GWEITHREDU A GWAMALU

Gweithredu a Gwamalu

gan Ainsley Griffiths

Ainsley 2

Y Parchg. Ainsley Griffiths

Ar ôl treulio’r deng mlynedd diwethaf yn gweinidogaethu fel caplan ar Gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (Coleg y Drindod gynt), rwyf wedi dod i ddeall tipyn mwy am rai o agweddau a chwestiynau myfyrwyr cyfoes. Eang iawn yw ystod y sylwadau hyn ac wedi eu mynegi mewn amrywiol gyd-destunau: weithiau yn dilyn y Cymun ar fore Sul, weithiau mewn grŵp trafod neu gyfarfod o’r Undeb Cristnogol ac weithiau mewn sefyllfa hollol anghrefyddol – er enghraifft yn y caffi, y gampfa neu Undeb y Myfyrwyr. Rwy’n credu taw’r sgwrs ‘ddyfnaf’ a gefais i erioed oedd ym mhen bas pwll nofio’r brifysgol ar ddiwrnod braf yng nghanol gwyliau’r haf – trafodaeth yn y dŵr am ryw awr a hanner am y ffordd y gallai crefydd a diwinyddiaeth gyfoethogi cyfraniad athroniaeth i ateb cwestiynau astrus am ystyr bywyd.

Sleid Ainsley

Roedd y myfyriwr a fu’n fy holi yn ddyn ifanc heb fawr o gefndir crefyddol ond eto’n dirnad bod ganddo gwestiynau dwys nad oedd bywyd dyddiol, arwynebol braidd, yn eu hateb mewn ffordd ddigonol. Ni chefais gyfle i barhau’r drafodaeth wedyn gan ei fod newydd raddio ac yn symud ymlaen i ddechrau gyrfa – ac yn aml fel ’na mae hi – sgwrs annisgwyl mewn lleoliad rhyfedd.

Am gyfnod byr penderfynais y byddai’n syniad da i fynd i’r Undeb ar nos Fercher er mwyn ceisio ‘cysylltu’ gyda myfyrwyr yn eu ‘cynefin’ (ond digon buan y sylweddolais i nad oedd aros lan gyda myfyrwyr tan yr oriau mân a bod lan gyda’r plant ar doriad gwawr yn opsiwn hawdd ei gynnal!). Er bod rhai myfyrwyr yn synnu wrth weld ‘Y Parchedig’ yng nghanol miri meddwol, roedd eraill (efallai dan ddylanwad y ddiod gadarn) eisiau siarad am broblemau yn eu bywyd, sôn am ffydd a gwerthoedd personol a chydnabod bod tipyn mwy i’w bywydau nag astudio a chael hwyl. Serch hynny, rhyfedd yw’r profiad o fod ymhlith y lleiafrif bychan o bobl sobr tra’n ceisio siarad yn gall â rhywun sydd am rannu ei stori yng nghanol y sŵn byddarol. Byddwn yn eu gwahodd i ddod draw i’m swyddfa am sgwrs rywbryd wedyn a chael llonydd i feddwl  a siarad – ond ofer oedd y cynnig fel arfer. Efallai fod rhywbeth am fod yn y fan a’r lle, gyda’r alcohol yn esmwytho’r nerfau ac yn tawelu’r ansicrwydd.

DrindodWrth gwrs, daw cwestiynau hefyd yn sgil rhythm dyddiol y gaplaniaeth, â’r rhain yn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr. Gyda rhai o ymlyniad efengylaidd mae’r rhain yn codi o ddarlleniad digon ceidwadol o’r Beibl a syniadau confensiynol o ran athrawiaeth a moeseg. Rwy’n ysgrifennu’r pwt bach ’ma ar ddydd Iau’r Dyrchafael, a thybiaf y byddai canran go uchel o fyfyrwyr o’r math hwn yn hapus iawn i dderbyn y naratif am esgyniad Iesu a gawn gan Luc yn ei efengyl ac yn Llyfr yr Actau mewn dull digon llythrennol. Byddai eraill – yn eu plith rai myfyrwyr sy’n addoli gyda ni o Sul i Sul – am herio’r ddealltwriaeth o ddyrchafiad corfforol i ryw nefoedd uwchben y cymylau a dechrau archwilio’r iaith am ‘ddirgelwch’ a gawn yn Paul.

