Awdurdod y Cymun a’r lockdown

Awdurdod, y Cymun a’r lockdown

Tua diwedd yr 1980au oedd hi pan gododd y drafodaeth. Tydi hi ddim yn haeddu cael ei galw’n ddadl, heb sôn am ffrae, ond roedd yna drafodaeth eitha difrifol. Chofia i ddim bellach yn lle’r oedd yr Undeb i’w gynnal; aeth yr amser yn rhy hir i’r cof. Rhywle yn Sir Benfro, os cofiaf yn iawn, ond tydi hynny’n golygu fawr, gan mai’r gornel hynod honno o Gymru oedd un o gadarnleoedd yr enwad. Ond yn y sir honno yn rhywle yr oedd uchel ŵyl y Bedyddwyr i’w chynnal unwaith yn rhagor.

Fel pob enwad anghydffurfiol arall yng Nghymru, cymysgedd o wahanol gyfarfodydd busnes a defosiynol oedd yr Undeb hwn i fod: cyfle i swyddogion gyflwyno’u hadroddiadau; cyfle i’r Llywydd roi ei anerchiad; cyfle i bregethwyr gorau’r enwad ein swyno â’u huodledd. Ond y tro hwn, roedd gan yr eglwys lle y cynhelid y cyfarfodydd awydd cynnal oedfa gymun ar y bore Sul. A dyna destun y trafod.

Mae trefn y Bedyddwyr yn wahanol i’r Methodistiaid Calfinaidd a’r Annibynwyr. Un eglwys trwy Gymru gyfan sydd gan yr MCs – dyna pam y gelwir yr enwad yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Nifer fawr o eglwysi lleol ar hyd a lled y wlad sydd gan yr Annibyns, a phob un gynulleidfa yn gyfrifol am lywodraethu ei hunan. Yn yr ystyr hon o hunanlywodraeth yr eglwys leol, dyna drefn y Batus hefyd, ond bod gwahaniaeth pwysig – tra bo’r Annibynwyr yn undeb o eglwysi, undeb o gymanfaoedd ydi trefn y Bedyddwyr. Ond efallai mai manion ydi hynny erbyn heddiw.

Yr hyn sy’n bwysig ydi mai’r eglwys leol sy ben. Ac yn ôl traddodiad yr enwad, dim ond oddi mewn i’r eglwys gynnull y dylid cynnal cymundeb. Dyna pam y bu trafodaeth. Roedd yr eglwys lle y cynhelid cyfarfodydd yr Undeb am i gynrychiolwyr yr eglwysi dderbyn cymun fel Undeb. Na, meddai’r gwrthwynebwyr yn glir iawn, dim ond yr eglwys leol all weinyddu’r cymun. Nid eglwys leol sy wedi ymgynnull, ond yn hytrach cynrychiolwyr eglwysi wedi ymgasglu mewn Undeb. Ni fyddai’r cymundeb yn gymwys felly.

Fel cymaint arall yn hanes Anghydffurfiaeth Gymreig, daethpwyd o hyd i gyfaddawd derbyniol i bawb; wedi’r cwbl, sôn am y 1980au ydan ni, nid y 1880au. Bydded i’r eglwys leol gynnal oedfa gymun a gwahodd pwy bynnag arall oedd am ymuno gyda nhw at y bwrdd. Digon teg, am wn i. Fyddai neb o’r tu allan wedi gweld gwahaniaeth o gwbl, ond roedd yr enwad wedi dod dros y broblem.

Maddeuwch ragarweiniad eithaf hir i’r ysgrif, ond mae’r hanesyn yn dangos inni’r problemau a gyfyd i draddodiad pan ddaw gweinyddu’r cymun yn fater trafodaeth. Ac yng nghanol lockdown y Coronafirws, daeth dilysrwydd y cymundeb yn fater trafod unwaith yn rhagor. Gydag adeiladau ein heglwysi ar gau, a ddylem ni gael rhyddid i weinyddu cymundeb adref? Dyna’r cwestiwn.

Ffenest y Cymun Bendigaid, Eglwys Llanfihangel-genau’r-glyn

I un sydd â’i egwyddorion wedi eu plannu yn naear yr Ailfedyddwyr – er mai gyda’r Eglwyswyr yr addolaf – tydi’r cwestiwn ddim yn codi o gwbl. Bydd Helen a minnau’n torri bara ac yfed o’r cwpan yn y ffordd symlaf posib bob bore Sul. Tydi hynny ddim yn golygu nad ydw i’n cael budd a bendith o drefn yr Eglwys yng Nghymru – ddim o gwbl. Ond phlyga i’r un glin i’r peth chwaith. Tydi drysau eglwys y plwyf ddim ar agor; tydi’r offeiriad ddim ar gael i arwain; ond ddylai hynny ddim golygu na alla i dderbyn bendith Swper yr Arglwydd.

