Zoom

ZOOM! Bob tro y bydda i’n clywed y gair yna, mae’r meddwl yn llithro’n ôl i ddyddiau plentyndod: dyddiau hafau ‘hirfelyn, tesog’, dyddiau’r oriau allan yn chwarae a dyddiau Split a Mini Milk, Pineapple Mivvi a Zoom! Dwi’n cael fy nhemtio i ddweud bod ‘eis-lolis’ yn fwy difyr y pryd hynny, ond nid dyna bwrpas yr ychydig eiriau yma.

Bellach, mae Zoom yn golygu rhywbeth hollol wahanol, yn air a chyfrwng cyfarwydd i gynifer ac yn llwyfan i gyfathrebu o’r newydd, gan gynnwys yr Eglwys. A ninnau wedi bod yn pregethu cymaint am ddefnyddio cyfryngau ‘modern’ a ‘phethau’r oes’ i rannu’r Efengyl, fe’n taflwyd dros nos i fyd sy’n prysur ddod yn ‘norm’ i lawer un. Rhyfedd fel mae rhywun yn dod i arfer, ac mae cynnal oedfa neu fyfyrdod, cyfarfod blaenoriaid a phwyllgor, astudiaeth a chwrdd gweddi yn digwydd yn ddidrafferth o wythnos i wythnos. Da ydi Zoom a Facebook a Trydar a Teams, neu efallai ddim! Mae’r rhwyd yn cael ei thaflu’n ehangach ar hyn o bryd, a phobl yn dawel bach yn gwrando ac yn dilyn. ‘Dwi’n gwrando arnat ti bob Sul!’ meddai gwraig na welais erioed mewn oedfa, ac mae gweld y ffigwr ar ochr dudalen Facebook yn ddifyr ac yn galonogol. Mae gwerthiant Beiblau ar i fyny, ac yn ôl arolwg diweddar mae un ym mhob pedwar yn gwrando ar raglenni crefyddol. Beth felly am yr ‘efallai ddim!’

‘Efallai ddim’ oherwydd canlyniadau posibl i hyn i gyd.

Y ddealltwriaeth o ‘gymdeithas’ Gristnogol yn gyntaf. ‘Ac yn y gymdeithas,’ meddai Luc wrth ddisgrifio nodweddion bywyd dilynwyr yr Iesu wedi’r croeshoeliad. Mae hynny’n golygu wyneb yn wyneb, gyda dealltwriaeth o gymod a chariad. Nid o hirbell nac yn rhithiol, ond yn hytrach gyda’n gilydd. Y perygl yw cael Cristnogaeth unigolyddol, nid yn unig yn nhermau credo ond hefyd yn nhermau addoliad a gwasanaeth yr eglwys. Un rhan o dair o aelodaeth eglwysi Cymru sy’n gweld gwerth addoliad cyhoeddus ar hyn o bryd. Fydd hyn yn newid?

Y gallu i dderbyn. Cael trafferth i dderbyn bod pobl yn newid wnaeth Jona, ac mae Duw yn gyrru pryfyn i ddinistrio’r goeden oedd yn gysgod iddo – darlun awgrymog y gallwn ei addasu wrth feddwl am ein perthynas â’r Eglwys, yn lleol ac yn genedlaethol. Gall trefn a thraddodiad a chredo a bywyd cyfyng ‘ein cynulleidfa ni’ fod yn gyfrwng i’n gwarchod a’n cynnal ond, ar ei waetha, gall roi bod i ffiniau sy’n rhwystro wynebau newydd rhag bod yn rhan o’r bererindod ddyddiol i amgyffred Duw. Bryd hynny, a yw’n peidio â bod yn eglwys? Fyddwn ni’n barod i gamu allan o’n cysgodion clyd a dedwydd?

Dweud y peth iawn! Sylw rhywun yn ddiweddar oedd y geiriau, ‘Mae pawb wrthi!’ gan wneud i rywun feddwl am eiriau awdur y Llythyr at yr Effesiaid, ‘bob rhyw awel o athrawiaeth’. Mae ein mynediad i fywydau pobl wedi cynyddu, a rhai’n ceisio gwneud synnwyr o’r Gristnogaeth o’r newydd ac eraill yn ailgydio. Ac felly ein cyfrifoldeb yw diffinio hanfod Duw, sef cariad a’r ddealltwriaeth o fywyd newydd yng Nghrist, yn rhywbeth i’w brofi a’i gyhoeddi.

Sgwn i beth fydd yn digwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod? Pwy a ŵyr! Tan hynny, ’nôl at Zoom am gyfarfod arall!

Eifion Roberts