Archifau Categori: Agora 40

Credo’r Mewnfudwr

Credo’r Mewnfudwr

Credaf yn Nuw Hollalluog,
a arweiniodd y bobl mewn alltudiaeth ac mewn ecsodus,
Duw Joseff yn yr Aifft a Daniel ym Mabilon,
Duw’r estroniaid a’r mewnfudwyr.

Credaf yn Iesu Grist, Galilead wedi ei ddadwreiddio,
a anwyd ymhell o’i bobl a’i gartref,
a ffodd o’i wlad gyda’i rieni pan oedd ei fywyd mewn perygl.
Pan ddychwelodd i’w wlad fe ddioddefodd dan ormes Pontius Pilat,
gwas i rym estron.
Dioddefodd orthrwm, cafodd ei guro, ei arteithio a’i roi i farwolaeth anghyfiawn.
Ond ar y trydydd dydd cododd Iesu o farw,
nid fel estron dirmygedig ond er mwyn cynnig i ni ddinasyddiaeth yn nheyrnas Dduw.

Credaf yn yr Ysbryd Glân,
mewnfudwr parhaol o deyrnas Dduw yn ein plith,
sy’n siarad pob iaith, yn byw ymhob gwlad
ac sy’n uno pob hil.
Credaf mai’r Eglwys yw’r cartref diogel
i estroniaid ac i’r holl gredinwyr.
Credaf fod cymundeb y saint yn dechrau
pan fyddwn yn cofleidio holl bobl Dduw yn eu hamrywiaeth.
Credaf mewn maddeuant, sy’n ein gwneud i gyd yn gydradd gerbron Duw,
ac mewn cymod sy’n iacháu ein cyflwr toredig.
Credaf y bydd Duw, yn yr Atgyfodiad,
yn ein huno fel un pobl
lle mae pawb yn unigryw a thebyg yr un pryd.
Credaf mewn bywyd tragwyddol lle na fydd unrhyw un yn estron
ond bydd pawb yn ddinasyddion y deyrnas
lle mae Duw’n teyrnasu am byth bythoedd. Amen.

José Luis Casal
Cyn Genhadwr Cyffredinol Gofalaeth Tres Rios, Eglwys Bresbyteraidd yr Unol Daleithiau
Cyf. Anna Jane Evans

The Immigrants Creed by Jose Luis Casal,
(General Missioner Tres Rios Presbytery of the Presbyterian Church USA):

I believe in Almighty God,
who guided the people in exile and in exodus,
the God of Joseph in Egypt and Daniel in Babylon,
the God of foreigners and immigrants.

I believe in Jesus Christ, a displaced Galilean,
who was born away from his people and his home, who fled
his country with his parents when his life was in danger.
When he returned to his own country he suffered under the oppression of Pontius Pilate, the servant of a foreign power. Jesus was persecuted, beaten, tortured, and unjustly condemned to death.
But on the third day Jesus rose from the dead,
not as a scorned foreigner but to offer us citizenship in God’s kingdom.

I believe in the Holy Spirit,
the eternal immigrant from God’s kingdom among us,
who speaks all languages, lives in all countries,
and reunites all races.
I believe that the Church is the secure home
for foreigners and for all believers.
I believe that the communion of saints begins 
when we embrace all God’s people in all their diversity.
I believe in forgiveness, which makes us all equal before God,
and in reconciliation, which heals our brokenness.
I believe that in the Resurrection
God will unite us as one people
in which all are distinct and all are alike at the same time.
I believe in life eternal, in which no one will be foreigner
but all will be citizens of the kingdom
where God reigns forever and ever. Amen. 

Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr

Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr

Ni wyddom beth fydd pen draw’r pla sydd wedi ymosod ar ein byd ni. Mae fel rhyw anifail rheibus sydd hefyd yn anifail cyfrwys. Mae fel petai’n llechu’n guddiedig, yn barod i neidio o’i guddfan, fel y gwnaeth rai dyddiau yn ôl ym Manceinion, ac wedyn mewn mannau eraill. Ond mae’r mannau ar hyn o bryd yn ymddangos yn bell o Gymru fel na theimlwn ni ddychryn y posibilrwydd. Mae’r to iau hefyd yn sylweddoli mai ninnau’r hen a’r methedig sy’n cael eu taro’n angheuol; felly teimlant y gallant hwy gwmnïa’n ddihidio, gan dybio fod y pla yn ddigon pell oddi wrthynt hwy. Ond ni ŵyr neb i ba gyfeiriad y bydd hwn yn neidio nesa.

Y gwir amdani yw ei fod wedi cloi’r byd i gyd yn ei afael, ac mewn amrywiol ffyrdd y mae wedi cyffwrdd â bywyd pawb. Yr ydym oll yn ddiymadferth mewn rhyw fath o garchar. Ac eto, fe all pethau annisgwyl ddigwydd mewn carchar. Meddyliwch am y carchar hwnnw yn Philipi dros ugain canrif yn ôl. Roedd hi’n ganol nos a phawb yn y celloedd yn cysgu. Yn sydyn dyma nhw’n clywed dau garcharor yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw. Paul a Silas oedd wrthi, yng nghell ddyfna’r carchar. Roedden nhw wedi eu carcharu ar gam, a digon o achos ganddynt i gwyno am eu sefyllfa, ac eto canu mawl oedden nhw. Roedd y carchar yn ddifrifol ei gyflwr ac yn boen i gorff ac enaid, ac eto, moli a diolch i Dduw oedden nhw. Er gwaetha eu hamgylchiadau, fe droeson nhw’r cyfan yn gyfle i foliannu Duw am ei gariad tuag atyn nhw.

Ac yn yr argyfwng hwn mae’r un peth yn union yn medru digwydd. Fe welwn ni lu o bobol yn gweld cyfle annisgwyl i droi’r pla yn gyfle i wneud daioni. Mae yna gymdogion wedi dod i adnabod ei gilydd yn y pandemig. Mae yna deuluoedd yn tystio iddynt ddod yn nes at ei gilydd yn yr argyfwng. Fel Paul a Silas, maen nhw wedi gweld achos i daro nodyn daioni ynghanol y trallod.

