Archifau Categori: Agora 24

Dwn i ddim

‘Dwn i ddim …’

Mae gan wleidyddion fel arfer lawer i’w ddweud. Ond ymadrodd fyddwch chi prin yn ei glywed yn dod o’u genau yw ‘Dwn i ddim’. Yn wir, mae peidio gwybod pethau wedi troi yn arwydd o wendid ym marn y cyhoedd, neu o leiaf ym marn y cyfryngau.

Dwn i ddim pryd yn union y dechreuodd hyn. Efallai mai methiant Dan Quayle i sillafu’r gair ‘potato’ yn ystod ymgyrch etholiadol yr Unol Daleithiau yn 2008 oedd un o’r camau tyngedfennol. Byth oddi ar hynny mae gofyn cwestiynau o’r fath i wleidyddion – sillafu, symiau, cwestiynau o’r arholiad ar gyfer darpar-ddinasyddion Prydeinig – wedi dod yn gêm gan y cyfryngau torfol, yn enwedig wrth ddarlledu’n fyw.

Weithiau, wrth gwrs, mae’r cwestiynau nad oes modd eu hateb yn bwysicach na hynny – cofier methiant Diane Abbott i wybod cost polisi ei phlaid ei hun parthed plismona yn ystod etholiad cyffredinol 2017. Erbyn hyn, fe wyddom fod effeithau diabetes yn pwyso’n drwm arni ar y pryd.

Mae digwyddiadau fel hyn wedi peri i wleidyddion deimlo mai dweud ‘Dwn i ddim’ yw’r peth gwaethaf posibl. Yr enghraifft ddiweddaraf o rywun ddioddefodd yn sgil y gred honno wrth i mi sgrifennu yw Amber Rudd, a oedd yn amlwg yn methu ateb yn gyflawn rai o gwestiynau Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin, ond yn credu mai’r peth gorau fyddai ceisio swnio’n bendant yn ei hymateb. Y canlyniad oedd iddi gamarwain y Pwyllgor. Pe bai wedi dweud “Dwn i ddim”, mae’n bosibl y byddai hi’n dal yn ei swydd o hyd.

Yr eironi, wrth gwrs, yw fod ceisio sicrwydd a phendantrwydd wrth lefaru yn ei gwneud hi’n debycach y bydd gwleidydd yn llefaru celwydd, neu o leiaf yn dweud rhywbeth anwir, hyd yn oed os nad o fwriad. Mae hyn wedyn yn tanseilio’i hygrededd yng ngolwg y cyhoedd – ac yn cynyddu’r duedd i ddymuno ymddangos yn bendant am bob dim.

Mae’r duedd hon wedi cyrraedd uchafbwynt newydd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn y trafodaethau am drefniant tollau newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd. Nid oes unrhyw gynllun pendant wedi ei gyflwyno gan neb y gellid ei ddadansoddi a’i drafod yn rhesymol. Ond nid yw hyn yn atal gwleidyddion a sylwebyddion rhag datgan yn gwbl glir beth fyddai canlyniadau cynlluniau nad ydynt eisoes yn bodoli. Y gwir yw mai’r geiriau “dwn i ddim” yw’r unig rai all ateb cwestiynau megis: “Pa fath o beth fyddai undeb tollau newydd?”, “A ellir cael trefniant fydd yn cadw’r ffin yn Iwerddon yn agored?” neu “Beth fyddai canlyniadau peidio â chael trefniant tollau newydd?” Ychydig iawn o gyhoeddusrwydd gafodd sylwadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis cyflwyniad difyr a manwl Lars Karlsson o flaen Pwyllgor Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin ar 20 Mawrth, sy’n esbonio bod llawer mwy y gellid ei wneud i greu ffin ddidrafferth yn Iwerddon nag y mae rhai yn tybio – ond llai nag mae eraill yn honni! A’i ateb i ambell gwestiwn oedd, “Dwn i ddim”!

Wrth gwrs, mae ffug sicrwydd wedi cael enw drwg iawn yn dilyn refferendwm 2016. Nid sôn yr ydwyf fan hyn am yr addewid ar ochr y bws coch parthed ariannu’r Gwasanaeth Iechyd, ond cofio i Boris Johnson, Michael Gove, David Davis a Liam Fox oll ddweud mai mater rhwydd iawn fyddai negodi trefniadau masnach ar gyfer y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd wrth i ni ymadael. Efallai mai un o gamau moesol (os nad gwleidyddol) gorau Theresa May oedd gosod y dynion hyn yng ngofal y trafodaethau, gan sicrhau felly y byddai angen iddynt gymryd cyfrifoldeb personol am eu sylwadau pe byddai eu rhagfynegiadau hyderus yn profi’n anghywir.

