Byw ar ffiniau

BYW AR FFINIAU
Traethodau gan Enid Morgan

Croesi Ffiniau

Mae’n syndod na chafodd yr Eglwys Fore ei llongddryllio yn ei hanner can mlynedd cyntaf. Mae’r dadleuon tanbaid yn edrych yn ddigon od i ni – naill ai’n astrus a dibwys, neu hyd yn oed yn ddoniol. A oedd angen i Gristnogion newydd ufuddhau i ddeddfau bwyd yr Iddewon? Oedd angen rhoi’r gorau i fwyta cig moch a chimwch? Ai brad oedd i Gristion Iddewig fynd i dŷ Rhufeiniwr? A ellid caniatáu paentio darlun o’r Iesu? A ddylai gwragedd guddio’u gwallt? Ac a oedden nhw’n aflan ar ddyddiau misglwyf? Yn benodol a phoenus, a oedd enwaediad yn rheidrwydd i bob gwryw, boed Iddew neu beidio?

I Saul o Darsus, y Pharisead o ddinesydd Rhufeinig, bu’r rheolau hyn o bwys mawr. Cymaint oedd ei ofid am ei etifeddiaeth grefyddol a diwylliannol nes iddo erlid yn ddiarbed y sect newydd a honnai mai Iesu o Nasareth oedd y Meseia addawedig. Cawsai hwnnw ei groeshoelio gan yr awdurdodau Rhufeinig mewn cydweithrediad ag awdurdodau’r deml. Yr oedd y rheini’n argyhoeddedig fod Iesu am ddinistrio’r deml. Honnid gan ei ddilynwyr fod yr un a grogwyd ar bren wedi ei atgyfodi, ac yn Was, yn Fab, neu’n Air Duw. Daeth brwydr Paul yn erbyn y chwyldröwr hwnnw i’w hanterth wrth iddo deithio i Ddamascus i erlid y dilynwyr yno.

Tarian enwaedu Iddewig (Llun Amgueddfa Wyddoniaeth, CC)

 I’r Iddewon, enwaediad oedd y peth pwysicaf oll, arwydd yn y cnawd gwrywaidd eu bod mewn perthynas gyfamodol, nid dim ond partneriaeth, â Duw. I Paul, rhan o’r cyfamod oedd ei berthynas â’i lwyth – llwyth Benjamin, bod yn Hebrëwr o’r Hebreaid; bod yn Pharisead, hynny yw, yn fanwl ei barch i’r Gyfraith Iddewig. Golygai hyn ei fod yn barod i erlid y ffydd newydd am ei bod yn tanseilio’r pethau hyn i gyd.

Ar ôl ei brofiad ar y ffordd i Ddamascus, a chael ei dderbyn dros dro gan raslonrwydd y Cristnogion yno, y mae ei ddealltwriaeth o’r cwbl yn dra gwahanol. Ond yr oedd gorfod ffoi mewn basged, a mynd i Arabia am flynyddoedd cyn ei bod yn ddiogel iddo ddychwelyd, yn brawf fod y rhai a fu o’r un anian ag ef heb newid eu meddwl o gwbl. Wrth ysgrifennu ar y pwnc at Gristnogion yn Philippi, dywed (yn y cyfieithiad parchus Cymraeg) ei fod yn ystyried y cwbl yn ‘ysbwriel’. Tom yw cyfieithiad cywirach William Morgan (Philipiaid 3.8). I gyfleu dwyster y newid, gallem ddweud fod Paul yn edrych ar ei etifeddiath ac yn taeru mai ‘Cachu yw’r cwbl’. (Dyma i chi’r Paul diflewyn-ar-dafod.)

I Gristnogion mwy diweddar, nid mater cyfraith oedd hyn, ond mater o wrthod Iesu. Ac ar y mater dwys hwn y datblygodd rhwyg enbyd, rhwyg a ddatblygodd yn sail i gasineb gwrth-Iddewig. Am fod ymrannu yn ‘ni’ a ‘nhw’ yn rhan o batrwm pechadurus y ddynoliaeth, bu ymddygiad Cristnogion tuag at Iddewon yn amddiffyn Iesu yn brawf nad oeddent wedi deall neges Iesu. Yn y gweryl hon y gwreiddiodd casineb a arweiniodd drwy’r pogromau, yr Holocost, Seioniaeth, esgymundod Palesteina. Heddiw, mae gelyniaeth at Iddewon fel petai wedi rhwygo’r blaid Lafur, yn sicr ynghudd ymhlith Toriaid, ac yn peryglu heddwch y byd.

Nid dim ond Iddewiaeth a Christnogaeth sy’n caniatáu i’w profiad o’r trosgynnol gael ei lygru gan ymateb llwythol a diwylliannol. Mae’n amlwg ym myd Islam. Onid yw’n hynod fod ffydd yn Allah, yr holldrugarog, yn methu goresgyn ymlyniad nifer o genhedloedd Affrica wrth yr arfer o lurgunio organau cenhedlu merched bach. Tuedd patriarchaeth ffyddlon i Allah a Thad ein Harglwydd Iesu Grist fu babïo gwragedd. Mae’n chwerthinllyd na all gwragedd yrru ceir yn Saudi Arabia. Ond ym Mhrydain ni fedrai gwragedd priod fod yn berchen eiddo tan 1870, pan basiwyd y gyntaf o’r Deddfau Eiddo Gwragedd. Hyd heddiw, mae ’na eglwysi Cristnogol sy’n dweud wrth wragedd priod sy’n dioddef trais gan eu gwŷr mai eu dyletswydd yw bod yn israddol i’w gwŷr am mai hwy yw ‘pen’y wraig. Mewn rhai cymunedau Islamaidd bydd pobl gyffredin yn siarad am Allah â’r un rhwyddineb ag yr arferai gweithwyr glo de Cymru a gweithwyr llechi’r gogledd siarad am Iesu. Ond erbyn heddiw daeth tro ar fyd ac mae ’na swildod enbyd hyd yn oed am grybwyll enw Duw mewn trafodaeth. Bu grymusoedd diwylliannol ac economaidd ar waith i gynhyrchu diwylliant materol seciwlar, diwylliant ymosodol o wrth-dduwiol sy’n daer yn erbyn diwinyddiaeth geidwadol y llythyrenolwyr. Mae ambell Gristion fel petai’n amau defnyddioldeb diwinyddiaeth o gwbl.