Mae yna un frawddeg drawiadol yn yr hanes am y ddeuawd yn y carchar. Dywedir bod y ddau yn canu mawl i Dduw ac yna fod y ‘carcharorion yn gwrando arnynt’ (Actau 16.25). Dyna ichi berfformiad annisgwyl a gwefreiddiol i gynulleidfa annisgwyl. Ond wedyn, nid perfformiad mohono. Mae’n siŵr nad oedd Paul a Silas yn disgwyl y byddai’r lleill yn eu clywed nhw, heb sôn am wrando arnyn nhw. Mae’n siŵr mai tawel iawn fyddai eu canu rhag tarfu ar gwsg y carcharorion eraill. Nid canu i ddifyrru’r lleill oedden nhw. Duw oedd eu cynulleidfa nhw. Ond, yn gwbl ddifwriad, fe droes y canu yn fendith i gwmni bach y carcharorion eraill. Dyna eto nodweddion gorau cymwynasau cariad: mae dylanwad eich cariad a’ch cymwynasau chi’n ysbrydoli pobol eraill sy’n clywed amdanynt.

Ond fan hyn y gwelwn yr hanes yma’n dod yn gwbl gyfoes i ni heddiw. Meddyliwch beth sy’n digwydd y dyddiau hyn ar lu o draethau a threfi glan môr a llwybrau mynyddoedd yng Nghymru. Mae miloedd o bobol wedi teimlo eu bod nhw wedi gorfod bod dan glo. Am fisoedd wedi eu caethiwo. Yna, mae’r rheolau wedi eu llacio. A heb ystyried dim am bellhau corfforol nac am wisgo masgiau, yn sydyn dyma nhw’n heidio allan yn dorf enfawr i’r mynydd a’r môr. Fel yna yn union y buasech wedi disgwyl i garcharorion carchar Philipi ei wneud. Gweld drws eu cell nhw wedi ei ddatgloi ac allan â nhw heb feddwl yr eilwaith. Ond nid dyna beth ddigwyddodd. Arhosodd pawb yn ei gell. Y cwestiwn y byddem yn ei ofyn yw pam.

Faswn i ddim yn dychmygu am eiliad iddyn nhw deimlo rhyw barch newydd at gyfraith gwlad a’u bod am barchu’r ddeddf. Na. Clywed y mawl o gell Paul a Silas wnaethon nhw, a sylweddoli nad oedd cell na charchar na chaethiwed yn golygu dim yn y diwedd. Beth oedd yn cyfri oedd gras a charedigrwydd y Duw tragwyddol yn eu calonnau. Felly heddiw, tra bydd llaweroedd hunanol yn dathlu eu rhyddid drwy heidio allan fel carcharorion o gelloedd heb ystyried diogelwch neb arall, bydd yna niferoedd yn ymatal ac yn sylweddoli fod yna bethau pwysicach mewn bywyd, ac yn ymbwyllo’n gyfrifol. Yr ydym ninnau heddiw yn ddiogel ac iach oherwydd y miloedd sydd wedi ymddwyn yn ddoeth heb ruthro drwy ddrws agored y gell pan laciwyd y cloi-lawr. Felly, diolchwn heddiw am bawb sydd wedi byw yn gyfrifol, nid yn unig yn wyneb yr haint, ond hefyd yn wyneb y rhyddhau.

Brawddeg ddadlennol yw geiriau Paul wrth geidwad y carchar lle dywedai wrtho am beidio niweidio’i hun o dybio fod pawb wedi ffoi. Oherwydd, meddai, ‘yr ydym yma i gyd’. Sut gwyddai? Rhaid fod yna gymdeithas hyfryd newydd ymhlith y carcharorion fel y gwyddent oll am ei gilydd. Dyna ein gobaith ninnau yng nghyfnod y llacio hwn – y byddwn yn cael ein tynnu yn nes at ein gilydd fel unigolion ac fel gwledydd.

John Gwilym Jones

Gobaith gobaith

Gobaith gobaith
Pryderi Llwyd Jones

Oes, mae dwy enfys. Edrychwch yn fwy manwl. Diwrnod angladd John Lewis oedd hi ac yr oedd Nancy Pelosi yn honni bod y ddwy yn adewyrchu ar ei arch. Ers misoedd bellach yr ydym wedi

Llun drwy Twitter
gyda chaniatad Anthony Tilghman @AnthonyTilghman
gweler http://WashingtonInformer.com

gweld llun o’r enfys ym mhobman fel arwydd o obaith wedi’r Cofid 19. Ond mae dwy enfys yn wahanol. I lawer o Gymry – ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn y diffyg sylw a roddwyd iddo ar ein cyfryngau Cymraeg pan fu farw – byw yng nghysgod Martin Luther King a wnaeth John Lewis. Yr oedd yn un o’r chwech (a’r ieuengaf) a orymdeithiodd ar ddechrau’r Ymgyrch Hawliau Sifil yn 1962 ac yn un a ystyriai fod MLK, hyd yn oed cyn ei farwolaeth, yn arwr mawr ei fywyd. Ond i’r mwyafrif yng Nghymru ac ym Mhrydain, efallai mai enw ar gadwyn o siopau yw John Lewis.

Roedd tri cyn-arlywydd yn ei angladd (31 Gorffennaf) ac un arall, sef Jimmy Carter (mae’n 95 oed), wedi anfon neges. Dewis peidio â bod yno wnaeth yr arlywydd presennol. Nid fy mwriad yw sôn am fywyd John Robert Lewis (gydag enw o’r fath, fe allai fod o Dalyllychau); digon yw dweud iddo ddod yn arweinydd yr ymgyrch trwy ei aberth – cafodd ei guro yn anymwybodol gan yr heddlu ar y bont yn Selma (‘Bloody Sunday’) a hefyd gan ddyn gwyn mewn gorsaf bysiau yn Rock Hill, De Carolina, efo bat rownderi gan dorri asgwrn ei benglog a gadael craith ac elfen o arafwch am oes. Bu John Lewis yn gynrychiolydd Democrataidd yn yr House of Congress am 33 mlynedd.

John Lewis-2006 (cropped) Ond cyfeirio at y ‘gobaith gobaith’ yng ngwasanaeth ei angladd yw bwriad yr erthygl hon. Yng nghapel y Bedyddwyr, Ebeneser, Atlanta (lle bu Martin Luther King yn weinidog) y bu’r angladd, ar ôl wythnos o wasanaethau cofio ledled y wlad, a’r gweinidog yno yw Raphael Warnock. ‘This is a Baptist church,’ meddai ar ôl ‘Amen’ gwachul ar ddiwedd y weddi agoriadol. ‘Let’s say it again,’ meddai, ‘AAAAAMEN.’ Ef oedd y cyntaf o nifer fawr i roi teyrnged. ‘As a young man, he started preaching but then he became a living, walking sermon about truth telling and justice making.’ Fe’n carodd ni fel gwlad (oedd geirau Warnock), y gororwyr hwn i gaethweision, nes i ninnau ddechrau ei garu yntau.

Geiriau gobaith

Meddai Bill Clinton yn yr angladd: ‘He has gone up yonder and left us with marching orders and I suggest … we salute, we suit up and we march on.’

