Archif Tag: diwinyddiaeth

Theologica Cambrensis – darlith

Theologia Cambrensis: cipdrem ar hanes diwinyddiaeth yng Nghymru, 1760-1900

Ymunwch gydag Adran Athroniaeth Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru am ddarlith gyda’r Athro Densil Morgan fydd yn trafod themau o’i lyfr Theologia Cambrensis. Teitl y ddarlith fydd “Theologia Cambrensis: cipdrem ar hanes diwinyddiaeth yng Nghymru, 1760-1900”. Bydd y sesiwn o ddiddordeb i bawb sydd gyda diddordeb mewn syniadaeth Gymreig a’i ddatblygiad hyd at heddiw. 

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal drwy Zoom ar y 24ain o Chwefror, 7.30- 8.30 y.h. 

Er mwyn cael mynediad at y manylion er mwyn cofrestru, cofrestrwch ar y dudalen hon, neu cysylltwch gyda iagogd@cardiff.ac.uk

Trosolwg o gynnwys y sgwrs: 

Disgrifiad ac asesiad o ddatblygiad y meddwl crefyddol Cymreig yw Theologia Cambrensis, y gyfrol gyntaf, a gyhoeddwyd yn 2018, yn trafod y cyfnod rhwng 1588 hyd 1760, a’r ail gyfrol, i’w chyhoeddi ym Medi 2021, yn ymestyn o 1760 hyd 1900. Bydd y sgwrs yn crybwyll y meddwl Methodistaidd, yn arbennig Thomas Jones o Ddinbych, Lewis Edwards a’i fab Thomas Charles Edwards, syniadaeth Anglicanaidd yng Nghymru, Calfiniaeth “gymedrol” ymhlith yr efengyleiddwyr, a dirywiad Calfiniaeth yn ail hanner Oes Victoria. Trafodir hfyd effaith Idealaeth athronyddol ar y meddwl diwinyddol a thwf sgeptigiaeth erbyn diwedd y ganrif’. 

Byw ar ffiniau

BYW AR FFINIAU
Traethodau gan Enid Morgan

Croesi Ffiniau

Mae’n syndod na chafodd yr Eglwys Fore ei llongddryllio yn ei hanner can mlynedd cyntaf. Mae’r dadleuon tanbaid yn edrych yn ddigon od i ni – naill ai’n astrus a dibwys, neu hyd yn oed yn ddoniol. A oedd angen i Gristnogion newydd ufuddhau i ddeddfau bwyd yr Iddewon? Oedd angen rhoi’r gorau i fwyta cig moch a chimwch? Ai brad oedd i Gristion Iddewig fynd i dŷ Rhufeiniwr? A ellid caniatáu paentio darlun o’r Iesu? A ddylai gwragedd guddio’u gwallt? Ac a oedden nhw’n aflan ar ddyddiau misglwyf? Yn benodol a phoenus, a oedd enwaediad yn rheidrwydd i bob gwryw, boed Iddew neu beidio?

I Saul o Darsus, y Pharisead o ddinesydd Rhufeinig, bu’r rheolau hyn o bwys mawr. Cymaint oedd ei ofid am ei etifeddiaeth grefyddol a diwylliannol nes iddo erlid yn ddiarbed y sect newydd a honnai mai Iesu o Nasareth oedd y Meseia addawedig. Cawsai hwnnw ei groeshoelio gan yr awdurdodau Rhufeinig mewn cydweithrediad ag awdurdodau’r deml. Yr oedd y rheini’n argyhoeddedig fod Iesu am ddinistrio’r deml. Honnid gan ei ddilynwyr fod yr un a grogwyd ar bren wedi ei atgyfodi, ac yn Was, yn Fab, neu’n Air Duw. Daeth brwydr Paul yn erbyn y chwyldröwr hwnnw i’w hanterth wrth iddo deithio i Ddamascus i erlid y dilynwyr yno.

Tarian enwaedu Iddewig (Llun Amgueddfa Wyddoniaeth, CC)

 I’r Iddewon, enwaediad oedd y peth pwysicaf oll, arwydd yn y cnawd gwrywaidd eu bod mewn perthynas gyfamodol, nid dim ond partneriaeth, â Duw. I Paul, rhan o’r cyfamod oedd ei berthynas â’i lwyth – llwyth Benjamin, bod yn Hebrëwr o’r Hebreaid; bod yn Pharisead, hynny yw, yn fanwl ei barch i’r Gyfraith Iddewig. Golygai hyn ei fod yn barod i erlid y ffydd newydd am ei bod yn tanseilio’r pethau hyn i gyd.