Ond weithiau y rhai sydd wedi colli eu ffydd sy’n anwylo’r diwylliant fwyaf. Dyna sut y mae’r BNP yn hawlio bod yn blaid wleidyddol Gristnogol. Beth wnawn ni o hyn i gyd? Beth ddywed yr Efengyl? Pan ddechreuwch chi edrych ar yr efengylau gyda’r cwestiwn hwn yn eich meddwl fe sylweddolwch yn fuan fod yr Iesu’n ymwybodol iawn o’r problemau. Fe wnaeth ef herio llawer o arferion a deddfau Iddewiaeth gan ddweud “Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, ond yr wyf innau’n dywedyd…’

Ymhlith ein heglwysi, mater o ddiwylliant a damwain hanesyddol yw llawer o’r gwahaniaethau rhwng enwadau a thraddodiadau. Egwyddorion â’u gwreiddiau mewn materion diwinyddol a oedd yn bwysig iawn ar un cyfnod. Yn Ewrop y mae efengyl a diwylliant wedi eu gweu ynghyd, ond erbyn hyn mae’r gwead fel petai’n datod. Oes yna’r fath beth ag efengyl ‘bur’? Argyhoeddiad llawer o Brotestaniaid Efengylaidd yw mai dyna yw eu ffydd hwy, ac mae hynny’n rhoi hyder iddynt fentro i wledydd Pabyddol ac Uniongred i ddwyn y ‘gwir’ efengyl i’r dinasyddion yno. Byddai Cristnogion yn y canrifoedd cynnar yn galw eu hunain yn ‘ymwelwyr’, gwesteion dros dro (sojourners). Pobl nad oeddent yn ddinasyddion, nad oeddent yn perthyn i’r diwylliant o’u cwmpas oedd y rhain, ac nid ystyrid eu bod dan rwymedigaeth i’r wladwriaeth. A fyddai’r fath beth yn bosibl heddiw? Dan ba amgylchiadau y gallai hynny fod yn rheidrwydd?

Rhybuddiodd Iesu ni ‘Lle y mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon’. Yr ydym yn trysori ein diwylliant; rhaid wrth arfer a threfn i fyw gyda’n gilydd o gwbl, i fedru cyfathrebu â’n gilydd, i berthyn i’n gilydd. Ond gallwn lithro i dderbyn cael ein diffinio gan ein diwylliant a dysgu ofni’r ‘arall’, y peth sydd ddim yn perthyn nac yn eiddo i ni. Mae’r dadleuon am fewnfudo (i Gymru ac i Loegr), iaith am gael ein boddi, yn drysu’r drafodaeth. Mae’r reddf i wrthod y dieithr a’i gau allan o’n diwylliant a’n cylch cysurus i’w weld yn yr anawsterau ynglŷn â gweinidogion Cristnogol sy’n ‘hoyw’ neu’n gyfunrywiol. Mae chwerwder a thaerineb y rhai sy’n barnu a chondemnio ac yn ceisio gyrru allan bobl hynod a dawnus yn dangos sut y mae diwylliant yn mynnu torri allan. Mae hanesion y ‘torri allan’ yn etifeddiaeth chwerw ym myd ymneilltuaeth heddiw. Arswyd yw gweld eglwysi Cristnogol yn ceisio bod yn ‘bur’ heb geisio bod yn drugarog.

Peth poenus yw newid ein ‘safonau’: mae troi cefn ar bethau a gymerid yn ganiataol yn teimlo fel brad. W. B. Yeats a fynnodd mai dim ond mewn arfer a seremoni y gall diniweidrwydd a harddwch ffynnu. Ond mewn llestri pridd y cadwn ein trysorau, a digon hawdd yw cyboli mwy am y llestri na’r trysorau. Yr oedd Iesu’n peryglu’r llestri pridd; mynnai na ellid rhoi gwin newydd mewn hen gostreli. Dyna un o’r rhesymau pam yr oedd y traddodiad a’r diwylliant yn ei ofni ac yn ei gasáu.

Mewn cyfres o draethodau rwy’n bwriadu edrych ar wahanol fathau o ddiwylliant – rhai traddodiadol yn bennaf – ac ystyried a ydynt yn wir gydnaws â’r efengyl. Y bwriad yw tanseilio ein hymlyniad diamod wrth y man lle rydyn ni’n gyfforddus a pheri i ni fod yn fwy ymwybodol o’r peryglon wrth hawlio ein bod yn ddiwylliant neu’n genedl ‘Gristnogol’. Cynigir yma storïau am deithio ar draws ffiniau, ac edrych a gwrando mewn ffordd fydd yn ein galluogi i fwynhau amrywiaeth diwylliant fel rhoddion gan Dduw. Cawn ein cymell i fod yn wylaidd a doniol am ein sicrwydd a’n trysorau, a bod yn barod i ddymchwel y delwau a addolir gennym.