Ac meddai Obama, ‘He was the founding father of a better America.’

Dyfynnwyd John Lewis ei hun, yn ei waeledd, ar ôl clywed am farwolaeth George Floyd yn dweud bod America wedi cyrraedd y ffordd sy’n arwain i newid mwy a newid mawr: un bobl, un teulu, un tŷ.

Rai ddyddiau cyn ei farwolaeth yr oedd wedi ysgrifennu neges i’w darllen yn ei angladd:

Er na fyddaf yna gyda chi, rwyf yn erfyn arnoch i ymateb i alwad fwyaf eich bywyd a sefyll dros yr hyn yr ydych yn gwirioneddol gredu ynddo. Mae America wedi newid, ac fe wyddom mai’r unig ffordd i heddwch yw ffordd yr heddwch di-drais. Dyma eich cyfle i seinio galwad rhyddid. Pan ysgrifennir hanes y ganrif hon, boed iddynt wybod mai chi yw’r genhedlaeth fydd wedi diosg baich casineb a bod heddwch wedi gorchfygu trais, gormes a rhyfel. Gofynnaf i chwi eto, frodyr a chwiorydd, cerddwch gyda’r gwynt a bydded i ysbryd heddwch a grym cariad fod yn arweiniad i chi.

Dyma eiriau felly, yn yr angladd, oedd yn ymateb i farwolaeth arweinydd ac i lofruddiaeth gŵr du ei liw – eto fyth – gan ormes yr awdurdodau a hen hilyddiaeth ddofn y gwyn eu lliw. Mae’r teyrngedau a roddwyd gan gyn-arlywyddion i John Lewis yn cydnabod mai’r gobaith i America yw meddiannu’r weledigaeth amgen sydd yma, nid yn unig i America, ond i’r byd. Yn ystod mis Gorffennaf 2020 mae wedi ymddangos fel enfys ddwbwl.

Dathliad o obaith gobaith fu’r addoli a’r canu; grym gobaith fu galar teulu George Floyd; datganiad o obaith ymysg pobl gyffredin drwy’r byd fu protestiadau Black Lives Matter; a bu’r cyfan, yng nghanol argyfwng y pandemig, yn ddathliad o ‘un bobl, un teulu, un tŷ’.

Gobaith Americanwr Cymraeg o Arfon

Ddiwrnod cyn angladd John Lewis, yr oedd Jerry Hunter yn gwneud datganiad rhyfeddol ar raglen Dros Ginio Radio Cymru. Bu’n trafod ei nofel fawr Ynys Fadog am hanes Cymry America. Dywedodd nad yw’n credu bod America yn wlad hiliol, ond ei bod yn wlad sy’n llawn o hiliaeth, fel y mae digwyddiadau Gorffennaf wedi profi. Ond dywedodd hefyd ei fod yn fwy gobeithiol nag erioed am ddyfodol America! Roedd yn ddatganiad cwbwl annisgwyl.

Gobaith newydd

Ymysg yr holl drafodaethau a fu yn ystod yr wythnos honno ar hiliaeth yr oedd y rhaglen Pawb a’i Farn (S4C), dan gadeiryddiaeth fywiog Betsan Powys, ac roedd yn rhifyn arbennig iawn. Yn y stiwdio ddi-gynulleidfa roedd hanner dwsin o bobl gweddol ifanc a dau ar sgriniau o leoliadau eraill. Roeddynt yn mynegi eu barn yn glir, yn onest ac mewn Cymraeg rhugl. Ond nid oedd yr un ohonynt yn wyn – ar wahân i’r un oedd yn arwain y drafodaeth. Go brin fod hyn wedi digwydd erioed o’r blaen ac yn nyddiau’r Eisteddod Amgen yr oedd y bobl ifanc yn cyflwyno gweledigaeth amgen John Lewis o ‘un bobl, un teulu, un ty’.

Ychydig ddyddiau cyn hynny yr oedd Ann Griffith o Washington wedi anfon y geiriau hyn ar e-bost; sylwch ar y ffynhonnell o dan y dyfyniad:

Ar 5 Gorffennaf roedd Ann – sy’n Gymraes wirioneddol ryngwladol ac wedi ei meddiannu gan y weledigaeth amgen ‘un bobl, un teulu, un tŷ’ – yn westai ar raglen Beti a’i Phobol (Radio Cymru). Mae’n briod ag Americanwr, Steve, sydd wedi dysgu Cymraeg, ac yn fam i Gwenan, Angharad ac Aled sydd, er na fuont yn byw yng Nghymru, yn Gymry Cymraeg. Y gân olaf a ddewisodd Ann ar y rhaglen oedd recordiad o Barack Obama yn canu (er nad yw fawr o ganwr) ‘Amazing Grace’, a’r gynulleidfa’n ymuno, yn angladd y gweinidog a’r gwleidydd Clementa Pickney yn Charleston yn 2015. Roedd y gweinidog a naw o’i aelodau wedi eu saethu yn farw gan eithafwr gwyn ar ôl bod yn eistedd gyda hwy mewn dosbarth Beiblaidd, a’r gweinidog wedi ei groesawu’n gynnes fel dyn gwyn i gapel lle roedd y gynulleidfa o liw tywyll. Roedd dewis Ann yn ddewis cwbwl annisgwyl fel ei dewis olaf a diwedd y rhaglen. Ond nid i Ann, na chwaith ar ddiwedd Gorffennaf 2020.

Gobaith gobaith

Mae llawer yn sôn na fydd y byd na bywyd yr un fath eto ar ôl y pandemig. Ond tybed na fydd y ddwy enfys, George Floyd, John Lewis, pobl ifanc du a gwyn eu lliw yng Nghymru, Ann Griffith, hiliaeth, haf 2020, aberth, caethwasiaeth ac AMEN Ebeneser Bedyddwyr, Atlanta, Georgia, yn adfywio’r ffydd sydd wedi wedi bod yn farw ac yn fewnblyg ynom? A tybed a ydym yn mynd heddiw drwy brofiadau personol, byd-eang, sydd yn profi fod neges y Testament Newydd nad oes ‘nac Iddew na Groegwr … un person ydych yng Nghrist’ – gweledigaeth amgen Iesu a Paul – yn gwbwl, gwbwl ganolog i fynd i galon yr Efengyl ?

