E-fwletin 2 Awst 2020

Gyda chanllawiau COVID-19 yn cael eu llacio, ac ychydig mwy o ryddid, o leiaf yn arwynebol, trodd sylw ein trafodaethau eglwysig o fod yn canolbwyntio ar barhad argaeledd gwasanaethau ac addoliad, a chadw cyswllt a sicrwydd ‘koinonia’ yn fyw, i’r cyfnod ôl-COVID-19. Beth fydd goblygiadau’r cyfnod digynsail hwn ar ein heglwysi? Beth fydd ffurf addoli yn y dyfodol?

Cafwyd rhaeadr fyrlymog o syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol; rhaid, meddir, parhau gyda’r arlwy dechnolegol, rhaid cyfuno’r traddodiadol a’r newydd.  Un farn bendant sydd wedi amlygu ei hun: nid dychwelyd i’r hyn a fu ddylai’n nod fel eglwysi fod.  Os mai dim ond ymdrechu i gael pethau nôl i’r hyn oeddent yw ein dymuniad, cystal derbyn ein methiant nawr, a chyfaddef ein hamharodrwydd i ddysgu. Mae angen gweddi ddwys a chyfeiriedig yn gofyn am arweiniad i’r hyn y dylem fod wedi ei ddysgu dros y misoedd aeth heibio.

Estyn y cyfle hwn hefyd gyfle, nid yn unig i edrych ar ffurf ein haddoliad a’n cenhadaeth, ond hefyd ar sut y mae’n heglwysi yn cael eu rhedeg. Clywyd mewn trafodaethau ar Radio Cymru nifer o swyddogion eglwysi yn dweud ei fod yn ormod o waith i weithredu canllawiau’r Llywodraeth ac nad oedd y byd technolegol yn rhywbeth y medrent ymdopi ag ef.  Clywyd mewn un cyfweliad gyfaddefiad bod cyfartaledd oed swyddogion yr eglwys yn 75 mlwydd oed ac mai go brin y medrent wneud llawer i sicrhau parhad y dystiolaeth. Dyma’r ffyddloniaid dewr a dygn sydd wedi brwydro i gadw’r achos i fynd ers degawdau. Mawr ein diolch iddynt, ac yn sicr ni ddylid bod yn feirniadol nac yn anystyriol ohonynt. Rhaid, er hynny gofyn y cwestiwn, sut y crëwyd y fath sefyllfa? 

Ymchwil diddorol fyddai edrych ar Adroddiadau Blynyddol ein heglwysi. Faint o swyddogion eglwysi sydd wedi bod yn gwneud y gwaith dros ddegawd a mwy o flynyddoedd?  Gwnânt eu gwaith yn drwyadl a heb achwyn, ond a ydy’r fath barhad mewn swydd wirfoddol yn arfer da? Mewn cymdeithasau a sefydliadau seciwlar, tymor o dair a phum mlynedd yw’r arferol, ac efallai ail-ethol am un tymor arall. Oes yna genhedlaeth newydd o swyddogion eglwys yn cael eu meithrin yn ein heglwysi? Oes yna dimoedd cyllid ac ysgrifenyddol o fewn ein heglwysi yn magu swyddogion y dyfodol? A ydym yn dal at y cysyniad o fod yn ddiacon am oes?  O roi cyfnod penodol ar dymor Swyddogion Eglwysi oni estynnir cyfle i eraill? Yn fwy pwysig, efallai, sbarduno eraill at y gwaith?  A oes yna ‘elit’ yn rhedeg ein heglwysi ac fel y cynghorau lleol bondigrybwyll hynny yn yr 1960au a’r 1970au deiliaid yn gwrthod gadael i eraill gymryd lle?     

Geilw COVID-19 am edrychiad newydd ar ein ffordd o addoli, o genhadu ac o redeg ein heglwysi. Ni fydd canolbwyntio ar y ddarpariaeth addoli yn unig yn ddigon. Rhaid ystyried o ddifrif sut i sicrhau ymwneud llawer mwy o’n pobl yn swyddogaeth a llywodraeth ein heglwysi. ‘Nid oes ganddynt ddiddordeb’ – dyna’r ymateb yn aml. Wel nag oes siŵr iawn, nid ydynt wedi cael unrhyw gyfle! Mae angen i ni edrych ar becyn cyfan ein heglwysi os ydym, trwy ras Duw, am oroesi’r cyfnod rhyfedd hwn.