E-fwletin 15 Mawrth 2020

Covid – 19

Ddechrau’r flwyddyn, a ninnau ar drothwy degawd newydd ac yn wynebu gweithredu’r penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, prin y byddwn wedi meddwl y byddem, o fewn ychydig wythnosau, yn byw mewn amgylchiadau y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn eu disgrifio fel pandemig. Mae ymlediad diwrthdro’r coronafeirws wedi arwain at sefyllfa nad oedd modd i ni hyd yn oed ei dychmygu ychydig fisoedd yn ôl.

Mae’n gysur gwybod mai symptomau ysgafn y mae plant ifanc fel rheol yn eu datblygu a’i bod yn debygol iawn y byddan nhw a phobl yn eu hugeiniau a’u tridegau yn gwella’n sydyn ac yn llwyr. Ond mae’n fater arall i rai sydd dros tua 60 oed, yn enwedig y rhai sydd eisoes â chyflyrau meddygol hirdymor, a gall y canlyniadau fod yn wahanol iawn.

Felly, beth yw ein cyfrifoldeb ni fel aelodau o eglwysi a chapeli, yn enwedig y rhai sy’n arwain neu’n trefnu gweithgareddau?

Rydym yn gyfarwydd â’r diffiniad o eglwys, ers dyddiau sefydlu’r Eglwys Fore, fel cymdeithas o gredinwyr sy’n dod at ei gilydd i gydaddoli, i gydgymuno, i rannu profiadau mewn cyfnodau o lawenydd a thristwch, gan gynnal a chefnogi ei gilydd, yn enwedig y rhai gwan a’r rhai mewn angen.

Yn y gorffennol, wrth gwrs, mae hyn wedi digwydd mewn sefyllfaoedd lle mae pobl yn cwrdd wyneb yn wyneb. Ond dadlennol iawn oedd sylwadau Dr Margaret Harris, cynrychiolydd Sefydliad Iechyd y Byd, ar raglen Peston nos Fercher (11/3) fod angen inni bellach ailystyried ein holl agwedd tuag at gymdeithasu torfol. Gan fod llawer iawn ohonom yn byw mewn dinasoedd a threfi poblog, mae feirysau newydd na ellir eu rheoli na’u gwella, fel y coronafeirws presennol, yn fwyfwy tebygol o gael eu creu, yn ôl Dr Harris. Felly, awgrymodd y dylai’r genhedlaeth hŷn fynd ati i gofleidio dulliau technolegol o gyfathrebu – dulliau sy’n osgoi cyffyrddiad a phresenoldeb corfforol, fel y mae’r cenedlaethau iau eisoes yn ei wneud i raddau helaeth.

Mae i hyn oblygiadau pellgyrhaeddol i’r syniad traddodiadol o eglwys fel cymdeithas o bobl sy’n dod at ei gilydd, mewn adeilad penodol, ar amser penodol – ac yn ein herio i feddwl am ddulliau radical o weithredu a chyfleu ein ffydd.

Felly, diolch fyth am y dechnoleg ‘newydd’, sy’n golygu y gallwn anfon gair o gefnogaeth neu o gysur: boed drwy neges destun, WhatsApp, Facetime neu Skype – ac os na fydd hynny’n bosib, mae clywed llais caredig ar y ffôn wastad yn codi calon, wrth gwrs.

Gweddi Cymuned Corrymeela

Duw’r newyddion da sy’n mynd ar led yn gynt nag ofn,

Duw’r dewder sy’n dod o’r galon:

Bydd gyda ni wrth i’n pryderon gynyddu

ac i ansicrwydd ein llethu.

Bydd gyda ni wrth i blant ofyn cwestiynau anodd,

A phan fydd ein rhieni fel petaen nhw’n bell oddi wrthym.

Atgoffa ni nad yw bod yn gymuned bob amser yn golygu

bod yn gorfforol bresennol yn ymyl ein rhai annwyl.

Gall hefyd olygu bod yn bresennol yn yr ysbryd

gyda’r rhai sy’n teimlo ar eu pen eu hunain;

a’th fod di, ein Duw, y Duw a wnaed yn gnawd,

yn Dduw sy’n ein galw o ganol berw bywyd

ac yn dweud wrthym am ymlonyddu

gan wybod

dy fod yn Dduw

sydd gyda ni.

Amen.

 

(Addaswyd y weddi o wefan: https://www.corrymeela.org/)