Byw ar ffiniau

BYW AR FFINIAU
Traethodau gan Enid Morgan

Croesi Ffiniau

Mae’n syndod na chafodd yr Eglwys Fore ei llongddryllio yn ei hanner can mlynedd cyntaf. Mae’r dadleuon tanbaid yn edrych yn ddigon od i ni – naill ai’n astrus a dibwys, neu hyd yn oed yn ddoniol. A oedd angen i Gristnogion newydd ufuddhau i ddeddfau bwyd yr Iddewon? Oedd angen rhoi’r gorau i fwyta cig moch a chimwch? Ai brad oedd i Gristion Iddewig fynd i dŷ Rhufeiniwr? A ellid caniatáu paentio darlun o’r Iesu? A ddylai gwragedd guddio’u gwallt? Ac a oedden nhw’n aflan ar ddyddiau misglwyf? Yn benodol a phoenus, a oedd enwaediad yn rheidrwydd i bob gwryw, boed Iddew neu beidio?

I Saul o Darsus, y Pharisead o ddinesydd Rhufeinig, bu’r rheolau hyn o bwys mawr. Cymaint oedd ei ofid am ei etifeddiaeth grefyddol a diwylliannol nes iddo erlid yn ddiarbed y sect newydd a honnai mai Iesu o Nasareth oedd y Meseia addawedig. Cawsai hwnnw ei groeshoelio gan yr awdurdodau Rhufeinig mewn cydweithrediad ag awdurdodau’r deml. Yr oedd y rheini’n argyhoeddedig fod Iesu am ddinistrio’r deml. Honnid gan ei ddilynwyr fod yr un a grogwyd ar bren wedi ei atgyfodi, ac yn Was, yn Fab, neu’n Air Duw. Daeth brwydr Paul yn erbyn y chwyldröwr hwnnw i’w hanterth wrth iddo deithio i Ddamascus i erlid y dilynwyr yno.

Tarian enwaedu Iddewig (Llun Amgueddfa Wyddoniaeth, CC)

 I’r Iddewon, enwaediad oedd y peth pwysicaf oll, arwydd yn y cnawd gwrywaidd eu bod mewn perthynas gyfamodol, nid dim ond partneriaeth, â Duw. I Paul, rhan o’r cyfamod oedd ei berthynas â’i lwyth – llwyth Benjamin, bod yn Hebrëwr o’r Hebreaid; bod yn Pharisead, hynny yw, yn fanwl ei barch i’r Gyfraith Iddewig. Golygai hyn ei fod yn barod i erlid y ffydd newydd am ei bod yn tanseilio’r pethau hyn i gyd.

Ar ôl ei brofiad ar y ffordd i Ddamascus, a chael ei dderbyn dros dro gan raslonrwydd y Cristnogion yno, y mae ei ddealltwriaeth o’r cwbl yn dra gwahanol. Ond yr oedd gorfod ffoi mewn basged, a mynd i Arabia am flynyddoedd cyn ei bod yn ddiogel iddo ddychwelyd, yn brawf fod y rhai a fu o’r un anian ag ef heb newid eu meddwl o gwbl. Wrth ysgrifennu ar y pwnc at Gristnogion yn Philippi, dywed (yn y cyfieithiad parchus Cymraeg) ei fod yn ystyried y cwbl yn ‘ysbwriel’. Tom yw cyfieithiad cywirach William Morgan (Philipiaid 3.8). I gyfleu dwyster y newid, gallem ddweud fod Paul yn edrych ar ei etifeddiath ac yn taeru mai ‘Cachu yw’r cwbl’. (Dyma i chi’r Paul diflewyn-ar-dafod.)

I Gristnogion mwy diweddar, nid mater cyfraith oedd hyn, ond mater o wrthod Iesu. Ac ar y mater dwys hwn y datblygodd rhwyg enbyd, rhwyg a ddatblygodd yn sail i gasineb gwrth-Iddewig. Am fod ymrannu yn ‘ni’ a ‘nhw’ yn rhan o batrwm pechadurus y ddynoliaeth, bu ymddygiad Cristnogion tuag at Iddewon yn amddiffyn Iesu yn brawf nad oeddent wedi deall neges Iesu. Yn y gweryl hon y gwreiddiodd casineb a arweiniodd drwy’r pogromau, yr Holocost, Seioniaeth, esgymundod Palesteina. Heddiw, mae gelyniaeth at Iddewon fel petai wedi rhwygo’r blaid Lafur, yn sicr ynghudd ymhlith Toriaid, ac yn peryglu heddwch y byd.

Nid dim ond Iddewiaeth a Christnogaeth sy’n caniatáu i’w profiad o’r trosgynnol gael ei lygru gan ymateb llwythol a diwylliannol. Mae’n amlwg ym myd Islam. Onid yw’n hynod fod ffydd yn Allah, yr holldrugarog, yn methu goresgyn ymlyniad nifer o genhedloedd Affrica wrth yr arfer o lurgunio organau cenhedlu merched bach. Tuedd patriarchaeth ffyddlon i Allah a Thad ein Harglwydd Iesu Grist fu babïo gwragedd. Mae’n chwerthinllyd na all gwragedd yrru ceir yn Saudi Arabia. Ond ym Mhrydain ni fedrai gwragedd priod fod yn berchen eiddo tan 1870, pan basiwyd y gyntaf o’r Deddfau Eiddo Gwragedd. Hyd heddiw, mae ’na eglwysi Cristnogol sy’n dweud wrth wragedd priod sy’n dioddef trais gan eu gwŷr mai eu dyletswydd yw bod yn israddol i’w gwŷr am mai hwy yw ‘pen’y wraig. Mewn rhai cymunedau Islamaidd bydd pobl gyffredin yn siarad am Allah â’r un rhwyddineb ag yr arferai gweithwyr glo de Cymru a gweithwyr llechi’r gogledd siarad am Iesu. Ond erbyn heddiw daeth tro ar fyd ac mae ’na swildod enbyd hyd yn oed am grybwyll enw Duw mewn trafodaeth. Bu grymusoedd diwylliannol ac economaidd ar waith i gynhyrchu diwylliant materol seciwlar, diwylliant ymosodol o wrth-dduwiol sy’n daer yn erbyn diwinyddiaeth geidwadol y llythyrenolwyr. Mae ambell Gristion fel petai’n amau defnyddioldeb diwinyddiaeth o gwbl.

