E-fwletin 31 Mai, 2020

Pwy feddyliai y gallai tipyn o firws, ffieiddiach nag arfer reit siŵr, lwyddo i gloi bywyd y byd, trawsnewid bywyd cymdeithas a chwalu cynlluniau economaidd o’r boced bersonol i’r pwrs rhyngwladol. Bu’n fwy llwyddiannus mewn troi’r byd ben i waered nag unrhyw frenin, arlywydd na gwleidydd. Rhyfedd yw grym ofn ac ofn yr anweledig. Ac mor ddinistriol ei ganlyniadau – hunan ynysu, drwgdybiaeth, ymbellhau, tanseilio cymdeithas a cholli agos i 40,000 o’n plith yn y D.U., a thros 330,000 trwy’r byd. Codwyd cwestiynau- o ble? Sut? Pam? Bu’r gwir dan gwmwl (fel arfer, wrth gwrs) Ai gwir i’r  D.U. wrthod ymuno gyda’r U.E. i brynu offer diogelwch i’r Gwasanaeth Iechyd neu fod Arlywydd America wedi ceisio cyflenwad digonol o frechiad rhag y firws i’w bobl ei hun yn gyntaf?  A beth am integriti gwleidyddol – un gorchymyn i bawb, ond un arall i ambell un? Pwysicach na dim yw i’r firws roddi llwyfan i ddaioni trwy rannu cariad, cario beichiau, cymwynasgarwch, cyfrannu a chodi arian at y Banciau Bwyd ac ati. Mae eto ddynoliaeth dda.  Gwaddol ffydd Crist yn yr ynysoedd rhain tybed?

Ond symud ymlaen sydd raid bellach o borthladdoedd ‘diogel’ ein cartrefi i’r byd mawr y buom yn ein hynysu ein hunain rhagddo, bygythiad ail lanw neu beidio! A fydd profiad y firws wedi newid ambell feddwl neu galon tybed? Wedi’r cyfan cawsom ein rhybuddio dros y blynyddoedd y gallai hyn ddigwydd wrth i dymheredd y blaned godi.

Dichon mai un wers eglur i’w dysgu yw pwysigrwydd meithrin agwedd a bydolwg gynhwysol. Allwn ni ddim gwarchod ‘NI’ na’n gwneud NI yn fawr heb gofio na pharchodd y firws na bonedd na gwrêng, na gwlad nac iaith, gorffennol na phresennol, ffydd na chred. Wrth gyd-deithio’n ddirgel gyda chymaint o deithwyr ffrwydrodd ei afael ar boblogaeth gan ddiystyru ffiniau. Methwyd ei atal heb gyfyngiadau llym! Ac yn ôl rhai gall esblygu i ffurfiau gwahanol yn ôl cyd-destun. Hynny yw, yn yr oes hon o deithio rhwydd ac o symudiad pobloedd, rhai rhag erchyllterau bywyd, yn ffoaduriaid ac ati, mae ein  diogelwch NI ynghlwm wrth y NHW.

Bellach y mae’r sôn am y firws yn ymledu ymysg y miliynau yn America Ladin a rhannau o Affrica lle mae trefniadau gofal iechyd ac addysg yn brin, ble mae tlodi eithaf eisoes yn brathu hyd at angau, ymysg pobl hawdd eu hanghofio gan nad oes iddynt ‘werth’ economaidd. Clywn Covid 19 yn dweud wrthym yn glir mai dau air ymysg geiriau eraill yw  ‘cynnydd’ ac ‘economi’ ac fe gynnwys yr eraill ‘câr dy gymydog fel…’ (Math.5:43) holl drigolion byd bellach, er lles pawb, gan fod honno’n  egwyddor sylfaenol yn nheyrnasiad Duw yng Nghrist: ‘maddeuant’ gan fod yn rhaid delio gyda’r gorffennol: ‘cymod’ am mai dyna natur Duw a ‘phartneriaeth’ â’n gilydd fel  y teulu dynol cyfan gan mai heb hwnnw prin y gallwn sôn am ddyfodol.

Sylfaen y cyfan yw’r gwahoddiad grasol i ‘bartneriaeth’ â Duw yng Nghrist i adeiladu nef newydd a daear newydd a dynoliaeth newydd ac y mae cyfraniad pob un yn hanfodol yn y gwaith hwnnw. Mewn gair: heb Dduw, heb ddim.

Cofiwch am ein gwefan ac am yr erthyglau diddorol sydd yn Agora.