Deunydd ar gyfer y Grawys

Ar gyfer y Grawys

Oherwydd bod eglwysi wedi eu gwahardd rhag cydymgynnull yn sgil y coronafirws, mae Cristnogaeth 21 yn awyddus i dynnu sylw at ddau gwrs Grawys sy’n cynnig deunydd ac arweiniad sydd yr un mor addas i unigolion ag i’w hanfon ymlaen at eraill wrth inni droi ein golygon tuag at y Pasg. Beth bynnag yr ofnau a’r dychryn a’r galar, yr ydym ynghanol deffro’r gwanwyn ac yn edrych ymlaen at ŵyl fawr y Pasg.

  1. Mae ‘Agor yr Ysgrythyrau’ (gan Claire Amos) wedi ei seilio ar y daith i Emaus ac mae’n cynnig cyfoeth o ddeunydd mewn gweddi, myfyrdod ac astudiaeth Feiblaidd. Yn ddwyieithog, mae’r cyfan mewn lliw, ond mae’r testun i’w gael mewn Cymraeg yn unig hefyd – ac am ddim.

Ewch i: www.cytun.co.uk/cwrsgrawys

  1. O Esgobaeth Bangor: Cydymaith i’r Grawys

         www.bangor.eglwysyngnghymru.org.uk

Yr ydym yn ddiolchgar am cael cyhoeddi rhan o’r myfyrdod ar gyfer Sul cyntaf y Grawys o’r ‘Cydymdairh i’r Grawys’ gan Siôn Rhys Evans. Thema’r cydymdaith cyfoethog yw ‘Mi a droaf yn awr’ – dyfyniad o gerdd enwog R. S. Thomas.

Nid brysio yw bywyd
at ddyfodol sy’n cilio,
na chwantu
am orffennol y dychymyg. Ond troi
yn awr fel Moses i weld y berth
yn llosgi’n dân, a gwyrth
y goleuni a welaist gynt ar wib,
ar doriad gwawr,
ac a fydd dragwyddoldeb dy fachlud.

(Cyfieithiad o ‘The Bright Field’)

Cyhoeddir y Cydymaith yn ddwyieithog gan Esgobaeth Bangor ac mae ar gael ar wefan yr Esgobaeth, eto yn rhad am ddim. Rydym yn falch o gael cyhoeddi rhan o’r Cydymaith, ac yn ddiolchgar am y caniatâd i gyhoeddi cerdd Siôn Aled gan Wasg Carreg Gwalch.

  

Llandanwg
gan Siôn Aled

 

Pagan fu’r môr erioed
a’r traeth yn ffin rhwng sobrwydd y Saint
a Chantre’r Gwaelod
lle cysgai diawliaid crefydd ddoe
yn feddw fud.

Cyfaill oedd y tywod
yn glên dan sodlau cenhadon troednoeth
rôl creigiau creulon Rhinog Fawr.

Ac yno y tyfodd cell yn gapel
a llan yn eglwys
a thrwch ei muriau’n gaer rhag gwayw’r gaeaf
a llymder haf.

Yno cyhoeddai’r litwrgi’r
Duw newydd digyfnewid:
heddiw, ddoe a fory’n un.

Heddiw
rwyf yma’n ceisio cysur
a llawnder ieuenctid yn pallu
yn crafangu yn nhudalennau Llyfr Gweddi tamp
a Beibl crin
am rhyw fymryn
o
seintiau
echdoe a ddoe a’m mabinogi innau.

Wrth y drws,
mae’r tywod ar grwydr
fel eira sych,
yn claddu’r cerrig beddau mewn ail farwolaeth.

A’r môr,
eto’n anweledig,
yn chwyrnu’i fygythiad
ac yng nghrafiad y graean
sŵn diawliaid yn sgriblian deffro.