Ond weithiau y rhai sydd wedi colli eu ffydd sy’n anwylo’r diwylliant fwyaf. Dyna sut y mae’r BNP yn hawlio bod yn blaid wleidyddol Gristnogol. Beth wnawn ni o hyn i gyd? Beth ddywed yr Efengyl? Pan ddechreuwch chi edrych ar yr efengylau gyda’r cwestiwn hwn yn eich meddwl fe sylweddolwch yn fuan fod yr Iesu’n ymwybodol iawn o’r problemau. Fe wnaeth ef herio llawer o arferion a deddfau Iddewiaeth gan ddweud “Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, ond yr wyf innau’n dywedyd…’

Ymhlith ein heglwysi, mater o ddiwylliant a damwain hanesyddol yw llawer o’r gwahaniaethau rhwng enwadau a thraddodiadau. Egwyddorion â’u gwreiddiau mewn materion diwinyddol a oedd yn bwysig iawn ar un cyfnod. Yn Ewrop y mae efengyl a diwylliant wedi eu gweu ynghyd, ond erbyn hyn mae’r gwead fel petai’n datod. Oes yna’r fath beth ag efengyl ‘bur’? Argyhoeddiad llawer o Brotestaniaid Efengylaidd yw mai dyna yw eu ffydd hwy, ac mae hynny’n rhoi hyder iddynt fentro i wledydd Pabyddol ac Uniongred i ddwyn y ‘gwir’ efengyl i’r dinasyddion yno. Byddai Cristnogion yn y canrifoedd cynnar yn galw eu hunain yn ‘ymwelwyr’, gwesteion dros dro (sojourners). Pobl nad oeddent yn ddinasyddion, nad oeddent yn perthyn i’r diwylliant o’u cwmpas oedd y rhain, ac nid ystyrid eu bod dan rwymedigaeth i’r wladwriaeth. A fyddai’r fath beth yn bosibl heddiw? Dan ba amgylchiadau y gallai hynny fod yn rheidrwydd?

Rhybuddiodd Iesu ni ‘Lle y mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon’. Yr ydym yn trysori ein diwylliant; rhaid wrth arfer a threfn i fyw gyda’n gilydd o gwbl, i fedru cyfathrebu â’n gilydd, i berthyn i’n gilydd. Ond gallwn lithro i dderbyn cael ein diffinio gan ein diwylliant a dysgu ofni’r ‘arall’, y peth sydd ddim yn perthyn nac yn eiddo i ni. Mae’r dadleuon am fewnfudo (i Gymru ac i Loegr), iaith am gael ein boddi, yn drysu’r drafodaeth. Mae’r reddf i wrthod y dieithr a’i gau allan o’n diwylliant a’n cylch cysurus i’w weld yn yr anawsterau ynglŷn â gweinidogion Cristnogol sy’n ‘hoyw’ neu’n gyfunrywiol. Mae chwerwder a thaerineb y rhai sy’n barnu a chondemnio ac yn ceisio gyrru allan bobl hynod a dawnus yn dangos sut y mae diwylliant yn mynnu torri allan. Mae hanesion y ‘torri allan’ yn etifeddiaeth chwerw ym myd ymneilltuaeth heddiw. Arswyd yw gweld eglwysi Cristnogol yn ceisio bod yn ‘bur’ heb geisio bod yn drugarog.

Peth poenus yw newid ein ‘safonau’: mae troi cefn ar bethau a gymerid yn ganiataol yn teimlo fel brad. W. B. Yeats a fynnodd mai dim ond mewn arfer a seremoni y gall diniweidrwydd a harddwch ffynnu. Ond mewn llestri pridd y cadwn ein trysorau, a digon hawdd yw cyboli mwy am y llestri na’r trysorau. Yr oedd Iesu’n peryglu’r llestri pridd; mynnai na ellid rhoi gwin newydd mewn hen gostreli. Dyna un o’r rhesymau pam yr oedd y traddodiad a’r diwylliant yn ei ofni ac yn ei gasáu.

Mewn cyfres o draethodau rwy’n bwriadu edrych ar wahanol fathau o ddiwylliant – rhai traddodiadol yn bennaf – ac ystyried a ydynt yn wir gydnaws â’r efengyl. Y bwriad yw tanseilio ein hymlyniad diamod wrth y man lle rydyn ni’n gyfforddus a pheri i ni fod yn fwy ymwybodol o’r peryglon wrth hawlio ein bod yn ddiwylliant neu’n genedl ‘Gristnogol’. Cynigir yma storïau am deithio ar draws ffiniau, ac edrych a gwrando mewn ffordd fydd yn ein galluogi i fwynhau amrywiaeth diwylliant fel rhoddion gan Dduw. Cawn ein cymell i fod yn wylaidd a doniol am ein sicrwydd a’n trysorau, a bod yn barod i ddymchwel y delwau a addolir gennym.

 

Apêl Ariannol Cristnogaeth 21

Apêl Ariannol Cristnogaeth 21

Fel y gwyddoch, does dim tâl aelodaeth am gael ymuno â Cristnogaeth 21, ac ni fyddem yn dymuno i bethau fod yn wahanol. Mae’n bwysig bod ein holl ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i bawb gael cyfle i ddarllen yr erthyglau ar y wefan a medru mwynhau’r negeseuon sy’n cael eu rhannu yn yr e-fwletin ac ar y dudalen Facebook. Y nod yw cyrraedd y nifer mwyaf posibl o gefnogwyr, ond byddai codi tâl aelodaeth yn eithrio rhai pobl ac yn cyfyngu ar y niferoedd. Yr unig dro y byddwn yn gorfod codi tâl yw er mwyn clirio costau cynnal encil neu gynhadledd.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynwyd lansio apêl i dalu am ddatblygu’r wefan a sefydlu’r cylchgrawn digidol Agora, a chafwyd ymateb rhagorol mewn byr amser bryd hynny.

Erbyn hyn, rydym yn gorfod cydnabod bod cynnal y wefan yn faich ariannol, a heb incwm o unrhyw fath mae’n amlwg nad yw’r fenter yn gynaliadwy. Gyda hynny mewn golwg rydym wedi lansio apêl ariannol newydd am gefnogaeth ariannol gyson. Yn hytrach na chodi tâl aelodaeth penodol, gofynnwn i’n cefnogwyr ystyried cyfrannu’n fisol neu’n flynyddol ar sail wirfoddol tuag at gostau rhedeg C21.

Fe welwch dair ffurflen ar y wefan, i’w defnyddio yn ôl y gofyn gan ddibynnu ar sut y bwriadwch gyfrannu. Mae’r gyntaf ar gyfer archeb sefydlog drwy’r banc, sy’n ffordd hwylus a didrafferth o dalu. Mae’r ail ffurflen yn berthnasol i daliadau electronig neu drwy siec, ac mae’r ffurflen olaf yn rhoi caniatâd i ni hawlio 25c Rhodd Cymorth am bob £1 yr ydych yn ei gyfrannu.

