Deialog gan Anna Jane Evans a ddefnyddiwyd ar oedfa Radio Cymru yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol.
[Roedd un o’r gwersylloedd yn Cox’s Bazaar yn rhan o ymweliad tramor cyntaf Amanda Mukwashi fel Prif Weithredwraig CC. Dyma sgwrs gyda chefnogwyr o Gymru (Youtube) – https://www.youtube.com/watch?v=RrkWP_ugsg0O Cox’s Bazaar i Gwm Sgwt
- Mae hi’n lockdown
- Mae hi’n lockdown
- Dwi’n y tŷ ’ma ers chwech wythnos
- ’Dan ni wedi gorfod gadael ein pentref ers tair blynedd
- Dwi mond yn cael mynd allan i brynu pethau hanfodol
- ’Dan ni ddim yn cael gadael y gwersyll
- Mae croen fy nwylo’n goch achos mod i’n eu golchi nhw mor aml
- Does gen i ddim sebon
- Maen nhw newydd agor ysbyty newydd yn yr ardal yma
- Maen nhw’n adeiladu llefydd newydd i ni olchi ein dwylo
- Dwi’n ofnus
- Dwi’n ofnus
- Dwi’n gweld colli fy merch – dwi heb ei gweld ers pump wythnos
- Dwi’n gweld colli fy nghartref – mae ’na dair blynedd ers inni orfod ffoi
- Diolch byth am Facetime
- Mae gen i lot o luniau ar fy ffôn a dwi’n edrych arnynt yn aml ond sgen i ddim ffordd o gysylltu efo neb
- Dwi’n nôl papur newydd i’r ddynes drws nesa – mae hi’n unig, bechod. Chwith mond gallu siarad drwy’r ffenest efo hi
- Sgen i ddim ffenest
- Dwi ’di cael llond bol
- Dwi ’di cael llond bol
- Fedra i’m dioddef gwisgo masg – mae’n gneud i’n sbectol stemio ac yn teimlo’n anghynnes ar fy ngheg
- Does ’na ddim masgiau yma o gwbl
- Mae’n od gweld pobl yn sefyll mor bell oddi wrth ei gilydd mewn ciw
- Mae ’na gymaint o bobl yn y lle ’ma, does dim ffordd yn y byd y gallwn gadw’n pellter
- Mae popeth yn teimlo mor ddiarth
- Mae popeth yn teimlo mor ddiarth
- Roedd petha mor braf cyn Covid – dwi’n bored ac mae pob diwrnod ’run fath – mae chwe wythnos yn amser mor hir!
- Roedd pethau mor braf cyn y rhyfel – mae pob diwrnod ’run fath – a dwi’n styc yn fama ers tair blynedd
- Mae’n lockdown
- Mae’n lockdown
Mae gwybodaeth am ymateb Cymorth Cristnogol i’r sefyllfa cornafirws yno ar wefan CC: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/coronavirus-emergency-appeal/rohingya