Os anghywir y profant, nid y Deyrnas Unedig fydd y wlad gyntaf i ddarganfod y gwirionedd hwn am ddatganiadau carlamus parthed rhwyddineb camu i annibyniaeth oddi wrth uned fwy. Does ond angen meddwl am beth ddigwyddodd i addewidion arweinyddion De Swdan wrth iddi dorri’n rhydd oddi wrth y Swdan, neu Eritrea wrth iddi ddod yn annibynnol ar Ethiopia. Hyderu am ddyfodol gwell oedd dinasyddion y ddwy wlad newydd hyn, ond nid felly y bu – hyd yma, o leiaf. Calonogol felly yw bod mudiad Yes Cymru yn dweud yn gwbl groyw, “Ni allwn honni fod gennym yr holl atebion.” Pryd glywyd geiriau tebyg ddiwethaf ar lwyfan Prydeinig?

Nid pechod yw dyheu am sicrwydd. Mae’n gwbl ddealladwy. Fe gyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr o fudiadau hawliau dynol yng Ngogledd Iwerddon, sy’n cael yr ansicrwydd ynglŷn â ffawd y dalaith yn dilyn Brexit yn annioddefol bron. Mae’r ofn sy’n cyniwair yn y wlad yn weladwy, a hynny yn bennaf oherwydd yr ansicrwydd sydd o’u cwmpas. Mae’n naturiol fod arweinyddion megis Arlene Foster am gynnig sicrwydd a hyder iddynt. Y drafferth yw nad oes sail ganddynt ar hyn o bryd i wneud hynny. Dyna ddagrau’r sefyllfa.

Cyn i ni daflu gormod o fai ar ein gwleidyddion, dylem nodi hefyd fod lladmeryddion crefydd yn dueddol iawn o wneud yr un peth. Gallwch wylio ar y We gannoedd o fideos a darllen miloedd o erthyglau yn cynnig sicrwydd am fywyd ar ôl marwolaeth. Yn ddiweddar fe fûm yn cynnal angladdau dau o’m cyd-aelodau yn ein capel yng Nghaerdydd. Roedd y ddau yn bobl feddylgar, ac wedi dweud yn agored iawn eu bod yn amau rhai o ddatganiadau sicr Cristnogaeth. Mentrais ddweud yn y naill angladd a’r llall nad oeddwn yn gwybod i sicrwydd beth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth – ond fy mod yn barod i ymddiried yn Nuw, serch hynny. Roedd yn ddiddorol faint o’r galarwyr ddaeth ataf ar ddiwedd y gwasanaeth i ddiolch i mi am beidio â chynnig ffug sicrwydd am fater na all neb fod yn sicr ohono. Roedd gan ambell un hanesion digon brawychus am or-sicrwydd a gynigiwyd i deuluoedd ar adegau tebyg yn y gorffennol. Nid bygythiad oedd y geiriau “dwn i ddim” yn y cyd-destun hwn, ond cysur.

I ddod ’nôl i fyd gwleidyddiaeth – oes yna obaith, felly? Efallai fod yna. Lai na hanner awr wedi i Carwyn Jones gyhoeddi ei fod am sefyll i lawr fel arweinydd Plaid Lafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, roedd y cyfryngau wrthi’n gofyn i bob darpar ymgeisydd posibl a fyddent yn sefyll. Un yn unig roddodd ymateb pendant, sef Mark Drakeford. Fe fu i nifer o’r lleill ddefnyddio’r geiriau anodd hynny “Dwn i ddim”. Roeddent am ymgynghori â’u teuluoedd, eu pleidiau lleol, ac mewn rhai achosion â’r genedl gyfan, cyn penderfynu. Mae tipyn o watwar wedi bod mewn rhai cylchoedd ar yr amhendantrwydd hwn. Ond tybed nad yw hi’n argoeli’n dda y gallem gael yng Nghymru Brif Weinidog sy’n barod i ddweud ar goedd “Dwn i ddim”?

Gethin Rhys

Mae Gethin yn gweithio fel Swyddog Polisi’r Cynulliad Cenedlaethol i Cytûn. Barn bersonol a geir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 10 Mai 2018.

Cofio James Cone

Yr Athro James H Cone, Union Theological Seminary, EfrogNewydd.