Bydd rhai caredigion yn siŵr o fod yn ceisio dyfalu pa fath o swm y dylid ei gyfrannu. Tybed a fyddai modd ystyried y canlynol:

  • isafswm o £30 y flwyddyn i rai sydd mewn gwaith
  • isafswm o £20 y flwyddyn i rai sydd wedi ymddeol
  • fydden ni ddim yn disgwyl unrhyw gyfraniadau gan fyfyrwyr na rhai diwaith.

Diolch o galon am eich haelioni a’ch cefnogaeth gyson i Cristnogaeth 21.

Gwirionedd consensws y 70au

Gwirioneddau consensws y 70au …

Rwy’n blentyn y chwedegau, ac o ganlyniad i’r wlad fach lle’n magwyd, y teulu a’r capel fu’n aelwydydd i mi a’r ffrindiau lluosog oedd gan fy rieni ar hyd a lled y wlad, fe gyflwynwyd rhai pethau i mi fel plentyn fel gwirioneddau tu hwnt i amheuaeth. Y gwirionedd canolog diwinyddol yn ein tŷ ni oedd hawl pawb i holi cwestiynau, heb setlo am atebion fformiwla parotaidd. Y gwirioneddau eraill non-negotiable oedd bod pob person yn gydradd, pob hil yn gydradd, bod bywyd yn well wrth wasanaethu nag wrth eistedd yn ôl a gadael i eraill wneud y gwaith. Eiconau ein cartref oedd Donald Soper a Desmond Tutu. A Dafydd Iwan a’r Gwyddel heddychlon John Hume. Ond ar y pryd, y sant-ferthyr a’r eicon pennaf oedd Martin Luther King. Ac rwy’n tybio nad oes llawer wedi newid.

Yn 1979 daeth sioc i feddylfryd y teulu. Etholwyd Margaret Thatcher yn brifweinidog, a hithau’n arddel yr un ffydd Gristnogol, ond yn prynu i mewn i athroniaeth economaidd ‘y farchnad’ – a’r athroniaeth honno bron yn sacrosanct. Yn 1980 etholwyd Ronald Reagan yn America, yn disodli’r Cristion egwyddorol Jimmy Carter, heb yn wybod i ni yn Ewrop ar y pryd, o ganlyniad i ymgyrch fwriadol gan Gristnogion efengylaidd i drechu Carter.

Ronald Reagan a Margaret Thatcher in 1986.
Archifau Cenedlaethol UDA. Parth Cyhoeddus

Rywbryd rhwng diwedd y 70au a dechrau’r 80au crëwyd model newydd o Gristnogaeth, sydd erbyn hyn yn ddylanwadol iawn yn y byd Saesneg ei iaith – yr aliniad hwnnw rhwng ceidwadaeth grefyddol a cheidwadaeth wleidyddol. Aeth unigolion fel Ron Sider a Jim Wallis, oedd yn flaenllaw fel cynrychiolwyr y byd efengylaidd yn y 70au yn personae non grata i nifer fawr erbyn i ni gyrraedd y 1990au.

Cristnogaeth ‘newydd’ America’r 80au

Tyfodd dylanwad gwleidyddol yr asgell dde grefyddol hon yn America yn gyflym, ac fe aliniwyd eu brwydr wleidyddol gyda rhai materion oedd bron yn diffinio’r aliniad – bod yn wrth-erthyliad, yn erbyn trethi uwch a gwariant gan y wladwriaeth, a’r cyfan wedi ei lapio mewn baner genedlaetholgar. Yn hwyrach fe ychwanegwyd agweddau fel dilorni pobl hoyw, cariad at arfau a negyddiaeth at sefydliadau global fel y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd y Byd (stori apocalyptaidd ‘World Government’ …). Felly, o’r pulpud cawn lythrenolrwydd beiblaidd a gwleidyddiaeth simplistig, law yn llaw fel Siôn a Siân. Hanfod y dechneg ymgyrchu yw polareiddio pobl ar sail yr egwyddor: “Os nad y’ch chi’n llwyr gyda ni, ry’ch chi i’n herbyn.” Ac yng nghanol hwnnw fe grëwyd naratif erledigaeth gref, h.y mae rhoi hawliau cyfartal i rai pobl yn erledigaeth i’r eglwys, neu mae cynnig gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn ffordd o erlid teuluoedd sy’n gweithio’n galed.  

Mae’r Cristnogion newydd hyn wedi troi eu cefn yn llwyr ar yr hyn fu’n gryfder y ffydd Gristnogol erioed – sef ei bod yn ffydd sy’n ein galw i garu cymydog a gelyn. Dyna fu canol y ffydd dros ddau fileniwm a dealltwriaeth trwch y boblogaeth, hyd yn oed os nad oedden nhw’n tywyllu drws capel neu eglwys. Erbyn hyn, mae’r asgell dde Gristnogol rymus hon wedi newid y naratif ac mae’r eglwys mewn perygl o gael ei gweld gan nifer fawr fel y ‘nasty party’ yn yr un ffordd y soniodd Theresa May am y blaid Geidwadol. Yng nghanol y newid yn y balans mae her aruthrol i’r eglwys. Mae’n ffiaidd ein bod yn sôn am eglwysi gwyn a rhai du, ond dyna realiti cyfran fawr o America. Gyda nifer fawr o arweinwyr eglwysi efengylaidd gwyn wedi bod yn codi llais yn erbyn Black Lives Matter, mae’r hollt rhwng y du a’r gwyn wedi bod yn rhan o’r naratif ‘crefyddol’ i nifer fawr.

Y fforch yn yr heol?

Fodd bynnag, rhaid gofyn a oes tro ar fyd? Gyda lladd erchyll George Floyd, ac yntau’n weithgar yn ei flynyddoedd olaf fel heddychwr yn ei gymdogaeth, a ddaeth hi’n amser i’r asgell dde grefyddol holi cwestiynau am yr hyn wnaethon nhw i America? I ble aeth breuddwydd MLK?

O’r diwedd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe gododd lleisiau cadarn a lluosog o’r byd efengylaidd gwyn yn amau doethineb eu harlywydd, ac fe roddwyd cyhoeddusrwydd cadarnhaol i arweinwyr yr eglwysi episcopalaidd yn Washington. Y rhain a fu dan lach grenades heddlu Trump i’w clirio o’r ffordd er mwyn iddo allu dod allan o’r byncar yn y Tŷ Gwyn, i gael llun o’i hunan yn dal Beibl ben i lawr o flaen yr eglwys.

