Archifau Categori: Agora 25

Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd

Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd

Cynhelir 10ed Darlith Flynyddol Stafell Fyw Caerdydd ar 19 Mehefin yn yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd, rhwng 7 a 9 y.h.

Traddodir y ddarlith ar y testun ‘Diogelu’r genhedlaeth nesaf rhag niwed’ gan yr Athro Samantha Thomas. Prifysgol Deakin, Melbourne, Awstralia.

Croeso mawr i bawb.

Gellir cofrestru ar livingroom-cardiff.com neu drwy eu ffonio ar 029 2049 3895

Yn Deg Oed

Yn ddeg oed

Mae Cristnogaeth 21 yn ddeg oed eleni. Mae dweud hynny braidd yn ymhonnus, wrth gwrs, fel petaem yn hawlio ‘Cristnogaeth’! Mae awgrymu mai dyma Gristnogaeth yr unfed ganrif ar hugain yr un mor ymhonnus, wrth gwrs. Parhad, atodiad, trafodaeth, amrywiaeth, darganfod, dysgu, ysgogi yw Cristnogaeth 21, a hynny’n barhad o hen, hen draddodiad. Mae’r ffydd Gristnogol wedi parhau’n ffydd fyw oherwydd bod yr eglwys a Christnogion wedi rhannu a thystio mai mudiad ydyw – neu, yng ngeirfa’r Pentecost, yr Ysbryd ar waith – a bod y gwaith a’r dystiolaeth mor fyw ac amrywiol ag erioed. Mae Cristnogaeth 21 mor hen â hynny! Mae hynny’n golygu rhyw ddeialog barhaus, neu berthynas fyw, â’n gorffennol, â’r Beibl ac â’n gilydd. Neu, a’i roi yn iaith heriol a chyfeillgar Iesu: ‘Pwy y mae pobl yn dweud wyf fi ?’ – a chwestiynau eraill.

Pan ddechreuodd Cristnogaeth 21 fel gwefan ddiwedd 2008 roedd y bwriad yn syml, sef cyflwyno:

           lle i drafod y ffydd heb ddisgwyl unffurfiaeth,

            fforwm i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol,

           a chyflwyno deunydd gwerthfawr ac adeiladol i ddilynwyr Iesu yn yr 21ain ganrif,

            – a hynny yn ‘gwrtais a gonest’.

Fe ddylai pawb oedd â’u bysedd ar byls datblygiad a dirywiad Cristnogaeth yng Nghymru sylweddoli bod gwir angen fforwm o’r fath, oherwydd:

  • mai prin yw’r cyfleoedd a’r lle i drafod, yn y Gymraeg, ein ffydd yn gwbwl agored a bod y drafodaeth honno’n agored i bawb yn ddiwahân, oddi mewn neu oddi allan i’r eglwys;
  • bod llwyddiant a’r twf mewn Cristnogaeth geidwadol, efengylaidd (mewn mannau, ffwndamentalaidd) yn arwain at honiad mai dyma’r ‘unig efengyl’, a hynny’n arwain at feddiannu Efengyl Crist, ymbellau oddi wrth Gristnogion eraill, a magu rhagfarnau,gelyniaeth a diffyg goddefgarwch mewn byd sy’n llawn rhagfarnau.

Bu peth ymateb disgwyliedig negyddol i C21. Daeth yr ymateb eithafol pan ddywedwyd mai ‘gweinidogion wedi ymddeol ac wedi methu yn eu gweinidogaeth, yn ogystal â’u siomi yn y mudiad ecwmenaidd’ oedd tu ôl i’r wefan. Mae’r geiriau i’w gweld rhwng cloriau cyfrol glawr caled ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Achosodd yr ymateb ddryswch a thristwch yn ein plith, a’r unig eglurhad y gallem ei gynnig oedd mai rhagfarnau dall ac anwybodus oedd tu ôl i’r feirniadaeth a’i bod yn brawf pendant fod angen cyfrwng fel C21 yn y Gymru hon.

