Ar drothwy

Yr Alarch (Rhif 17), Hima af Klint, 1915, Moderna Museet, Stockholm, Sweden. Parth cyhoeddus – Public domain (Wikimedia)

Ar drothwy – ymdroi ar y ffin

Fel llawer un yr wythnosau diwethaf hyn, rwy wedi bod yn treulio amser yn yr ardd, yn meithrin prosiectau newydd, yn symud planhigion, yn dyfrhau’r egin bach gwyrdd ac yn dyfalu a ddaw pethau i ffrwythlondeb. Ac mae ’na lu o ddamhegion am chwynnu a thocio a bwydo a dyfrhau i ffurfio tomen o ystrydebau pregethrwrol. Mae hi’n gyfnod rhwng dau fyd, yn gyfnod ar drothwy. Byddai Elfed ap Nefydd yn ein cymell, pan oeddem yn fyfyrwyr yn y coleg yn Aberystwyth, i gofio bod angen edrych yn y drych wrth yrru car er mwyn medru gyrru ymlaen yn ddiogel – cymhariaeth weledol berthnasol iawn i’r ifanc gorhyderus eu bod yn gwybod popeth!

Ond ar y funud, wyddom ni ddim i ble rydyn ni’n mynd, dim ond na fydd pethau byth yr un fath eto; cawn ein dal rhwng hiraeth am a fu, ac ofn am y dyfodol. Mae hunanynysu rhag ofn rhywbeth er mwyn goroesi wedi arafu’r hen yn ein plith fwy nag roedden ni wedi arafu eisoes! Ond mae’r rhai sydd wedi gorfod addasu eu ffyrdd o weithio yn darganfod posibiliadau’r We, yn dysgu sut i wneud fideos a’u hanfon, yn ceisio arbed eu bywioliaeth, yn gorfod geni plentyn, yn gorfod claddu cymar oes – does dim amser i synfyfyrio, dim ond i geisio dod i ben a goroesi. Ar drothwy, paratoi i groesi’r rhiniog, petruso ar y ffin.

Ar un cyfnod yr oedd adnod 6 o Salm 16 yn golygu llawer i mi: ‘Syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol. Y mae i mi etifeddiaeth deg.’

Yn y Saesneg cyfieithir llinynnau fel ‘boundary lines’. Ond wir, ni chefais i erioed bod byw ar draws ffiniau yn lle dymunol. Yn wir, mae byw ar ffin yn aml yn golygu cael eich amau gan y naill ochr a’r llall. Bu ambell sant yn ymdrechu’n fwriadus i fyw ar ffin ei ddiwylliant, yn fath o arwydd i’w gyfoedion fod perthyn o lwyrfryd calon i un diwylliant yn unig yn rhywbeth y dylai Cristnogion ymochel rhagddo. Ystyriwch fywyd Ffransis o Assissi, a Julian, y wraig fu’n byw mewn cell ym merw peryglus y 14eg ganrif yn Norwich tra oedd pla a rhyfel yn rhuo o’i chwmpas; ac yn yr ugeinfed ganrif, Dorothy Day yn dewis byw gyda’r tlodion yn America, a Ghandi – bendith arno – yn sefyll ar y ffin rhwng crefyddau yn India.

Ond yn y bwlch rhwng un peth a’r llall mae yna bosibiliadau newydd. Mae pethau yn y fantol. Nid yn unig bod amgylchiadau’n ein newid ni, ond bod mwy o ryddid i ni newid pethau. Gallech honni bod hwn yn amser sanctaidd, yn rhodd, yn fan lle y gall rhywbeth cwbl newydd ddechrau. A gwewyr yw esgor ar fywyd newydd: drws i fynd trwyddo i ddechrau dysgu gwersi newydd am waith, ac amynedd, ac ymroddiad a dyfnder cariad. Yn enwedig i’r hen, sydd, fel yr ifanc, yn orhyderus eu bod yn gwybod popeth!

Mae’r pandemig hwn, a ragwelwyd flynydoedd yn ôl a’n rhybuddio amdano gan arbenigwyr, yn ein gosod ninnau rhwng dau gyfnod, dau fyd, gan ymddihatru o’n rhagdybiaethau a’n hawydd i rag-weld.

Mae gen i hen ffrind ysgol – gwraig sydd, wrth i minnau deipio’r geiriau hyn, yn gwybod bod ei gŵr yn gorwedd mewn ysbyty rhwng byw a marw. Mae hi’n medru ymddiried y bydd beth bynnag ddigwydd iddo, yn ôl ‘ewyllys Duw’. Mae ein cyfnod ni, a’n diffyg ymddiriedaeth ni, yn gwrthryfela yn erbyn y syniad o Dduw sydd fel petai’n lladd fan hyn, ac yn achub draw. Ond camddeall ydi hynny. Ymddiried y mae hi fod ‘popeth yn gweithio er daioni i’r rhai sy’n caru Duw’. Nid crefydd swcwr yw hynny, ond her. Mae’n fy atgoffa i’n ddwys o ddarn o un o gerddi rhyfeddol T. S. Eliot, ‘Four Quartets’ – na fedra i fentro’i gyfieithu’

I said to my soul, be still, and wait without hope,
For hope would be hope for the wrong thing; wait without love,
For love would be love of the wrong thing; there is yet faith.
But the faith and the love and the hope are all in the waiting.
Wait without thought, for you are not ready for thought:
So the darkness shall be the light, and the stillness the dancing.

 ‘Four Quartets’, T. S. Eliot (Section III, East Coker)

Porth i Weithredu a Myfyrio

Wyt ti’n gallu cofio rhyw gyfnod o newid sylweddol neu gyfnod o ddysgu dwys? Oes rhyw gymal wedi dy daro yn yr uchod? Os oes, dalia dy afael ynddo a sylwi ar dy ymateb – corfforol, meddyliol, emosiynol. Oes yna rywbeth y dylet ei wneud yn wahanol?

(Mae’r uchod yn ymateb i un o draethodau Richard Rohr yn ei lythyrau dyddiol ar wefan Centre for Action and Contemplation.)

Llun: Yr Alarch (Rhif 17), Hima af Klint, 1915, Moderna Museet, Stockholm, Sweden.

Enid Morgan