Ymddengys nad oes lle i droi mwyach i’r byd Cristnogol ffwndamentalaidd, asgell dde yn America. Maen nhw ar groesffordd. Naill ai gallan nhw fynd i lawr llwybr yr eithafddyn oren sydd wedi dod i symboleiddio’u Cristnogaeth ddidrugaredd, neu fe allan nhw droi yn ôl at hanfodion y ffydd a draddodwyd yn y Gwynfydau ac a fu’n rhan o naratif dau fileniwm. Fy ngweddi yw y daw peth daioni o’r creisis presennol. Daioni fydd yn caniatáu i eglwys fyd-eang ac unedig ailgydio yn ei phriod waith – y gwaith o wasanaethu er mwyn trugaredd, maddeuant, addfwynder a chariad. Mae’n ymddangos mai dyna’r nodweddion oedd bwysicaf i George Floyd yn ei flynyddoedd olaf. Cawn obeithio y bydd ei farwolaeth ddiangen yn gymorth i’r byd ailgydio ym mreuddwyd King. Heddwch i’w lwch.

Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tyst, fel ‘Barn Annibynol’ gan Geraint Rees

Gweddi ar gyfer heddiw

Gweddi ar gyfer heddiw gan Nadia Bolz-Weber

Duw a’n gwnaeth ni oll,

Mae ein cysurwyr wedi hen ymlâdd. Rho orffwys i’r rhai sy’n gofalu am y cleifion.

Mae ein plant wedi diflasu, Dduw. Rho fwy o greadigrwydd i’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.

Mae ein ffrindiau yn unig, Dduw. Helpa ni i estyn llaw.

Mae ein bugeiliaid yn gwneud y gorau y gallan nhw, Dduw. Helpa nhw i wybod fod eu gofal yn ddigon.

Mae ein gweithwyr mor aml nawr yn ddi-waith, Dduw. Caniatâ i ni ddatblygu moeseg gymunedol i ni gydofalu am ein gilydd.

Mae cymaint o rieni wedi diflasu wrth fod yn gaeth i’w cartrefi gyda’r plant. Dduw, rho i ni awydd am bartïon sy’n llawn chwarae annisgwyl a llawenydd a dawns i bawb sydd mewn angen.

Mae’r gweithwyr yn ein siopau yn amsugno pryder pawb, Dduw. Gwarchod nhw oddi wrthym.

Mae ein henoed hyd yn oed yn fwy ynysig, Dduw. Cysura hwy.

Dy’n ni ddim wedi gwneud hyn o’r blaen ac mae arnom ofn, Dduw.

Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod beth arall i weddïo amdano.    

Amen.

Y weddi gwreiddiol ar Facebook

Nadia Bolz-Weber, gan Stephen Ludwig, CC BY 2.0 https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=85367564

Epynt

BETH I’W WNEUD AG EPYNT?
neu
‘GO HOME, SAVE LIVES’

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tipyn o sylw wedi ei roi ar y cyfryngau ac yn y wasg i gofio Epynt a’r 80 mlynedd ers y ‘Chwalu’. Un o’r cyfryngau mwyaf effeithiol fu tudalen Facebook, ‘Atgofion Epynt’, a sefydlwyd ddiwedd Mawrth ac sydd bellach efo 800 o ddilynwyr.

I’r sawl na ŵyr yr hanes, aeth y Weinyddiaeth Amaeth i gymdogaeth Epynt ym Mawrth 1940 a rhoi gwybod i aelodau’r gymdogaeth fod angen iddynt symud o’u tai o fewn deufis, gan fod eisiau’r tir ar y Fyddin fel maes tanio. Cwynodd y trigolion fod hyn yn amhosib oherwydd ei bod yn dymor wyna a chawsant ddeufis o ras. Yn fuan iawn, roedd yr ysgol, y dafarn a’r capel wedi eu cau. Erbyn 30 Mehefin roedd preswylwyr 54 o gartrefi wedi eu symud a’u holl anifeiliaid wedi eu gwerthu. Ar 1 Gorffennaf dechreuodd y tanio.

 Fel y gallwch ddychmygu, bu’n brofiad trawmatig i bob un ohonynt, yn enwedig y rhai hŷn. Gadawsant aelwydydd lle ganed hwy, lle ganed eu rhieni a’u teidiau a’u neiniau. Roedd ebolion wedi bod ar y mynydd am dros fil o flynyddoedd. Roedd yn gymdogaeth wâr, gyfeillgar, ddiwylliedig, ac roedd bron yn uniaith Gymraeg. Dywedwyd bod yr hyn ddigwyddodd ar Fynydd Epynt wedi symud ffin y Gymraeg bron ugain milltir i’r gorllewin. Mae hynny i’w weld ar y dudalen Facebook. Mae sawl cyfraniad yn Saesneg yn cyfeirio at ‘Tad-cu’ neu ‘my grandmother … who used to live there’.

 Mae’n gymdogaeth werthfawr i hanes Cymru. Wrth i Williams Pantycelyn ganu, ‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell’, golygfa tua Mynydd Epynt roedd o’n cyfeirio ati. Ar gyrion Epynt mae ei gartref. Ym mhen arall y gymdogaeth mae Cefn Brith, cartref y merthyr John Penri. Allwch chi weld y Fyddin yn sefydlu maes tanio mor agos i rai o dai mwyaf hanesyddol Lloegr?

 Gan i’r cyfan ddigwydd mor sydyn, ni chafwyd ymgyrch faith yn erbyn y cynllun. Ceisiodd Plaid Cymru godi llais, ond yn ofer. Roedd hi’n gyfnod rhyfel â’r Natsïaid yn rhuthro drwy Ewrop. Mater bach oedd tynged cymuned ar fynydd-dir yng Nghymru, pris bach i’w dalu am amddiffyn pobl wrth i fomiau ddisgyn ar Gaerdydd ac Abertawe. Mudodd pobl Epynt dan yr argraff y cawsent ddod yn ôl yno unwaith y deuai’r rhyfel i ben. Gadawodd y Weinyddiaeth Amddiffyn iddynt gredu hynny.

 Cymerodd Thomas Morgan, Glandŵr, yr addewid yn rhy lythrennol. Mynnai ddychwelyd i’w gartref yn rheolaidd i gynnau tân ar yr aelwyd rhag ofn i’r lle ddirywio. Anwybyddodd rybudd y milwyr i gadw draw. Un diwrnod, daeth yno i ganfod fod ei gartref wedi diflannu. Roedd y Fyddin wedi ei ffrwydro. Deallodd Thomas Morgan nad oeddent am gael dychwelyd.

