Phoebe

Phoebe – yr un sy’n disgleirio
Enid R. Morgan

Pan oeddwn yn blentyn, ‘Anti Ffebi’ oedd mam Anti May a lechai yn ei llofft gan lywodraethu’r cartre i gyd oddi yno. Yr oedd hi’n hen iawn, iawn, ac os rhywbeth yr oedd arnaf ei hofn hi. Ond yn ddiweddarach, wrth ymdrechu yn y ddadl dros ordeinio gwragedd, deuthum yn hoff iawn o’r enw gan fod Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid yn sôn amdani hi fel ‘diakon’, yn wir fel cyd-weithiwr ag ef.

Wyddwn i ddim mai ystyr yr enw yw ‘un sy’n disgleirio’, a minnau wedi bod yn ddigon hy i ddefnyddio’r gair fel ffugenw o dro i dro.

Dyna reswm felly dros brynu ffuglen (nid nofel) dan yr enw Phoebe gan ddiwinydd praff o’r enw Paula Gooder. Mae hi’n ganghellor Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain. Nid yw’n gweu stori gyffrous a phoblogaidd megis yn y nofelau o’r ganrif ddiwethaf fel The Big Fisherman a The Robe. Ond y mae hi’n procio’n dychymyg wrth roi cnawd ac esgyrn o gwmpas rhai o’r cymeriadau nad ydynt yn fwy nag enwau bellach yn epistolau’r Testament Newydd ac yn gweu darlun byw iawn o’r gymdeithas newydd a grëwyd gan Gristnogion o gefndiroedd tra gwahanol. Mae hi’n dangos bod y ffydd yn cynnig ffordd gwbl newydd o feddwl ac ymddwyn fyddai’n herio cymdeithas hierarchaidd Rhufain. Dyna paham y denwyd cymaint o wragedd a chaethion, a pham ei bod mor anodd i gyfoethogion a bonedd dderbyn yr her.

Rydyn ni wedi arfer dychmygu sut gymeriadau oedd pobl yr efengylau a gwyddom y straeon amdanynt. Does dim cymaint i’w gael am Junia, nac am Prisca ac Acwila, nac am Titus a Marc.

Mae’n bywhau’r cefndir i’r hyn a alwyd yn ‘Efengyl yn ôl Paul’ yn gampus ddarllenadwy, ac ar ddiwedd y stori ceir nodiadau darllenadwy-ysgolheigaidd. Ffordd ddiog o wneud astudiaeth Feiblaidd!

Os bydd hi’n dal yn bosibl archebu llyfrau drwy’r post yn y cyfyngder presennol, yna archebwch gopi. Mae’n ddarllenadwy ac yn apelio i’r dychymyg a’r deall. Ac nid yw’n mentro cyfleu Paul fel cymeriad annwyl a chariadus chwaith!

Paula Gooder, Phoebe: a Story (Hodder, 2019; £8.99)