Mae’n llawer rhy fuan i ddweud beth yw lle a dylanwad C21. Ond o ddechrau bychan gwefan syml a Bwrdd Clebran (sef seiat/fforwm drafod), mae’r gweithgarwch wedi datblygu. Erbyn hyn, mae e-fwletin wythnosol a rhai cannoedd yn ei dderbyn; mae cynhadledd flynyddol ac encil blynyddol yn cael eu cynnal, a’r niferoedd yn tyfu bob blwyddyn; mae cylchgrawn digidol, Agora, wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n cyfrannu i’r wefan; mae un neu ddau o grwpiau lleol yn cyfarfod; ac mae nifer (5) o gyhoeddiadau wedi ymddangos sy’n ganlyniad uniongyrchol i sefydlu Cristnogaeth 21.

Mae methiannau hefyd sydd yn profi mai bregus iawn yw Cristnogaeth 21. Criw bychan ydym ac ar y cyfan criw hŷn ydym, ond gyda blynyddoedd o brofiad o fewn a thu allan i’r bywyd eglwysig. Prin iawn yw’r seiadu ar y wefan ac er bod rhai o safwynt efengylaidd wedi deall ein bwriad ac yn cyfrannu, ychydig iawn ydynt, ac rydym yn ddiolchgar iddynt. Nid yw cyhoeddusrwydd C21 wedi bod yn ddigonol chwaith ac nid yw trwch aelodau ein heglwysi yn gwybod dim am C21. Mae’r anwybodaeth honno yn wir hefyd yn achos Cymry Cymraeg sydd wedi hen droi cefn ar yr Efengyl a’r eglwys. Mae cymaint o Gymry Cymraeg (fel y Cymry di-Gymraeg a’r Saeson) mewn anwybodaeth lwyr am y ffydd Gristnogol a heb unrhyw le, o bosibl, i ofyn eu cwestiynau, rhannu eu meddyliau a herio ein honiadau.

Cristion

A ninnau’n dathlu’r deg gyda chynhadledd yng Nghaerdydd ynglŷn â darllen y Beibl heddiw, mae’n braf cael diolch i dîm golygyddol Cristion (Trydar @cristion_net) sydd a’u tymor o bum mlynedd wedi dod i ben, ac i ddymuno’n dda i Owain Llŷr ar ddechrau ei dymor yntau.

Mae cyfraniad olaf Gwenno Mererid, ‘Newid’, yn gyfraniad gonest, na fyddai Gwenno, efallai, wedi’i ysgrifennu ar ddechrau ei thymor. O edrych yn ôl ar ei chyfraniadau, roedd llawer o gwestiynau, amwyster a gonestrwydd yn ei herthyglau. Mae’n cydnabod hefyd mai wrth ddechrau ei chyfraniadau yr oedd yn ‘llachar, yn newydd, yn sgleinio â bywyd yn syml. Erbyn hyn dwi’n teimlo fel potyn metal wedi ei dolcio’. Bellach yn briod ac yn fam, nid yw’n dweud beth sydd wedi’i tholcio – mae colli rhywun agos ac ifanc yn dolc sy’n aros – ond mae’n dweud hefyd fod y newidiadau mwyaf dramatig yn digwydd i bobl sydd wedi cael eu magu yn y traddodiad crefyddol ceidwadol. Mae’n cydnabod ei bod, wrth fynd yn hŷn (aeddfedu?), yn newid, yn cwestiynu pendantrwydd ac yna, y geiriau ardderchog hyn: ‘Wrth fynd yn hŷn, ella bod fy ffydd i ddim mor gadarn, ond [mae] yn ddyfnach rhywsut.’ Mae cyfeillion Cristnogaeth 21 wedi cydnabod o’r dechrau bod yn rhaid i’r eglwys a phobl tu allan i’r eglwysi wybod y gall ansicrwydd a chwestiynau fod nid yn gymaint yn rhwystr i ffydd, fel y cred rhai, ond yn gymdeithion ffydd hefyd. Mae Gwenno yn dyfynnu nofelydd o’r enw Anne Lamont sy’n dweud nad amheuon sy’n groes i ffydd, ond sicrwydd neu – yn iaith Gwenno – bendantrwydd. Mae’r Beibl a chyfoeth yr etifeddiaeth Gristnogol yn tystio i hynny.

