio yn 2020 yw dysgu cenhedlaeth newydd am yr hyn ddigwyddodd 80 mlynedd yn ôl. Wrth ddweud ‘Cofiwch Dryweryn’ neu ‘Cofiwch Epynt’, fedrwch chi mo’u cofio heb wybod amdanynt yn gyntaf. Credaf yn gryf y dylai Tryweryn ac Epynt fod ar y maes llafur ym mhob ysgol yng Nghymru.

Ond mae cwestiwn arall yn codi ac yn un sy’n berthnasol inni i gyd – beth i’w wneud ag Epynt heddiw? A ddylid caniatáu i’r Fyddin ddal ei gafael arno?

Mae un peth y gallem fel Cristnogion fod yn gytûn arno, sef ei bod yn hen bryd dymchwel yr eglwys ffug ar Epynt a’r fynwent wrth ei hymyl. Mae’n rhan o FIBUA (Fighting in Built-up Areas). Ond wedi dymchwel Capel y Babell, fu’n safle sanctaidd i gymuned Epynt, sarhad ar ben sarhad oedd codi eglwys ffug i ddiben ymarfer lladd. Dylem ddatgan yn glir a diamwys wrth y Fyddin nad oes lle i’r fath adeilad ar Epynt nac yn unman arall.

Wedi dymchwel yr eglwys, mi fyddwn yn galw ar y Fyddin i ddymchwel gweddill yr adeiladau yn y pentref ffug. Byddwch yn ddigon dewr i’w dymchwel. Fe’i codwyd er mwyn i filwyr Prydeinig ymarfer eu sgiliau cyn mynd i Bosnia, i Afghanistan ac i lefydd eraill yn y Dwyrain Canol. Mae’n hyll eu bod yn dal i sefyll. Er cof am y bobl a laddwyd yn y gwledydd hyn, byddwch yn ddigon o fois i’w dymchwel. Rhowch ffrwydron oddi tanynt. Chwalwch hwy’n yfflon, fel y gwnaethoch i Glandŵr, cartref Thomas Morgan.

Ac os oes gennych ffrwydron yn weddill, ewch â hwythau hefyd ac ewch o Fynydd Epynt. Gadawch y lle. Wedi 80 mlynedd, mae’n hen bryd i chi fynd. I ba ddiben ydych chi’n dal eich gafael ar y lle? Beth yw gwaddol y Fyddin ar Epynt? Be lwyddoch chi i’w wneud yno?

Hirllwyn, Brynmelyn, Llwyn-coll, Gilfach-yr-haidd, Neuadd Fach, Croffte, Cwm-nant-y-moch, Llwyn-teg Isaf, Cefn-bryn Isaf, Gelli-gaeth, Cefn-bryn Uchaf, Lan-fraith a Gythane: dyma enwau rhai o’r cartrefi ddaru chi eu dileu. Dydyn nhw ddim yn bod bellach, dim ond enwau ar dudalen Facebook ydynt. Ond mae pobl yn dal i gofio. Ar gyfryngau cymdeithasol, yng nghanol pandemig, y mae cenhedlaeth newydd yn trafod yr enwau hyn.

Sy’n dod â ni at gwestiwn arall. Drannoeth Diwrnod y Lluoedd Arfog, ar Bwrw Golwg, roedd trafodaeth rhwng Marcus Robinson a Mererid Hopwood. Daliai Marcus fod ‘angen amddiffyn heddwch ein gwlad’. Rhag beth? Rhag pwy? Fel yr atebodd Mererid, mae holl gyfundrefn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn seiliedig ar gynnal ofn a drwgdybio ein gilydd.

Mae COVID-19 wedi newid ein meddyliau am gymaint o bethau. Mae wedi ein gorfodi, mewn ychydig wythnosau, i ddod wyneb yn wyneb efo miliynau yn colli eu bywydau. Mae wedi codi’r ofn mwyaf dychrynllyd arnom ac wedi peri inni chwilio am achubiaeth. Mae wedi achosi inni ailystyried ein gwerthoedd a’r modd y caiff arian y wlad ei wario. Pa ystyr sydd mewn gwario ar atalfa niwclear neu ymosodiad seibr? Arian ar gyfer PPE yw ein hangen pennaf. Ariannu brechlyn yw’r flaenoriaeth fwyaf. Amddiffyn bywydau yw’r gri ddyddiol. Onid yw dadlau dros faes tanio yn chwerthinllyd o amherthnasol bellach?

Ar blacardiau, ar faneri mewn gwahanol bentrefi yng Nghymru, mae’r sloganau wedi eu peintio yn datgan, ‘Go Home. Save Lives’. Mae’n neges yr un mor berthnasol i’r Fyddin ar Epynt heddiw.

Angharad Tomos
Gorffennaf 2020