Cofio James Cone

 – a fu ‘o fewn munudau i adael yr eglwys’

Bu farw’r diwinydd James Cone ar 28 Ebrill yn 79 oed. Fe’i penodwyd yn Athro Diwinyddiaeth yng Ngholeg Union, UDA, yn 1969 ac yr oedd yn parhau i ddarlithio, ysgrifennu a phregethu i’r diwedd, bron. Roedd yn weinidog yn Eglwys Fethodistaidd Esgobol Affrica. Go brin y bydd ei enw yn golygu fawr ddim i’r mwyafrif o Gristnogion Gymru, ond fe fydd pawb yn gwybod am yr un a gafodd y dylanwad mwyaf arno, sef Martin Luther King. Bu Malcolm X yn ddylanwad arno hefyd. Cone yn fwy na neb, yn wir, a adeiladodd ar waith King a datblygu i fod yn broffwyd y ‘dystiolaeth ddu’ mewn gwlad o ‘Dduw gwyn’.

Mae Jim Wallis, arweinydd mudiad y Sojourners, wedi cyhoeddi cyfrol yn ddiweddar sy’n awgrymu mai ‘hilyddiaeth yw pechod gwreiddiol Americanwyr’ ac wedi cydnabod mai dylanwad James Cone sydd y tu ôl i ddatganiad dadleuol, ond proffwydol, o’r fath.

Mae nodi prif gyfrolau James Cone yn gystal cyflwyniad â dim i’w feddwl a’i waith:

Black Theology and black power (1969)

A black theology of Liberation (1970)

God of the oppressed (1975)

The Cross and the Lynching Tree (2011).

James Cone oedd yn gyfrifol am osod sylfeini Diwinyddiaeth Rhyddhad y Du, diwinyddiaeth a ddatblygodd yn gyntaf ymysg tlodion De a Chanolbarth America yn 60au a 70au yr ugeinfed ganrif ond diwinyddiaeth na chafodd fawr o sylw yng Nghymru, ac eithrio  ymdrechion yr Athro D. P. Davies i wneud hynny.

Daeth Cone i sylweddoli fod hilyddiaeth bersonol a chyfundrefnol wedi meddiannu’r Gristnogaeth wyn, orllewinol ac Americanaidd, ac y mae hynny i’w weld erbyn hyn yn y Cristnogion (honedig) gwyn, efengylaidd, sydd mor gefnogol i Donald Trump. Cafodd Cone ei ddadrithio yn ifanc gan eglwysi efengylaidd America ond daeth i sylweddoli bod hynny yn ddwfn yn holl draddodiad ‘y gwareiddiad Cristnogol’. Yr oedd geiriau fel  ‘Duw y darostyngedig oedd Duw y Beibl’ neu ‘mae cariad tuag at y darostyngedig a’r tlawd, yn ogystal â’r angerdd dwyfol, yn dangos bod cyfiawnder yng nghalon Duw’. Bu Cone ar fin troi ei gefn ar Gristnogaeth, ond clywodd yr alwad – hon oedd ei alwad fawr, wedi’r gyntaf pan oedd yn 16 oed – i ‘lefaru ar ran y di-lais a’r di-rym du yn America, yn enw Iesu, yr un a ddaeth i gyhoeddi rhyddid i’r caethion’.

Mynnai na all ‘Diwinyddiaeth Rhyddid’ fod yn opsiwn mewn coleg diwinyddol nac eglwys leol na chyfundrefnau eglwysig.

Yn y ‘lynching era’ (1880-1940) crogwyd 5000 o ddynion a merched du eu lliw gan Gristnogion gwyn, a hynny’n ein hatgoffa o groeshoeliad Iesu gan y Rhufeiniaid. Ond nid oedd y ‘Cristnogion‘ hyn yn gweld yr eironi na’r rhagrith yn eu gweithredoedd.

(The Cross and the Lynching Tree)

Ni allwn byth ymaflyd ac ymgiprys digon â Duw os ydym yn gwneud hynny gyda pharch at y gwirionedd, meddai Simone Weil, yr athronydd o Ffrainc. Mae’n well gan Grist i ni roi’r gwirionedd o’i flaen ef, oherwydd cyn bod yn Grist, gwirionedd ydoedd. Wrth droi oddi wrtho a mynd ar drywydd y gwirionedd, nid awn ymhell cyn syrthio i’w freichiau.

(The Cross and the Lynching Tree)

Pa siom bynnag a gafodd Martin Luther King, ni pheidiodd â phregethu gobaith gydag angerdd proffwyd. Mae’r freuddwyd yn parhau, meddai, oherwydd ni allwn ddigalonni. Os collwn obaith, fe gollwn yr egni a’r wefr sy’n symud bywyd yn ei flaen, rydym yn colli’r ‘dewrder i fod’, yr ysbryd hwnnw sy’n ein galluogi i fynd ymlaen er gwaethaf popeth.

(The Cross and the Lynching Tree)

Teyrnged yr Union Theological Seminary i’w Hathro (gan gynnwys dolen at recordiad o’i angladd)