Ar ôl ei brofiad ar y ffordd i Ddamascus, a chael ei dderbyn dros dro gan raslonrwydd y Cristnogion yno, y mae ei ddealltwriaeth o’r cwbl yn dra gwahanol. Ond yr oedd gorfod ffoi mewn basged, a mynd i Arabia am flynyddoedd cyn ei bod yn ddiogel iddo ddychwelyd, yn brawf fod y rhai a fu o’r un anian ag ef heb newid eu meddwl o gwbl. Wrth ysgrifennu ar y pwnc at Gristnogion yn Philippi, dywed (yn y cyfieithiad parchus Cymraeg) ei fod yn ystyried y cwbl yn ‘ysbwriel’. Tom yw cyfieithiad cywirach William Morgan (Philipiaid 3.8). I gyfleu dwyster y newid, gallem ddweud fod Paul yn edrych ar ei etifeddiath ac yn taeru mai ‘Cachu yw’r cwbl’. (Dyma i chi’r Paul diflewyn-ar-dafod.)

I Gristnogion mwy diweddar, nid mater cyfraith oedd hyn, ond mater o wrthod Iesu. Ac ar y mater dwys hwn y datblygodd rhwyg enbyd, rhwyg a ddatblygodd yn sail i gasineb gwrth-Iddewig. Am fod ymrannu yn ‘ni’ a ‘nhw’ yn rhan o batrwm pechadurus y ddynoliaeth, bu ymddygiad Cristnogion tuag at Iddewon yn amddiffyn Iesu yn brawf nad oeddent wedi deall neges Iesu. Yn y gweryl hon y gwreiddiodd casineb a arweiniodd drwy’r pogromau, yr Holocost, Seioniaeth, esgymundod Palesteina. Heddiw, mae gelyniaeth at Iddewon fel petai wedi rhwygo’r blaid Lafur, yn sicr ynghudd ymhlith Toriaid, ac yn peryglu heddwch y byd.

Nid dim ond Iddewiaeth a Christnogaeth sy’n caniatáu i’w profiad o’r trosgynnol gael ei lygru gan ymateb llwythol a diwylliannol. Mae’n amlwg ym myd Islam. Onid yw’n hynod fod ffydd yn Allah, yr holldrugarog, yn methu goresgyn ymlyniad nifer o genhedloedd Affrica wrth yr arfer o lurgunio organau cenhedlu merched bach. Tuedd patriarchaeth ffyddlon i Allah a Thad ein Harglwydd Iesu Grist fu babïo gwragedd. Mae’n chwerthinllyd na all gwragedd yrru ceir yn Saudi Arabia. Ond ym Mhrydain ni fedrai gwragedd priod fod yn berchen eiddo tan 1870, pan basiwyd y gyntaf o’r Deddfau Eiddo Gwragedd. Hyd heddiw, mae ’na eglwysi Cristnogol sy’n dweud wrth wragedd priod sy’n dioddef trais gan eu gwŷr mai eu dyletswydd yw bod yn israddol i’w gwŷr am mai hwy yw ‘pen’y wraig. Mewn rhai cymunedau Islamaidd bydd pobl gyffredin yn siarad am Allah â’r un rhwyddineb ag yr arferai gweithwyr glo de Cymru a gweithwyr llechi’r gogledd siarad am Iesu. Ond erbyn heddiw daeth tro ar fyd ac mae ’na swildod enbyd hyd yn oed am grybwyll enw Duw mewn trafodaeth. Bu grymusoedd diwylliannol ac economaidd ar waith i gynhyrchu diwylliant materol seciwlar, diwylliant ymosodol o wrth-dduwiol sy’n daer yn erbyn diwinyddiaeth geidwadol y llythyrenolwyr. Mae ambell Gristion fel petai’n amau defnyddioldeb diwinyddiaeth o gwbl.

Ond weithiau y rhai sydd wedi colli eu ffydd sy’n anwylo’r diwylliant fwyaf. Dyna sut y mae’r BNP yn hawlio bod yn blaid wleidyddol Gristnogol. Beth wnawn ni o hyn i gyd? Beth ddywed yr Efengyl? Pan ddechreuwch chi edrych ar yr efengylau gyda’r cwestiwn hwn yn eich meddwl fe sylweddolwch yn fuan fod yr Iesu’n ymwybodol iawn o’r problemau. Fe wnaeth ef herio llawer o arferion a deddfau Iddewiaeth gan ddweud “Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, ond yr wyf innau’n dywedyd…’