Mae’r gerdd wedi’i lleoli mewn llecyn sanctaidd penodol – eglwys Tanwg Sant, sy’n swatio mewn twyni tywod y tu allan i Harlech. Mae’r tywod yn gorchuddio llawer o’r cerrig beddi wrth ddynesu at yr eglwys, a chaiff rhywun y teimlad y gallai ar unrhyw adeg foddi’r llwybr; ac, os nad y tywod, yna’r tonnau sy’n torri ar y traeth sydd ddim nepell i ffwrdd y tu hwnt i’r twyni tal. Mae’r eglwys, â’i muriau hynafol o garreg solet, wedi bod yn noddfa dros ganrifoedd lawer; ac mae llechfeddiant natur wyllt, elfennol, yr un mor oesol, a pharhaus, ac o bob tu. Ond nid cerdd am lecyn yn unig mo hon – cerdd sydd yma am berson, yn heneiddio, yn colli rhyw ychydig o sicrwydd ieuenctid, yn ceisio rhywfaint o ddealltwriaeth newydd; cerdd sydd yma am enaid dynol yn ymdrin â ffydd ac amheuaeth, yn myfyrio am yr hyn a fu a’r hyn sydd i ddod, yn pendroni am y fath sicrwydd ag sydd gennym, ac am yr ansicrwydd hynnw nad yw’n diflannu. Clywn adleisiau yma o ddwy gerdd enwog am ffydd ac amheuaeth: ‘Church going’ gan Philip Larkin, pan fo’r ymwelydd â’r eglwys hynafol yn dod i weld bod yma ‘dŷ difrifol ar ddaear ddwys’, llecyn i ‘dyfu’n ddoeth ynddo’; a ‘Dover beach’, campwaith Matthew Arnold, pan fo’r bardd yn clywed Cefnor ein Ffydd yn ‘rhuo gadael, y felan ar drai, / Yn encilio ar anadl / Gwynt y fagddu.’

(Cafodd Siôn Aled ei eni ym Mangor a’i fagu ym Mhorthaethwy. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’i Chyffiniau, 1981, am bryddest ar y testun ‘Wynebau’. Mae’n fardd ac yn gyfieithydd nodedig, ac yn byw bellach yn Wrecsam.)

Ysgrythur

Ioan 3:1–17 – y darlleniad o’r Efengyl ar Ail Sul y Grawys.

Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o’r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti’n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.” Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw.” Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau’n hen? A yw’n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a’r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn sydd wedi ei eni o’r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd.’ Y mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.”

Dywedodd Nicodemus wrtho, “Sut y gall hyn fod?” Atebodd Iesu ef: “A thithau yn athro Israel, a wyt heb ddeall y pethau hyn? Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth. Os nad ydych yn credu ar ôl imi lefaru wrthych am bethau’r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau’r nef? Nid oes neb wedi esgyn i’r nef ond yr un a ddisgynnodd o’r nef, Mab y Dyn. Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae’n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, er mwyn i bob un sy’n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef. Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo.”

Myfyrdod

Nid peth hawdd ydi ffydd, a tydi perthynas â Duw byth yn statig nac yn llonydd. Yn ein bedydd, rydyn ni’n penderfynu troi oddi wrth y tywyllwch at oleuni Crist; mae ein bywydau wedi’u selio ers hynny â’r Ysbryd Glân. Ond nid cyflawnder mo hynny. Mae’n ddechrau taith, yn ddechrau’n pererindod droellog tuag at sancteiddrwydd mwy perffaith, tuag at ddyfnderoedd Duw. Fe fydd yna adegau o agosrwydd ar hyd y daith – adegau o ddatguddiad, hyd yn oed – ennyd o weddnewid wrth addoli yn yr eglwys, neu mewn gweddi, neu yng nghanol byd natur, neu wrth wrando ar gân, neu’n edrych ar anwylyd – ennyd pan wyddom mai dyma yw gogoniant. Fe fydd yna adegau o bellter ac unigedd hefyd, weithiau o’n hanobaith a dro arall o’n diogi llugoer. Efallai y bydd adegau o anghyfanhedd-dra pan ddarganfyddwn ni, er mawr syndod, fod gwendid, neu dristwch, neu unigrwydd, neu angen, yn dwyn gras Duw yn agos iawn atom, ein hunig gydymaith ar y daith. Nid methiant yw bod ar drywydd Duw, yn ôl ac ymlaen, weithiau’n agos ac weithiau’n bell; nid methiant, ond mesur bywyd.