Archif Tag: beibl

Ymddiheuriad

Ymddiheuriad

Mae hi’n gyfnod diddorol iawn o ran ymddiheuriadau: Almaenwyr yn ymddiheuro i Iddewon am yr holocost; Llywodraeth Prydain yn ymddiheuro i’r bobol hynny a ddaeth yma ar long yr Empire Windrush ond a alltudiwyd wedyn ar gam; Tony Blair yn ymddiheuro am ryfel Irac; awdurdodau Gogledd Iwerddon yn ymddiheuro am ladd ar y Sul Gwaedlyd; prifweithredwraig Hong Kong, Carrie Lam, yn ymddiheuro am ystyried creu deddf newydd; Michael Gove yn ymddiheuro am gymryd cocên. A theulu Carl Sargeant yn disgwyl ymdiheuriad gan Carwyn Jones. Mae’r rhestr yn faith. Hefyd, y mae’n codi cwestiwn: beth yw ymddiheuriad? Onid hanner ymddiheuriad yw ambell un. Wedi i Marc Field ymosod ar brotestwraig mewn cinio, ymddiheurodd iddi gyda’r eglurhad ei fod yn ofni ei bod yn arfog. Dyna unreserved apology, yn ôl Jeremy Hunt. Hanner ymddiheuriad i mi, yn awgrymu mai hi oedd ar fai.

Mae’r gair ei hun yn ddiddorol. Y gair Saesneg yw ‘apology’, wedi ei fenthyca o Roeg a Lladin, ac yn golygu’n wreiddiol ‘gair sy’n tynnu i ffwrdd’, hynny yw ‘tynnu’r bai i ffwrdd’. Fe ddefnyddiwyd y gair gan John Henry Newman yn ei Apologia Pro Vita Sua yn union yn yr hen ystyr yna: amddiffyniad am gwrs ei fywyd a’i gred, a’r cyfan er mwyn ei gyfiawnhau ei hun. Yna, yn Saesneg fe newidiodd y gair ‘apologia’ ei ystyr yn llwyr, a daeth i olygu cyffes unigolyn am ryw gam a wnaeth â rhywun. Mae’r gair ‘apology’ bellach yn cael ei ddefnyddio pan fydd rhywun yn syrthio ar ei fai. Ond, yn anffodus, mae blas yr hen ystyr hunangyfiawn yn parhau o hyd mewn ambell ymddiheuriad, ac fe deimlir am lawer ‘apology’ mai ystryw ydyw i osgoi ysgwyddo’r bai.

Yn rhyfedd iawn mae’r gair Cymraeg ‘ymddiheuriad’ wedi newid yn yr un ffordd yn union. Ystyr y gair ‘diheuro’ yw cyhoeddi fod rhywun, yr haerwyd ei fod wedi troseddu, yn ddieuog. Fe ddefnyddir yr union air yn Rhufeiniaid 8.33: Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r un sy’n diheuro.’ Yna fe fathwyd y gair ‘ymddiheuro’ am rywun yn ei gyhoeddi ei hun yn ddieuog, gan osgoi cymryd y bai.

Eithr, yn union yn yr un ffordd ag y newidiodd ‘apologise’ ac ‘apology’ eu hystyr yn Saesneg, fe newidiodd ‘ymddiheuro’ ac ‘ymddiheuriad’ eu hystyr yn Gymraeg. Daethant i olygu ‘cyfaddef bai’ a chydnabod euogrwydd, a dyna brif ystyr ‘ymddiheuriad’ i ni heddiw. Ond pan fyddwn y dyddiau hyn yn gweld gwleidyddion yn ‘ymddiheuro’, fe fyddwn weithiau’n clywed yr hen flas gwreiddiol hunangyfiawn ar eu hymddiheuriad. Fel Michael Gove yn ychwanegu at ei gyffes am gymryd cyffuriau: ‘ond onid ydym oll yn bechaduriaid mewn byd syrthiedig?’

Ugain canrif yn ôl fe soniodd Iesu am yr union wahaniaeth rhwng y ddau ymddiheuriad: yr hen ymddiheuriad sy’n troi’n hunanamddiffyniad, ac ymddiheuriad yn ei ystyr newydd sy’n gyffes ac yn cydnabod bai. Soniodd am ddau ddyn yn mynd i’r deml i weddïo. Dechreuodd un ohonynt ei weddi yn rhagorol, yn cydnabod ei ddyled i Dduw: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch i ti …’ A byddem ar unwaith yn meddwl, dyma wir ymddiheuriad yn ei ystyr newydd. Ond wedyn fe waethygodd pethau: ‘… am nad wyf fi fel pawb arall’. Beth gawn ni o hynny ymlaen, am weddill ei weddi ef, yw ‘ymddiheuriad’ yn yr hen ystyr, sef cyhoeddi ei fod yn ddieuog ym mhob ffordd oherwydd ei weithredoedd da. Yr hen apologia. Yna soniodd Iesu am un arall yn dod ag ymddiheuriad yn ei ystyr newydd, yn cyfaddef yn llwyr ei fod ar fai: ‘O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.’ Ac meddai Iesu: ‘Dyma’r dyn a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall.’

