Cynhelir sesiwn ar Zoom ‘Addoli yn y Cyfnod Clo’ ar nos Fercher 15 Gorffennaf am 7 o’r gloch.
Gweler yr hysbysiad uchod am y manylion llawn
Fe fydd Cyfarfod Cyffredinol Cristnogaeth 21 yn dilyn y sesiwn.
Cynhelir sesiwn ar Zoom ‘Addoli yn y Cyfnod Clo’ ar nos Fercher 15 Gorffennaf am 7 o’r gloch.
Gweler yr hysbysiad uchod am y manylion llawn
Fe fydd Cyfarfod Cyffredinol Cristnogaeth 21 yn dilyn y sesiwn.
Cynhadledd Flynyddol C21
‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’
yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans
dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd
Lawrlwythwch y poster yma
Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567
Dydd Sadwrn, 26 Mai 2018
Ystafell Teifi, Canolfan Gynadledda Halliwell
Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP
Trosolwg
Brwydrodd William Salesbury (1520 – 1599?) yn daer ar i’r Cymry gael “yr yscrythur lan yn ych iaith”. Un o’i weithiau pwysicaf oedd Kynniver llith a ban, sef cyfieithiad i’r Gymraeg o’r Epistolau a’r Efengylau a benodwyd yn Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg 1549. Fodd bynnag, cofiwn amdano yn bennaf oll am y gwaith arloesol a wnaeth ef, ochr yn ochr â Richard Davies, Esgob Tyddewi, ym Mhalas yr Esgob yn Abergwili, i gyfieithu’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg. Mae’r ddwy gyfrol yn gerrig filltir yn hanes Cymru o ran diwinyddiaeth, litwrgi a datblygiad yr iaith a phwrpas y diwrnod hwn fydd cael cyfle i ystyried y cyfraniad aruthrol hwn.
Rydym yn hynod o falch o gael croesawu naw arbenigwr yn y maes i’n hannerch, gyda’u cyflwyniadau wedi eu trefnu mewn tri chylch o dri. Bydd y cylch cyntaf yn ystyried cyd-destun y gwaith a fu’n digwydd yn sgil newidiadau ysgubol y Dadeni a’r Diwygiad; awn ati i archwilio testunau’r cyfnod yn yr ail; ac yn y trydydd ystyrir dylanwad Testament Newydd 1567 ar y cyfieithiadau a ddaeth wedyn. Ym mhob cylch bydd y cyflwyniadau’n cymryd tua 20 munud yr un, gyda 30 munud ar y diwedd er mwyn holi’r darlithwyr.
Amserlen y Diwrnod
10.00am Y Foreol Weddi (yn ôl trefn 1567) yng Nghapel y Brifysgol
10.30am Coffi yn Ystafell Teifi
10.50am Gair o groeso gan Esgobaeth presennol Tyddewi, y Wir Barch. Joanna Penberthy
11.00am Y cylch cyntaf o ddarlithoedd
Y Cyd-destun: y cefndir i Destament Newydd 1567
1A Yr Athro Emeritws Ceri Davies – ‘William Salesbury: Dyneiddiwr Cristnogol’
1B Dr Robert Pope – ‘Sola Scriptura: Prif Gynsail y Diwygiad Mawr?’
1C Yr Athro Emeritws D. Densil Morgan – ‘Diosg yr allorau: William Salesbury a’i Baterie of the Pope’s Botereulx‘
12.30pm Cinio
Bydd caffi yn gwerthu brechdanau ar agor. Fel dewis arall, gallwch ddod â rhywbeth gyda chi
1.30pm Yr ail gylch o ddarlithoedd
Y Testun: archwilio Testament Newydd 1567
2A Dr Catrin Williams – ‘Golwg ar rai o Egwyddorion Cyfieithu William Salesbury’
2B Mr Geraint Lloyd – ‘”Air yn eu gylydd”’ – egwyddorion cyfieithu Testament Newydd 1567’
2C Dr Christine Jones – ‘”Yn ieith ei wlat”’: Golwg ar gyfieithiad Thomas Huet o Lyfr y Datguddiad’
3.00pm Te
3.30pm Y trydydd cylch o ddarlithoedd
Yr ‘Ôl-destun’: dylanwad Testament Newydd 1567
3A Y Parch. Ddr. Adrian Morgan
3B Yr Athro E. Wyn James
3C Mr. Arfon Jones
5.00pm Yr Hwyrol Weddi (yn ôl trefn 1567)
Teitl i’w gadarnhau
‘Y Trobwynt Mawr: Deddf, Llyfr Gweddi a’r Salmau’
‘Darllen, darganfod a digido: o Salesbury i beibl.net’
Estynnir croeso cynnes i unrhyw sydd â diddordeb i fynychu. Fodd bynnag, bydd angen cadw lle er mwyn hwyluso’r trefniadau ymarferol. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Chynorthwy-ydd Personol Esgob Tyddewi, Dawn Evans, erbyn 18 Mai.
Llys Esgob, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG Ffôn : 01267 236597 dawnevans@churchinwales.org.uk
[Copi digidol y Llyfrgell Genedlaethol o Destament Newydd 1567]