‘Uniongrededd hael’ yw teitl ysgrif Rhys Llwyd. Fe fydd Rhys yn gwybod (ac mae wedi cyfrannu i seiadau Cristnogaeth 21) fod yna nifer o safbwyntiau, radical a thraddodiadol-uniongred hefyd, sy’n troi at C21 am nad ydynt mor ymwybodol ag eraill o’r labeli sy’n ein baglu a’n rhannu. Mae uniongrededd hael yn nodweddu llawer o Gristnogion ‘efengylaidd’ o fewn yr eglwysi enwadol ond a fyddai’n anghyfforddus iawn mewn cylchoedd caeedig Cristnogol. Mae tuedd i ymhyfrydu, ond yn wylaidd ac edifeiriol, o fewn cylchoedd ‘efengylaidd’ mai nhw yw’r Cristnogion go iawn sydd ar ôl yng Nghymru, sef ‘gweddill ffyddlon etholedig Duw’. Dyna’r traddodiad y magwyd Rhys ynddo ac er ei fod yn parhau i arddel y ffydd efengylaidd mae ei ddealltwriaeth o’i hystyr bellach yn llai cyfyng a dogmatig ac yn fwy crwn ac amlhaenog. Ond, meddai, ‘Mae un egwyddor, un sylfaen lle nad yw “trafod” yn bosibl, sef Iesu ei hun. Nid safbwynt na chysyniad diwinyddol fu farw ar y Groes, ond person, annwyl Iesu sy’n fawr fel Duw a mawr fel dyn.’

Yn y berthynas rhwng Cristnogion a’i gilydd, mae’n hollbwysig gwybod, er mwyn rhannu’n agored y pethau y gallwn wahaniaethu arnynt. Mae’n ddiddorol fod Rhys yn dweud ‘nad yw trafod yn bosibl ynglŷn â Iesu ei hun’. A yw’r gair terfynol wedi’i ddweud am Iesu oherwydd Crist byw ydyw a grym ei atgyfodiad yn ddiderfynau? Go brin y gellir ei gyfyngu i athrawiaeth na phrofiad personol. Ac o ddilyn Iesu, ei gydnabod yn Arglwydd ein bywyd a’i eglwys (gan wybod bod angen egluro/ esbonio arwyddocâd y gair ‘Arglwydd’) yn ogystal â gwrando ar dystiolaeth yr Efengylau a’r Eglwys Fore, mae’n anodd peidio credu na all Iesu fod yn ddim ond sylfaen ein hundod a’n tystiolaeth i gariad adnewyddol Duw. Go brin fod ‘Pwy y mae pobl yn dweud wyf fi?’ ac ‘Ond pwy ydach chi yn meddwl wyf fi?’ yn gwestiynau ddoe.

Beth am ddod i’r gynhadledd yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin? ‘Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur’ gyda’r Gwir Barchedig Jeffrey John, Deon St Albans, yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd, 10.00–2.15 (dewch â’ch cinio ysgafn eich hun. Coffi a the ar gael).

Beth am gofrestru i dderbyn yr e-fwletin wythnosol, neu ei ddarllen ar ein gwefan? Beth am bori yn www.cristnogaeth21.cymru a chael eich bodloni fod yna drafodaeth a chyfraniadau gwerthfawr i’r meddwl Cristnogol yng Nghymru?