PERERINDOD O GWMPAS Y CARTREF YN YSTOD Y PANDEMIC CORONAVIRUS
Wrth bererindota fe fyddwn yn ymadael â’n cartrefi ac yn teithio i fan sanctaidd er mwyn gweddïo ac agosáu at Dduw. Ond mae ein cartrefi hefyd yn fannau sanctaidd, ac wrth symud o gwmpas ynddyn nhw gallwn weddïo ac agosáu at Dduw lawn cymaint â phetaem wedi mynd i ffwrdd ar bererindod.
- Y Drws Ffrynt
Efallai nad ydych wedi defnyddio llawer ar eich drws ffrynt ers sawl wythnos – efallai ddim o gwbl os ydych yn llwyr ynysu’ch hunan. Dyma, gan amlaf, ein man cyswllt cyntaf â’r byd y tu allan.
Arglwydd Dduw, mae’n anodd peidio mynd allan o’r tŷ. Er bod y drws ffrynt yn rhwystr sy’n ein gwahanu’n gorfforol oddi wrth y byd y tu allan, dyro i ni ras i gadw mewn cysylltiad mewn meddwl ac ysbryd ag eraill, gyda chyfeillion a theulu, gyda digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn enw Iesu, Amen.
- Yr Ystafell Fyw
Dyma’r man lle y byddwch chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser. Gan amlaf dyma’r ystafell i ymlacio ynddi, ond nawr gall fod yn teimlo’n debycach i garchar wrth i chi ddyfalu sut i dreulio’ch amser.
Arglwydd Ddduw, diolch i ti am gysur ein hystafell fyw a’r holl bethau ynddi sy’n arfer ein helpu i ymlacio. Bydded iddi ddal i fod yn fan cysur, a dangos i ni sut i ymroi i weithgareddau fydd yn rhoi i ni’r nerth a’r dyfalbarhad i fyw yn yr amser presennol hwn. Yn enw Iesu, Amen.
- Y Gegin a’r Ystafell Fwyta
Mae’n bosibl eich bod yn treulio mwy o amser yn paratoi bwyd – neu’n peidio ffwdanu, a ddim yn bwyta’n iach. Efallai’ch bod yn dibynnu ar bobl eraill i siopa drosoch ar hyn o bryd.
Arglwydd Dduw, diolch i bawb sy’n gweithio’n galed, ac efallai’n mentro’u bywydau, er mwyn darparu bwyd ar ein cyfer. Amddiffyn ffermwyr, dosbarthwyr, gweithwyr yn y siopau, gwirfoddolwyr mewn banciau bwyd a’r rhai sy’n defnyddio’u doniau i fwydo eraill, yn enwedig mewn ysbytai. Helpa ni i fwyta’n gall fel bod ein cyrff yn parhau’n gryf ac iach. Yn enw Iesu, Amen.
- Man Gwaith
Os ydych yn gweithio gartref, neu’n dysgu plant gartref, bu’n rhaid dod o hyd i le i wneud eich gwaith eich hunan.
Arglwydd Dduw, mae dod â gwaith adre i’r tŷ yn anodd. Mae’r ffiniau rhwng gwaith a ‘nid-gwaith’ yn mynd yn aneglur ac rydyn ni’n gweld colli ein cyd-weithwyr. Dyro ras i ni i gynnal ein gilydd wrth weithio ar wahân. Boed i blant fwynhau dysgu gartref a dod o hyd i ffyrdd i gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau ysgol. Darpar ar gyfer y rhai sydd wedi colli swyddi a busnesau oherwydd yr argyfwng hwn. Yn enw Iesu, Amen.
- Man Gweddi
Efallai fod gennych gadair neu gornel ystafell lle y byddwch yn arfer gweddïo. Os nad oes, pam na ddewiswch chi fan gweddïo, yn enwedig gan nad ydyn ni’n gallu mynd i’r eglwys ar hyn o bryd? Gallwch osod croes, Beibl, Llyfr Gweddi, cannwyll, llun, neu flodau neu ryw gyfuniad o’r rhain ar fwrdd isel neu stôl neu gadair. Efallai yr hoffech wneud rhestr o bobl i weddïo drostyn nhw ar hyn o bryd.
Arglwydd Dduw, mae dy bresenoldeb yn llanw ein tŷ a gallwn gwrdd â thi yma gymaint ag mewn eglwys. Rho ddoethineb i bawb sy’n arweinwyr yn yr eglwys, wrth iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd newydd o weinidogaethu yn yr argyfwng hwn. Tyrd â Christnogion yn agosach atat Ti ac at ei gilydd mewn cyfeillach o addoli, cynnal a thystio. Yn enw Iesu. Amen.
- Yr Ystafell Ymolchi
Mae glendid, yn enwedig golchi ein dwylo, yn ffordd bwysig o gael gwared ar y firws. Cofiwn am y rhai sy’n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid a ffurfiau eraill o dlodi, lle mae glendid a chadw pellter yn amhosibl.
Arglwydd Dduw, diolch i Ti am gyflenwad cyson o ddŵr pur. Helpa ni i gyd i barchu’r ffyrdd sy’n rhwystro’r firws rhag ymledu, yn enwedig pan fydd hynny’n teimlo’n drafferthus a chaethiwus. Amddiffyn y rhai heb adnoddau i’w cadw’n ddiogel. Yn enw Iesu, Amen.
- Yr Ystafelloedd Gwely
Mae rhai’n ei chael yn anodd cysgu ar hyn o bryd ac eraill yn teimlo nad oes rheswm dros godi.
Arglwydd Dduw, mae patrymau cysgu pobl ar chwâl ar hyn o bryd. Dyro i bawb sy’n bryderus neu’n isel eu hysbryd y cwsg adnewyddol y mae ei angen arnynt, yn ogystal â phwrpas ar gyfer byw o ddydd i ddydd. Iachâ’r rhai a gyfyngir i’w gwely am eu bod yn sâl oherwydd y firws, gartref, neu mewn ward ysbyty neu dan ofal dwys. Diolch am bawb sy’n gofalu am eraill, a rho iddyn nhw’r adnoddau y mae arnynt eu hangen, yn ymarferol, yn feddyliol ac yn ysbrydol. Yn enw Iesu, Amen.
- Yr Ardd (neu, os nad oes gennych ardd, rhyw lecyn gwyrdd lleol)
Mae gennym gyfle bellach i dreulio amser mewn gerddi a llecynnau gwyrdd. Mae’r lleihad mewn llygredd a chynnydd bywyd gwyllt yn ystod y cyfnod cloi yn dangos y drwg y mae ein ffordd o fyw yn ei wneud i’r amgylchedd. Dyma’r amser i ailgysylltu â byd natur.
Arglwydd Dduw, helpa ni i fwynhau dy greadigaeth a dangos y mwynhad drwy fyw’n gynaladwy ynddi. Adnewydda ni, gorff ac enaid, wrth i ni dreulio amser yn yr awyr agored. Yn enw Iesu, Amen.
Gweddi i Gloi
Gweddi’r Arglwydd
Bydded i dangnefedd Duw sydd y tu hwnt i bob deall gadw ein calonnau a’n cartrefi yng ngwybodaeth a chariad Duw a’i Fab, Iesu Grist ein Harglwydd, ac i fendith Duw Hollalluog, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, aros gyda ni, yn awr ac am byth. Amen.
Margaret Le Grice
Cyfieithwyd gan Enid Morgan
Mai 2020