Ymhlith ein heglwysi, mater o ddiwylliant a damwain hanesyddol yw llawer o’r gwahaniaethau rhwng enwadau a thraddodiadau. Egwyddorion â’u gwreiddiau mewn materion diwinyddol a oedd yn bwysig iawn ar un cyfnod. Yn Ewrop y mae efengyl a diwylliant wedi eu gweu ynghyd, ond erbyn hyn mae’r gwead fel petai’n datod. Oes yna’r fath beth ag efengyl ‘bur’? Argyhoeddiad llawer o Brotestaniaid Efengylaidd yw mai dyna yw eu ffydd hwy, ac mae hynny’n rhoi hyder iddynt fentro i wledydd Pabyddol ac Uniongred i ddwyn y ‘gwir’ efengyl i’r dinasyddion yno. Byddai Cristnogion yn y canrifoedd cynnar yn galw eu hunain yn ‘ymwelwyr’, gwesteion dros dro (sojourners). Pobl nad oeddent yn ddinasyddion, nad oeddent yn perthyn i’r diwylliant o’u cwmpas oedd y rhain, ac nid ystyrid eu bod dan rwymedigaeth i’r wladwriaeth. A fyddai’r fath beth yn bosibl heddiw? Dan ba amgylchiadau y gallai hynny fod yn rheidrwydd?

Rhybuddiodd Iesu ni ‘Lle y mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon’. Yr ydym yn trysori ein diwylliant; rhaid wrth arfer a threfn i fyw gyda’n gilydd o gwbl, i fedru cyfathrebu â’n gilydd, i berthyn i’n gilydd. Ond gallwn lithro i dderbyn cael ein diffinio gan ein diwylliant a dysgu ofni’r ‘arall’, y peth sydd ddim yn perthyn nac yn eiddo i ni. Mae’r dadleuon am fewnfudo (i Gymru ac i Loegr), iaith am gael ein boddi, yn drysu’r drafodaeth. Mae’r reddf i wrthod y dieithr a’i gau allan o’n diwylliant a’n cylch cysurus i’w weld yn yr anawsterau ynglŷn â gweinidogion Cristnogol sy’n ‘hoyw’ neu’n gyfunrywiol. Mae chwerwder a thaerineb y rhai sy’n barnu a chondemnio ac yn ceisio gyrru allan bobl hynod a dawnus yn dangos sut y mae diwylliant yn mynnu torri allan. Mae hanesion y ‘torri allan’ yn etifeddiaeth chwerw ym myd ymneilltuaeth heddiw. Arswyd yw gweld eglwysi Cristnogol yn ceisio bod yn ‘bur’ heb geisio bod yn drugarog.

Peth poenus yw newid ein ‘safonau’: mae troi cefn ar bethau a gymerid yn ganiataol yn teimlo fel brad. W. B. Yeats a fynnodd mai dim ond mewn arfer a seremoni y gall diniweidrwydd a harddwch ffynnu. Ond mewn llestri pridd y cadwn ein trysorau, a digon hawdd yw cyboli mwy am y llestri na’r trysorau. Yr oedd Iesu’n peryglu’r llestri pridd; mynnai na ellid rhoi gwin newydd mewn hen gostreli. Dyna un o’r rhesymau pam yr oedd y traddodiad a’r diwylliant yn ei ofni ac yn ei gasáu.

Mewn cyfres o draethodau rwy’n bwriadu edrych ar wahanol fathau o ddiwylliant – rhai traddodiadol yn bennaf – ac ystyried a ydynt yn wir gydnaws â’r efengyl. Y bwriad yw tanseilio ein hymlyniad diamod wrth y man lle rydyn ni’n gyfforddus a pheri i ni fod yn fwy ymwybodol o’r peryglon wrth hawlio ein bod yn ddiwylliant neu’n genedl ‘Gristnogol’. Cynigir yma storïau am deithio ar draws ffiniau, ac edrych a gwrando mewn ffordd fydd yn ein galluogi i fwynhau amrywiaeth diwylliant fel rhoddion gan Dduw. Cawn ein cymell i fod yn wylaidd a doniol am ein sicrwydd a’n trysorau, a bod yn barod i ddymchwel y delwau a addolir gennym.

 

Cofio James Cone

Yr Athro James H Cone, Union Theological Seminary, EfrogNewydd.

