Llurig Sant Padrig

Llurig Sant Padrig

Yn emyn, yn weddi, yn fyfyrdod, yn adlais o weddïau’r Hen Destament a siantiau’r Derwyddon ond yn Grist ganolog, mae geiriau Padrig yn mynd â ni yn ôl i’r oes lle roedd bywyd o ddydd i ddydd yn llawn peryglon a dychryn. Ar ddydd Gŵyl Padrig eleni, fe dynnwyd sylw, yn fwy nag erioed o‘r blaen, gan bob traddodiad Cristnogol yn Iwerddon at eiriau Padrig pan gyhoeddwyd mesurau argyfwng llym yn y wlad yn dilyn y patrwn drwy Ewrop a’r byd.

Mae’r ymateb i’r Coronafirws yn nodweddiadol o’r ofnau a’r cwestiynau mewn cyfnod o argyfwng: mwy o gwestiynau nag atebion, mwy o ofergoeliaeth na rhesymeg, mwy o sinigiaeth na ffydd. Ond mae geiriau Sant Padrig wedi cyfeirio cenedlaethau at gadernid a gobaith mewn Duw a ddaeth yn ddigon agos atom i rannu ein dynoliaeth yn Iesu. Nid atebion syml sydd yma, ond bod Duw’r Creadwr yng nghanol popeth ac mai byd da yw hwn. ‘The Catheral of Creation’ oedd teitl un pennod o gyfrol John Robinson, Rediscovering the Celts.

Mae’r llurig yn faith ac mae sawl fersiwn i’w gael. O gofio i Badrig farw yn 461, go brin y gallai’r cyfan fod yn waith Padrig ei hun, ac mae’n bosibl fod disgyblion i Badrig wedi ychwanegu ati dros y blynyddoedd. Dyma ddetholiad o’r llurig ar gyfer 2020 gydag ychwanegiad byr ar y diwedd.

Anadlaf yn nerth fy Nuw,
galwaf enw’r Tri yn Un
ar fy nhaith …

Anadlaf yn nerth y nef
gyda geni Crist,
gyda chariad ei groes,
a grym ei atgyfodiad.

Anadlaf yn nerth fy Nuw
dan las y nef a’r nefoedd,
oleuni llachar yr haul
a dirgelwch mawr y lleuad,
yn llewyrch y tân,
yn fflachiadau’r mellt, yng nghyflymder y gwynt,
yn nyfnder y cefnfor, yng ngwreiddiau’r ddaear,
yng nghadernid y graig.

Anadlaf yn nerth fy Nuw
gyda’i gariad i’m harwain,
Ei nerth i’m cynnal, ei ddoethineb i’m cyfarwyddo,
Ei lygaid i weld imi,
Ei glust i glywed imi,
Ei air i lefaru wrthyf,
Ei ffordd i godi o’m blaen,
Ei darian i’m hamddiffyn
rhag bygythiadau, rhag temtasiynau,
rhag ofnau …

Crist i’m gwared heddiw
rhag gwenwyno, rhag llosgi,
rhag boddi, rhag anafu …

Crist heddiw o’m hamgylch i,
ar y dde i mi, ar y chwith i mi,
oddi mewn imi,
oddi uchod i’m codi, oddi tanaf i’m cynnal,
o’m blaen i’m harwain.
o’m hôl i’m hatal,
o’m hamgylch i’m hamddiffyn.

Anadlaf yn nerth fy Arglwydd Dduw
ar fy ffordd …
Greawdwr y cread da,
diolch am ofalwyr dy gread,
a gwarchodwyr bywyd,
am ddoniau iacháu ac adfer,
am y gobaith sydd ym mhob goleuni
ac am gael cydgerdded i gyfeiriad
gwanwyn tawel Dy gariad.