O Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020

O Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020

Sul y Palmwydd

Ac meddai rhai o’r Phariseaid wrtho o’r dyrfa, ‘Athro, cerydda dy ddisgyblion.’ Atebodd yntau, ’Rwy’n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.’ (Luc 19.39)

Llonydd fydd Sul y Palmwydd eleni:
dim gorymdeithio, dim chwifio’r canghennau,
dim ebol asyn a thyrfa camera yn gweiddi,
‘Hosanna’,
na phrotest yn y deml,
dymchwel byrddau’r farchnad
a’r muriau sy’n ymyrryd
â gwaith Creawdwr byd.

Llonydd
yw’r llun hardd o’r Brenin tlawd
yn dod yn dawel i deyrnas
cariad, cymod a thangnefedd
ei Dad;
dod yn ostyngedig ddigoron
i ganol grymoedd teyrnasoedd daear.

Llonydd yw’r dydd
fel mynwent oer, ddiflodau,
heb neb yn galaru wrth fedd anwyliaid.
Mae Sul y Blodau wedi ei ohirio.

Ond mae’r Brenin tlawd, di-gledd wedi dod
ac yn dod eto ac eto i herio ein hanes,
ac ni all disgyblion beidio â sôn
nad llonydd
yw’r Aflonyddwr Addfwyn hwn
ac nad oes atal
ei deyrnas dawel.

Ac ni fydd y cerrig yn gweiddi.

Wrth i ni gofio’r hanes yr wythnos hon, Arglwydd, diolch ein bod yn cael cyfnodau o wybod fod Aflonyddwr Adddfwyn Sul y Palmwydd yr un o hyd.

 Dydd Gwener y Groglith

 Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o’r gloch y prynhawn a’r haul wedi diffodd. (Luc 23.44–5)

Ni fydd cario croes eleni,
ni fydd cyfle i wasgu’n dyrfa,
ni fydd llys barn yn eistedd,
ni chaiff disgyblion fod gyda’i gilydd
i dorri bara neu i ganu’r hen emynau
ac fe fydd llwybrau cyhoeddus
Gethsemane a Golgotha ar gau.

Ond mae’r galar a’r gofid yn nes nag erioed
a chyrff a marwolaeth yn cydio’r ddynoliaeth
mewn creulondeb cyfarwydd:
marwolaeth plant wrth y miloedd o newyn,
lladd y diniwed mewn rhyfela didiwedd,
ffoaduriarid yn ffoi i wersylloedd heintiau.

Llawn cystal i oes ac i ddyddiau fel hyn
sy’n gyfarwydd â galar
ohirio, am y tro, Gwener y Groglith.

Heddiw yn yr Eidal,
tarddle lluniau a cherfluniau ac eglwysi,
seremonïau a chorau
darddodd o’r dydd Gwener hwn
heb hawl na chaniatâd
i ymyrryd na dwyn urddas
marwolaeth unigolyn,
na hawl teulu a chymdeithas
i alaru’n dawel –
heb gwestiynau’r
siniciaid amheus.

Mae Groglith Iesu eleni
yn fwy
na drama’r dioddefaint.

Agor ein llygaid a’n calonnau a’n meddyliau, Arglwydd, i dreiddio’n ddyfnach i dywyllwch a dioddefaint ein byd, i weld y golau yn nhywyllwch ganol dydd y dydd hwn a’r wythnos hon.

 Sul y Pasg

 Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd … ac yr oedd y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd. (Luc 24.1,2)

Ni fydd awyrennau na threnau na llongau
i ymwelwyr haul i ddathlu’r Pasg eleni
ac ni fydd emynau na chorau –
yn atsain ‘Cododd Iesu’.

Ond o fedd y feirws
mae gwanwyn yn ffrwydro,
mae cenhedloedd yn cydio dwylo,
mae gwyddonwyr yn cydymchwilio,
mae meddygon a nyrsys, yn ddiflino, yn llafurio,
mae gwirfoddolwyr yn heidio,
mae gwleidyddion yn cydweithio,
mae’r cread yn cael ei ddiheintio
mae ysbytai yn cael eu hadeiladu,
mae gwerthoedd yn cael cadarnhau,
mae bywyd yn cael ei ddyrchafu.

Heddiw, dydd dagrau Mair
–  a sychwyd,
ac ofn disgyblion,
–  a dawelwyd;
mae tywyllwch ac anobaith a marwolaeth
yn doriad gwawr
Gobaith
Goleuni
Bywyd,
ac mae Iesu
Sul y Palmwydd a Sul y Pasg
ar ei daith oesol
ddi-droi’n-ôl
na fydd byth, bellach,
yn dod i ben.

Ti, Greawdwr y cread a rhoddwr bywyd, diolch ein bod, oherwydd Iesu, yn cael ein gwahodd a’n denu i fod yn Bobl y Pasg mewn cyfnod mor dywyll.

JPG