Cofio James Cone

 – a fu ‘o fewn munudau i adael yr eglwys’

Bu farw’r diwinydd James Cone ar 28 Ebrill yn 79 oed. Fe’i penodwyd yn Athro Diwinyddiaeth yng Ngholeg Union, UDA, yn 1969 ac yr oedd yn parhau i ddarlithio, ysgrifennu a phregethu i’r diwedd, bron. Roedd yn weinidog yn Eglwys Fethodistaidd Esgobol Affrica. Go brin y bydd ei enw yn golygu fawr ddim i’r mwyafrif o Gristnogion Gymru, ond fe fydd pawb yn gwybod am yr un a gafodd y dylanwad mwyaf arno, sef Martin Luther King. Bu Malcolm X yn ddylanwad arno hefyd. Cone yn fwy na neb, yn wir, a adeiladodd ar waith King a datblygu i fod yn broffwyd y ‘dystiolaeth ddu’ mewn gwlad o ‘Dduw gwyn’.

Mae Jim Wallis, arweinydd mudiad y Sojourners, wedi cyhoeddi cyfrol yn ddiweddar sy’n awgrymu mai ‘hilyddiaeth yw pechod gwreiddiol Americanwyr’ ac wedi cydnabod mai dylanwad James Cone sydd y tu ôl i ddatganiad dadleuol, ond proffwydol, o’r fath.

Mae nodi prif gyfrolau James Cone yn gystal cyflwyniad â dim i’w feddwl a’i waith:

Black Theology and black power (1969)

A black theology of Liberation (1970)

God of the oppressed (1975)

The Cross and the Lynching Tree (2011).

James Cone oedd yn gyfrifol am osod sylfeini Diwinyddiaeth Rhyddhad y Du, diwinyddiaeth a ddatblygodd yn gyntaf ymysg tlodion De a Chanolbarth America yn 60au a 70au yr ugeinfed ganrif ond diwinyddiaeth na chafodd fawr o sylw yng Nghymru, ac eithrio  ymdrechion yr Athro D. P. Davies i wneud hynny.

Daeth Cone i sylweddoli fod hilyddiaeth bersonol a chyfundrefnol wedi meddiannu’r Gristnogaeth wyn, orllewinol ac Americanaidd, ac y mae hynny i’w weld erbyn hyn yn y Cristnogion (honedig) gwyn, efengylaidd, sydd mor gefnogol i Donald Trump. Cafodd Cone ei ddadrithio yn ifanc gan eglwysi efengylaidd America ond daeth i sylweddoli bod hynny yn ddwfn yn holl draddodiad ‘y gwareiddiad Cristnogol’. Yr oedd geiriau fel  ‘Duw y darostyngedig oedd Duw y Beibl’ neu ‘mae cariad tuag at y darostyngedig a’r tlawd, yn ogystal â’r angerdd dwyfol, yn dangos bod cyfiawnder yng nghalon Duw’. Bu Cone ar fin troi ei gefn ar Gristnogaeth, ond clywodd yr alwad – hon oedd ei alwad fawr, wedi’r gyntaf pan oedd yn 16 oed – i ‘lefaru ar ran y di-lais a’r di-rym du yn America, yn enw Iesu, yr un a ddaeth i gyhoeddi rhyddid i’r caethion’.

Mynnai na all ‘Diwinyddiaeth Rhyddid’ fod yn opsiwn mewn coleg diwinyddol nac eglwys leol na chyfundrefnau eglwysig.

Yn y ‘lynching era’ (1880-1940) crogwyd 5000 o ddynion a merched du eu lliw gan Gristnogion gwyn, a hynny’n ein hatgoffa o groeshoeliad Iesu gan y Rhufeiniaid. Ond nid oedd y ‘Cristnogion‘ hyn yn gweld yr eironi na’r rhagrith yn eu gweithredoedd.

(The Cross and the Lynching Tree)

Ni allwn byth ymaflyd ac ymgiprys digon â Duw os ydym yn gwneud hynny gyda pharch at y gwirionedd, meddai Simone Weil, yr athronydd o Ffrainc. Mae’n well gan Grist i ni roi’r gwirionedd o’i flaen ef, oherwydd cyn bod yn Grist, gwirionedd ydoedd. Wrth droi oddi wrtho a mynd ar drywydd y gwirionedd, nid awn ymhell cyn syrthio i’w freichiau.

(The Cross and the Lynching Tree)

Pa siom bynnag a gafodd Martin Luther King, ni pheidiodd â phregethu gobaith gydag angerdd proffwyd. Mae’r freuddwyd yn parhau, meddai, oherwydd ni allwn ddigalonni. Os collwn obaith, fe gollwn yr egni a’r wefr sy’n symud bywyd yn ei flaen, rydym yn colli’r ‘dewrder i fod’, yr ysbryd hwnnw sy’n ein galluogi i fynd ymlaen er gwaethaf popeth.

(The Cross and the Lynching Tree)

Teyrnged yr Union Theological Seminary i’w Hathro (gan gynnwys dolen at recordiad o’i angladd)