Arglwyddiaeth

ARGLWYDDIAETH

Daeth i’m meddwl yn ddiweddar mor bellgyrhaeddol yw dylanwad Cristnogaeth ar fywyd a diwylliant y Gorllewin. Ble, er enghraifft, fyddai cerddoriaeth Ewrop heb J. S. Bach, Requiem Verdi, Mozart a Fauré? Mor dlawd fyddai ein celfwaith heb luniau’r Meistri o Enedigaeth Iesu, y Dioddefaint, a’r Pieta, heb sôn am gampwaith Michaelangelo ar nenfwd y Capel Sistinaidd yn y Fatican. A beth am holl bensaernïaeth Ewrop o’r Oesoedd Canol ymlaen? Byddai bwlch enfawr yn ein diwylliant cyfoethog petaem yn tynnu pob dylanwad Cristnogol allan ohono.

Ond mewn cyfrol newydd o’i waith mae Tom Holland yn mynd ymhellach o lawer, ac yn dadlau bod holl syniadaeth a gwerthoedd y byd gorllewinol yn tarddu o’r ffydd Gristnogol. Hanesydd a Chlasurwr yw Tom Holland, darlledwr ac awdur toreithiog. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Dominion, The Making of the Western Mind (2019), ac y mae’n gampwaith.

O’i darllen, cawn wylio ymerodraethau’r Dwyrain Canol ac Ewrop yn codi ac yn cwympo wrth iddo gwmpasu cyfandiroedd a chanrifoedd – gan gynnwys y ganrif bresennol. Mae’r awdur yn gosod y cyfan ar gynfas eang: tour de force yn wir; ond yr hyn sy’n gwneud y gwaith mor nodedig yw ei fod yn darllen fel nofel. Llwydda Tom Holland i blethu milenia o hanes, ochr yn ochr ȃ manylder trawiadol, yn ddiwnïad.

Ceir aml i berl yma: er enghraifft, mae’n ein hatgoffa nad yw’r gair efengyl (newyddion da) yn perthyn i Gristnogaeth yn y bȏn, ond ei fod wedi ei fenthyg o fyd y Rhufeiniaid. Mae’n tynnu ein sylw at arysgrif ar garreg yn ninas Priene ar lan y Mȏr Egeaidd sy’n dyddio o 29 CC, yn canmol Cesar Awgwstws am roi terfyn ar ryfel a sefydlu heddwch. Dyma newyddion da (euangelia, lluosog) i bawb. Dysgais air newydd yma hefyd, nid o’r byd Clasurol, ond o eirfa gyfoes: gair sy’n tarddu o slang Affro-Americanaidd yr unfed ganrif ar hugain, sef woke. A’i ystyr? Bod â chydwybod gymdeithasol, yn effro i anghenion pobl eraill. Gobeithio ein bod ni i gyd yn bobl woke!

Y naratif sy’n rhedeg trwy’r gwaith yw mai Cristnogaeth sydd wedi llywio nid yn unig ein diwylliant, ond ein holl feddylfryd, ein moeseg a’n gwleidyddiaeth, a’i bod yn para i wneud hynny. Er enghraifft, mae’n tynnu sylw at ddatganiad y Chwyldro Ffrengig ar hawliau dynol, a oedd yn dilyn patrwm yr Unol Daleithiau. Maes o law, cafodd datganiad tebyg ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig, a chyfeirir yn aml at egwyddor hawliau dynol fel ‘a self-evident truth’. Dim o’r fath beth, medd Holland: mae’r cysyniad yn deillio o waith Cyfreithwyr Eglwysig yr Oesoedd Canol, ac yn y pen draw, wrth gwrs, o ddysgeidiaeth Iesu ei hun. ‘Repeatedly,’ meddai, ‘like a great earthquake, Christianity has sent reverberations across the world.’

Wrth ddisgrifio bywyd Ewrop yn y nawfed ganrif, mae’n gyrru’r pwynt adref fel hyn:

Increasingly, in the depths of the Frankish countryside, there was no aspect of existence that Christian teaching did not touch … The rhythms of the Lord’s Prayer and the Creed, repeated daily across the Frankish empire and beyond, in the kingdoms of Britain, and Ireland, and Spain, spoke of a Christian people becoming ever more Christian. The turning of the year, the tilling, the sowing, the reaping, and the passage of human life, from birth to death – all now lay in the charge of Christ.

Drosodd a throsodd, mae Holland yn tynnu sylw at ddwy egwyddor sylfaenol y Ffydd; dwy egwyddor sy’n unigryw i Gristnogaeth, ac a fu’n rhan o’r ‘ddaeargryn’ oesol hon. Yn gyntaf, bod Duw wedi’i wneud ei hun yn wan yn Iesu, gan ddioddef y boen a’r gwaradwydd eithaf: dyma’r ‘tramgwydd’ (skandalon) y cyfeiria Paul ato yn 1 Corinthiaid, pennod 1. Yn ail, y darlun a gawn o fywyd yr Eglwys Fore yn yr Actau, pennod 2: ‘Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a’u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un.’ Dyna sail y cymhelliad i rannu ac i ofalu, i sefydlu ysbytai a rhoi cardod. O’r traddodiad Iddewig-Gristnogol y mae olrhain argyhoeddiadau’r Iddew Karl Marx a’r chwyldro Comiwnyddol. A beth a wnawn o’r datganiad hwn? ‘Christianity, it seemed, had no need of actual Christians for its assumptions still to flourish.’

Diddorol hefyd yw ei ymdriniaeth o rai sydd wedi adweithio i Gristnogaeth yn y cyfnod Modern, oherwydd adweithio y maen nhw, medd Holland, yn erbyn egwyddorion sylfaenol y Ffydd. Mae’n honni y gellir olrhain dadleuon llawer o wyddonwyr, athronwyr a gwleidyddion mwyaf eithafol Ewrop yn ystod yr 20g. a’r 21g. yn ôl i waith Nietzsche, gyda’i ddatganiad enwog fod ‘Duw wedi marw’, a’i alwad daer ar ddynoliaeth i gefnu nid yn unig ar y cysyniad o’r dwyfol, ond hefyd ar y math o weithredu sydd, ym marn Nietzsche, yn arddangos gwendid a meddalwch.

Wrth ymdrin â’r ffynonellau ysgrythurol, mae Holland yn ymwybodol o’r cwestiynau sy’n codi o astudiaethau beirniadol: e.e., mae’n rhannu amheuaeth llawer o ysgolheigion yr Hen Destament ynghylch yr adroddiadau am yr Ecsodus a’r Goresgyniad, a hynny oherwydd diffyg tystiolaeth hanesyddol ac archaeolegol. Fel llawer un o’i flaen, mae’n cwestiynu bodolaeth Moses fel ffigur hanesyddol. Wrth drafod Moslemiaeth, o’i dechreuad yn y seithfed ganrif hyd at dwf Islam eithafol, filitaraidd ein cyfnod ni, mae’n dangos dealltwriaeth ddofn, ynghyd â beirniadaeth. A gwir y dywed am yr eglwys ar hyd yr oesoedd mai rhyfel cartref rhwng ei gwahanol garfanau fu ei pherygl pennaf!

Amhosibl fyddai gwneud cyfiawnder â chyfrol mor gynhwysfawr o fewn terfynau ysgrif fer fel hon, ond mae’n werth tynnu sylw at y cwestiynau a’r heriau y mae’n eu codi i ni, yn hanesyddol ac yn gyfoes.

Glyn Tudwal Jones
Caerdydd