Dyna fy marn i. Gwn yn iawn nad dyna farn pawb. O bosib mai barn leiafrifol iawn ydyw oddi mewn i’r Eglwys, onid oddi mewn i sawl enwad arall yng Nghymru.

Bid a fo am hynny. Mae mwy i’r cwestiwn, wrth gwrs, na beth ydi eglwys; mae hefyd yn gwestiwn o bwy ddylai weinyddu. Unwaith yn rhagor, dywed f’egwyddorion ailfedyddiedig wrthyf nad oes angen rhyw boeni fawr am hyn chwaith. Offeiriadaeth yr holl saint ydi un o egwyddorion mawr y traddodiad. Does dim angen person wedi ei ordeinio i weinyddu’r cymun na’r bedydd. Defnyddiol iawn mewn oes lle mae prinder gweinidogion ordeiniedig, a mwy defnyddiol byth yng nghyfnod y lockdown!

Yn y bôn, mater o awdurdod yw hwn. Pwy yw’r person awdurdodedig i weinyddu’r ordinhad? Yr hyn a rydd awdurdod ydi’r act o ordeinio. Mae’r gair o bosibl yn golygu rhywbeth ychydig yn wahanol mewn gwahanol draddodiadau. Mae’r Bedyddwyr yn ordeinio’u gweinidogion – gan roi statws arbennig iddynt. Ond ddim mor arbennig ­ gobeithio – fel nad ydyw’n tarfu ar offeiriadaeth yr holl saint. Tybiaf ei fod yn gryfach gair yng ngeiriadur y Presbyteriaid, er bod peth llacio wedi bod yn ein hoes brin-o-weinidogion. Ond llaciodd yr Eglwyswyr ddim ar y gair – er bod yna lawn cymaint o greisis gweinidogaethol yn eu plith hwy ag unrhyw enwad arall. Na, dim ond offeiriad all weinyddu’r sagrafen. Rhoddwyd iddynt awdurdod rhyfeddol ar ddydd eu hordeinio, ac ni all dim wanio hynny. Dyna reswm sawl un dros beidio ag ordeinio merched. Ydach chi’n cofio’r drafodaeth honno? Mae’r offeiriad wedi ei osod ar wahân mewn ffordd unigryw – a dim ond dynion all gario’r fath awdurdod. Ac y mae ambell un, yn ôl y sôn, sy’n parhau i ddadlau felly. Awdurdod, felly, ydi’r gair allweddol.

Aeth amddiffyn yr awdurdod hwn yn bwysig, hyd yn oed yng nghyfnod y lockdown. Chaiff neb arall weinyddu’r cymun, er y golygai hynny na chaiff neb arall dderbyn y cymun chwaith. Yn wir, mae ambell offeiriad yn torri bara yn ei eglwys ac yn cael ei ddarlledu’n fyw i gartrefi ei blwyfolion yn gwneud hynny. Ysywaeth, yr offeiriad yn unig sy’n cymuno. Gwylio y mae pawb arall.

Eironi mawr y sefyllfa hon ydi mai’r traddodiadau hynny a rydd y pwyslais mwyaf ar bwysigrwydd cymuno, ac ar wir bresenoldeb Crist mewn ffordd gwbl unigryw yn y cymun, ydi’r un traddodiadau ag sy’n atal eu plwyfolion rhag cymuno yn ystod y lockdown. Onid yw eu pwyslais ar awdurdod unigryw’r offeiriad/gweinidog bellach yn atal y lleygwyr rhag derbyn eu bwyd ysbrydol?

Ydi hi’n amser meddwl eto am y pethau hyn? Dadl rhai yn nyddiau cynnar yr argyfwng ydi na ddylid newid athrawiaethau pwysig oherwydd anghyfleuster byr-dymor. Digon teg. Ond aeth y tair wythnos yn chwech yn barod, a does dim arwydd fod ymgynnull eglwysig yn mynd i gael ei ganiatáu yn fuan.

Am ba hyd, felly, y caniatewch chi i’r saint beidio derbyn y cymun? Ynteu ydi awdurdod yn ben ar bopeth bellach?

Dyfed Wyn Roberts