E-fwletin 29 Mawrth 2020

‘Y mae Duw yn neffro’r gwanwyn…….’

Dyma ni ar ddechrau chwyldro ffrwydrol y gwanwyn unwaith eto a rhyfeddwn at ei ganlyniadau amlwg: y dydd yn ’mestyn, yr adar yn canu a’r egin ar y canghennau.

Ond ry ni hefyd bellach yng nghanol chwyldro arall, un sydd a’i ganlyniadau yr un mor amlwg: strydoedd gweigion, siopau ar gau, a chyfyngiadau caeth ar ein symudiadau.

A ninnau heb fedru dod at ein gilydd i oedfa mewn capel nag eglwys ar y Sul oherwydd Covid 19, mae’n dda i ni gofio gyda W.J.Gruffydd fod “Duw yn neffro’r gwanwyn’.

Mae’r Salmydd hefyd yn ein hatgoffa fod “y Nefoedd yn dangos gogoniant Duw”. Mae “Coed y maes yn curo’u dwylo” medd Eseia, ac “Ystyriwch i lili” medd Iesu Grist. Efallai bod  rhoi gormod o bwyslais yr y cyswllt rhwng Duw ac adeilad yn ein dallu rhag gweld y Creawdwr yn y Cread.

Dengys tystiolaeth wyddonol y degawd diwethaf  fod gan fyd natur ei gyfraniad i’n lles a’n hiechyd. Mae’n ffaith fod pobl yn teimlo’n ‘well’ pan fyddant yn treulio amser yng nghanol byd natur. Ac nid rhywbethg corfforol yn unig yw’r teimlad yna, mae e’n cyffwrdd â’r ysbrydol ynom, mae’n siarad â’r hyn sydd o Dduw ynom ni. ‘Dyfnder yn galw ar ddyfnder’.

Yn gyffredinol mae’n perthynas ni â byd natur dros yr hanner can mlynedd a mwy diwetha wedi pellhau am wahanol resymau.  Ond gall ein sefyllfa bresennol fod yn gyfle ac yn gyfrwng i ni ail-adfer peth ar y cyswllt hwnnw.

Mae’r mesurau presennol yn caniatau i ni fynd am dro unwaith y dydd i gael ymarfer corff.  Gall hynny fod yn gyfle i ni feithrin rhyw undod â’r cread o’n cwmpas, a dod a ni ‘at ein coed’.

Ac i’r rhai y mae eu hunan-ynysu yn eu hatal rhag mynd allan o gwbwl, mae astudiaethau wedi dangos fod y rhai sy’n edrych ar fyd natur trwy’r ffenest yn cael cysur i’w calonnau. Mae’n debyg bod hyd yn oed edrych ar lun o’r byd naturiol yn gallu lleihau straen!  Ar sail y pethau hyn mae’n debyg bod meddygon teulu ym Manceinion wedi dechrau rhoi planhigion mewn potiau i rai o’u cleifion ar briscripsiwn!

Felly, yn y dyddiau blin yma gadewch i ni geisio ail-ddarganfod ein perthynas â natur, rhywbeth a fydd efallai yn ein helpu i weld ein hamgylchedd a’n lle yn y cread mawr yma o’r newydd. A phwy a ŵyr, o wneud hynny y gwelwn y coed y tu ôl i bentyrrau ein papur tŷ bach!