Daeth y rhyfel i ben a chadwodd y Fyddin ei gafael ar y 30,000 o erwau o Fynydd Epynt. Erbyn 1990, pan euthum yno gyntaf, roedd hanner can mlynedd wedi mynd heibio ac roedd y Fyddin wedi cynyddu nifer yr erwau roedden nhw wedi eu meddiannu yn yr ardal. Yr hyn a’m dychrynodd oedd y pentref ffug yr oedden nhw wedi ei godi ar y tir yn ddiweddar. Wedi dymchwel 54 o ffermydd, codasant dai o’r newydd, tai gwag na fyddai neb yn byw ynddynt. Adeiladwyd eglwys hyd yn oed, eglwys na fyddai neb yn addoli ynddi a mynwent na fyddai neb yn cael ei gladdu yno. Unig ddiben yr eglwys ar Epynt yw lle i ymarfer lladd o’i chwmpas. Unig ddiben y cerrig beddi ffug yw lle i guddio tu ôl iddynt wrth anelu gwn. Mae’r cyfan yn ffiaidd. Fel y dywed Tudur Dylan mewn cerdd ddiweddar:

Ar hyd afon Rhiw Defaid
sgidiau dur sy’n lledu’r llaid
o’u barics nos a bore
i ddod â lladd hyd y lle;
yma’n y cwm, tanc mewn cae,
bwledi ’Mhant y Blodau.

Dyna pam y teimlaf fod yr hyn ddigwyddodd ar Epynt yn waeth na’r hyn ddigwyddodd yng Nghapel Celyn. Nid oedd trawma’r bobl y bu raid iddynt adael eu cartrefi yng Nghapel Celyn fymryn llai, ond mae’r hyn ddigwyddodd wedyn yn waeth yn achos Epynt. Cwm wedi ei foddi fydd Cwm Tryweryn am byth. Nid oes modd newid y dirwedd.

Ar Epynt, mae’r tir yn dal yno. A phob dydd ers 1 Gorffennaf 1940, maent yn sarnu’r cof o’r newydd wrth berffeithio’r dechneg o ladd. Roedd y rhai a ffermiai dir Epynt yn trin tir da. Mae’r Fyddin wedi ei lygru efo gwerth 80 mlynedd o ffrwydradau. Nid oes modd ffermio ar Epynt drachefn.

Diben y cofio yn 2020 yw dysgu cenhedlaeth newydd am yr hyn ddigwyddodd 80 mlynedd yn ôl. Wrth ddweud ‘Cofiwch Dryweryn’ neu ‘Cofiwch Epynt’, fedrwch chi mo’u cofio heb wybod amdanynt yn gyntaf. Credaf yn gryf y dylai Tryweryn ac Epynt fod ar y maes llafur ym mhob ysgol yng Nghymru.

Ond mae cwestiwn arall yn codi ac yn un sy’n berthnasol inni i gyd – beth i’w wneud ag Epynt heddiw? A ddylid caniatáu i’r Fyddin ddal ei gafael arno?

Mae un peth y gallem fel Cristnogion fod yn gytûn arno, sef ei bod yn hen bryd dymchwel yr eglwys ffug ar Epynt a’r fynwent wrth ei hymyl. Mae’n rhan o FIBUA (Fighting in Built-up Areas). Ond wedi dymchwel Capel y Babell, fu’n safle sanctaidd i gymuned Epynt, sarhad ar ben sarhad oedd codi eglwys ffug i ddiben ymarfer lladd. Dylem ddatgan yn glir a diamwys wrth y Fyddin nad oes lle i’r fath adeilad ar Epynt nac yn unman arall.

Wedi dymchwel yr eglwys, mi fyddwn yn galw ar y Fyddin i ddymchwel gweddill yr adeiladau yn y pentref ffug. Byddwch yn ddigon dewr i’w dymchwel. Fe’i codwyd er mwyn i filwyr Prydeinig ymarfer eu sgiliau cyn mynd i Bosnia, i Afghanistan ac i lefydd eraill yn y Dwyrain Canol. Mae’n hyll eu bod yn dal i sefyll. Er cof am y bobl a laddwyd yn y gwledydd hyn, byddwch yn ddigon o fois i’w dymchwel. Rhowch ffrwydron oddi tanynt. Chwalwch hwy’n yfflon, fel y gwnaethoch i Glandŵr, cartref Thomas Morgan.

Ac os oes gennych ffrwydron yn weddill, ewch â hwythau hefyd ac ewch o Fynydd Epynt. Gadawch y lle. Wedi 80 mlynedd, mae’n hen bryd i chi fynd. I ba ddiben ydych chi’n dal eich gafael ar y lle? Beth yw gwaddol y Fyddin ar Epynt? Be lwyddoch chi i’w wneud yno?

Hirllwyn, Brynmelyn, Llwyn-coll, Gilfach-yr-haidd, Neuadd Fach, Croffte, Cwm-nant-y-moch, Llwyn-teg Isaf, Cefn-bryn Isaf, Gelli-gaeth, Cefn-bryn Uchaf, Lan-fraith a Gythane: dyma enwau rhai o’r cartrefi ddaru chi eu dileu. Dydyn nhw ddim yn bod bellach, dim ond enwau ar dudalen Facebook ydynt. Ond mae pobl yn dal i gofio. Ar gyfryngau cymdeithasol, yng nghanol pandemig, y mae cenhedlaeth newydd yn trafod yr enwau hyn.

Sy’n dod â ni at gwestiwn arall. Drannoeth Diwrnod y Lluoedd Arfog, ar Bwrw Golwg, roedd trafodaeth rhwng Marcus Robinson a Mererid Hopwood. Daliai Marcus fod ‘angen amddiffyn heddwch ein gwlad’. Rhag beth? Rhag pwy? Fel yr atebodd Mererid, mae holl gyfundrefn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn seiliedig ar gynnal ofn a drwgdybio ein gilydd.

Mae COVID-19 wedi newid ein meddyliau am gymaint o bethau. Mae wedi ein gorfodi, mewn ychydig wythnosau, i ddod wyneb yn wyneb efo miliynau yn colli eu bywydau. Mae wedi codi’r ofn mwyaf dychrynllyd arnom ac wedi peri inni chwilio am achubiaeth. Mae wedi achosi inni ailystyried ein gwerthoedd a’r modd y caiff arian y wlad ei wario. Pa ystyr sydd mewn gwario ar atalfa niwclear neu ymosodiad seibr? Arian ar gyfer PPE yw ein hangen pennaf. Ariannu brechlyn yw’r flaenoriaeth fwyaf. Amddiffyn bywydau yw’r gri ddyddiol. Onid yw dadlau dros faes tanio yn chwerthinllyd o amherthnasol bellach?

Ar blacardiau, ar faneri mewn gwahanol bentrefi yng Nghymru, mae’r sloganau wedi eu peintio yn datgan, ‘Go Home. Save Lives’. Mae’n neges yr un mor berthnasol i’r Fyddin ar Epynt heddiw.

Angharad Tomos
Gorffennaf 2020