JGJ

 

 

 

Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567

Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567

Dydd Sadwrn, 26 Mai 2018
Ystafell Teifi, Canolfan Gynadledda Halliwell
Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP

Trosolwg

Brwydrodd William Salesbury (1520 – 1599?) yn daer ar i’r Cymry gael “yr yscrythur lan yn ych iaith”. Un o’i weithiau pwysicaf oedd Kynniver llith a ban, sef cyfieithiad i’r Gymraeg o’r Epistolau a’r Efengylau a benodwyd yn Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg 1549. Fodd bynnag, cofiwn amdano yn bennaf oll am y gwaith arloesol a wnaeth ef, ochr yn ochr â Richard Davies, Esgob Tyddewi, ym Mhalas yr Esgob yn Abergwili, i gyfieithu’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg. Mae’r ddwy gyfrol yn gerrig filltir yn hanes Cymru o ran diwinyddiaeth, litwrgi a datblygiad yr iaith a phwrpas y diwrnod hwn fydd cael cyfle i ystyried y cyfraniad aruthrol hwn.

Rydym yn hynod o falch o gael croesawu naw arbenigwr yn y maes i’n hannerch, gyda’u cyflwyniadau wedi eu trefnu mewn tri chylch o dri. Bydd y cylch cyntaf yn ystyried cyd-destun y gwaith a fu’n digwydd yn sgil newidiadau ysgubol y Dadeni a’r Diwygiad; awn ati i archwilio testunau’r cyfnod yn yr ail; ac yn y trydydd ystyrir dylanwad Testament Newydd 1567 ar y cyfieithiadau a ddaeth wedyn. Ym mhob cylch bydd y cyflwyniadau’n cymryd tua 20 munud yr un, gyda 30 munud ar y diwedd er mwyn holi’r darlithwyr.

Amserlen y Diwrnod

10.00am  Y Foreol Weddi (yn ôl trefn 1567) yng Nghapel y Brifysgol
10.30am  Coffi yn Ystafell Teifi
10.50am  Gair o groeso gan Esgobaeth presennol Tyddewi, y Wir Barch. Joanna Penberthy
11.00am  Y cylch cyntaf o ddarlithoedd

Y Cyd-destun: y cefndir i Destament Newydd 1567

1A Yr Athro Emeritws Ceri Davies – ‘William Salesbury: Dyneiddiwr Cristnogol’
1B Dr Robert Pope – ‘Sola Scriptura: Prif Gynsail y Diwygiad Mawr?’
1C Yr Athro Emeritws D. Densil Morgan – ‘Diosg yr allorau: William Salesbury a’i Baterie of the Pope’s Botereulx

12.30pm  Cinio

Bydd caffi yn gwerthu brechdanau ar agor. Fel dewis arall, gallwch ddod â rhywbeth gyda chi

1.30pm  Yr ail gylch o ddarlithoedd

Y Testun: archwilio Testament Newydd 1567

2A Dr Catrin Williams – ‘Golwg ar rai o Egwyddorion Cyfieithu William Salesbury’
2B Mr Geraint Lloyd – ‘”Air yn eu gylydd”’ – egwyddorion cyfieithu Testament Newydd 1567’
2C Dr Christine Jones – ‘”Yn ieith ei wlat”’: Golwg ar gyfieithiad Thomas Huet o Lyfr y Datguddiad’

3.00pm Te

3.30pm Y trydydd cylch o ddarlithoedd

Yr ‘Ôl-destun’: dylanwad Testament Newydd 1567

3A  Y Parch. Ddr. Adrian Morgan
3B  Yr Athro E. Wyn James
3C  Mr. Arfon Jones

5.00pm Yr Hwyrol Weddi (yn ôl trefn 1567)

Teitl i’w gadarnhau

‘Y Trobwynt Mawr: Deddf, Llyfr Gweddi a’r Salmau’
‘Darllen, darganfod a digido: o Salesbury i beibl.net

Estynnir croeso cynnes i unrhyw sydd â diddordeb i fynychu. Fodd bynnag, bydd angen cadw lle er mwyn hwyluso’r trefniadau ymarferol. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Chynorthwy-ydd Personol Esgob Tyddewi, Dawn Evans, erbyn 18 Mai.

Llys Esgob, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG Ffôn : 01267 236597 dawnevans@churchinwales.org.uk 

[Copi digidol y Llyfrgell Genedlaethol o Destament Newydd 1567]