E-fwletin 24 Mai, 2020

Ynys

I rai a gafodd eu dwyn i fyny ar ynys Môn roedd cyrraedd y tir mawr yn her ar un adeg. Roedd croesi`n bosib pan oedd y llanw allan, ac wrth gwrs yr oedd cwch ar gael. Yna caed pont i gar a cheffyl ac yna pont i drên. Bellach y mae sôn am drydedd pont yn y gwynt. 

A dyna ein hanes ni y dyddiau hyn yn sgîl yr ynysu a orfodwyd arnon ni gan feirws y corona sef yr her i bontio`r pellter rhyngom gan na allwn gusanu, ysgwyd llaw na chofleidio rhag lledaenu`r afiechyd marwol. Mae`r Efengyl yn pwysleisio croesawu ein gilydd â breichiau agored a hynny yn ddi-wahân, ond y neges bellach yw ymatal rhag gwneud hynny. Mae`n amlwg nad ydyw hyn yn brofiad newydd i`r ddynoliaeth gan fod Llyfr y Pregethwr yn sôn am amser i gofleidio a pheidio â chofleidio a dyna sydd yn ein wynebu ni. Am ba hyd ni wyddom.

Ond mae technoleg fodern wedi rhwyddhau y ffordd i ni bontio`r agendor a osodwyd rhyngom – ffôn, ebost a`r cyfryngau digidol niferus eraill sydd ar gael. Gellir o hyd anfon llythyr yn absenoldeb y cyfryngau hyn. Gall cysylltu ag anwyliaid, ffrindia a chydaelodau yn yr eglwys gadw diflastod draw. Kirkegaard y dirfodwr arloesol ddywedodd mai diflastod yw gwreiddyn pob drwg ac nid segurdod! Y mae segurdod meddai bob amser yn gyfle. Gall tynnu troed oddi ar y sbardun yn y “rat-race” fod yn gyfle i ymlacio, i feddwl, ac i ystyried ein blaenoriaethau mewn bywyd o`r newydd. 

Yn y Beibl roedd yr ynysoedd i`r Iddew yn y dyddiau cynharaf yn cynrychioli`r pell a`r dieithr. Ac yn sicr mae`r hunan-ynysu presennol yn ddieithr i ni ac y n ein pellau oddi wrth ein gilydd yn llythrennol.

Cawn Paul yn cael sawl profiad o`r ynys; ar ei deithiau. Roedd ambell ynys yn gysgod i`w long rhag y storm, Cyprus, Creta a Cawda yn eu tro. Wedi llongddrylliad derbyniodd groeso anghyffredin ynyswyr Melita(Malta)   a chyfle o leiaf i fod yn feddyg da, beth bynnag am bregethu`r Efengyl. Ar Ynys Cyprus ym Mhaffos ni chafodd groeso gan Elymas y Swynwr a oedd yn ceisio ei rwystro rhag rhannu`r Efengyl hefo`r Rhaglaw Sergius Paulus. O ganlyniad cafodd Elymas ei daro`n ddall am gyfnod ac fe ddaeth y Rhaglaw`n Gristion.

Ond y broblem i lawer yw diflastod a segurdod yr ynysu. Eto mae`r Ynys yn ddiogelwch ac hefyd yn gyfle. Dyna hanes awdur Llyfr y Datguddiad alltudiwyd i Ynys Patmos oherwydd erledigaeth lem. Yno wrth fyfyrio a gweddio y daeth y “datguddiad” iddo. Fe ymwrthododd â diflastod a throi segurdod yn gyfle.  

Da atgoffa`n gilydd fod dechreuadau Cristnogaeth ym Mhrydain yn gysylltiedig ag ynysoedd penodol; Ynys Iona yn yr Alban a Lindisfarne yn Northumbria. Roeddan nhw`n ganolfannau cenhadol. Ger glannau ynys Môn ceir Ynys Cybi, Seiriol, Cwyfan a Llanddwyn a enwyd ar ôl y seintiau a fabwysiadodd unigedd yr ynysoedd hyn.

Nid dihangfa yw`r ynysu ond cyfle.   Dros ganrif a mwy yn ôl roedd y beirdd rhamantaidd yn dyheu am gefnu ar y cyfarwydd a cheisio rhyw Ynys yr Hud fel y llongwyr “ar lannau`r Fenai dlawd” yng ngherdd W.J.Gruffydd. Ond wedi cyrraedd eu siomi a gawsant. Nan Lewis sgwennodd ddrama am rai yn dianc i ynys rhag eu problemau a chanfod fod y problemau wedi mynd gyda nhw.

Diogelwch yw pwrpas yr ynysu presennol a fydd gobeithio`n ddihangfa rhag yr afiechyd marwol sy`n ei bygwth. George M. Ll. Davies yr Heddychwr fyddai`n sôn am y ceginau cawl yn ystod dirwasgiad y tridegau fel ynysoedd gobaith. Bydded i`r ynysoedd presennol fod yn ynysoedd gobaith ymhob ystyr yn hytrach nag yn ynysoedd diflastod.