A chyda ffydd gadarn yn yr Arglwydd atgyfodedig, byddent am honni llai o ran ffeithiau gweledol y digwyddiad rhyfeddol hwn a disgwyl mwy wrth geisio deall ystyr y digwyddiad trwy weddi, trwy drafod ag eraill neu drwy astudiaeth bersonol.

Myfyrwyr o’r math hwn sydd fwyaf tebyg o ymuno yn y rhaglen a gynigiwn ar weddi fyfyriol – sef y dull o weddi ddistaw a hybwyd gan yr offeiriad Catholig Rufeinig John Main, y mudiad ‘Centering Prayer’ a’r ffordd hynafol o ddarllen yr Ysgrythur a geir drwy ‘Lectio Divina’. Yno mae modd bod yn agored i waith yr Ysbryd Glân sy’n fwy na’n gallu meidrol a chyfyng i ddeall mewn termau arferol ac yn ein hagor i ddulliau anghyfarwydd o ddirnad dirgelion y ffydd.

Graduates-1Agor meddyliau a chalonnau yw gwaith prifysgol – ac mae’n rhaid cofio hyn ar adeg pan fo pwysau ariannol o ran ffioedd a chostau byw yn pwyso ar ein myfyrwyr a phrinder cyllido cyhoeddus yn bygwth troi ein sefydliadau yn beiriannau addysgu un-dimensiwn sy’n gorfod gwarantu budd economaidd i’r wlad a chynyddu cyflogadwyedd. I rai, mae’r dimensiwn cyfoethog ychwanegol hwn – sydd weithiau’n cael ei anwybyddu neu ei anghofio – yn dod yn rhan amlwg o’u cyfnod yn y brifysgol ac o ganlyniad bydd llwybr eu bywyd yn newid. Clywais yn ddiweddar gan gyn-fyfyrwraig sydd, gyda’i gŵr, wedi sefydlu ysgol yng nghanol un o slymiau gwaethaf Nariobi ac yn helpu menywod lleol i ddechrau busnes. Cefais hefyd alwad gan wraig ifanc a fu’n weithgar iawn yn y gaplaniaeth yn ystod ei chyfnod yn y Drindod ac ymhlith ei chyfraniadau a arweiniodd ymgyrch yn rhoi sylw i ing pobl newynog yn y gwledydd tlotaf yn ogystal â hybu gwaith i ddadlennu’r sefyllfa enbyd o ran caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Roedd wedi cysylltu gyda chais am weddi wrth iddi ddefnyddio’i doniau fel actores, a gallu cerddorol ei gŵr, i gefnogi undebau Cristnogol yn nwyrain Ewrop trwy gyflwyno’r efengyl drwy’r celfyddydau.

Cyn y Pasg cefais gyfle i gwrdd yn Llundain â chyn-fyfyriwr disglair sydd wedi defnyddio’i radd Saesneg fel platfform i ddilyn cwrs MA mewn llenyddiaeth ac athroniaeth, ac yn darganfod bod darllen Heidegger a Derrida yn cyfoethogi ei waith fel swyddog mewn eglwys gymunedol, efengylaidd, leol – cysylltiad diddorol ond annisgwyl braidd sy’n dangos gwerth addysg yn ffrwydro gorwelion.

Yr un pryd mae’n rhaid cyfaddef bod golygon eraill yn parha’n ddigon cyfyng yn y byd materol, technolegol, cyflym sydd ohoni. Ar ôl graddio, mae rhai’n ddigon hapus i weithio mewn siop neu swyddfa mewn swydd nad oes angen cymwysterau prifysgol tra mae eraill yn dilyn llwybr digon confensiynol ym myd addysg neu fusnes. Y nod i rai yw cael digon i’w cynnal mewn modd cyffyrddus ond heb roi’r byd ar dân. Pan gynhaliwyd etholiadau’r Cynulliad, prin y byddech yn gwybod am hynny o ran gweithgarwch gwleidyddol ar y campws. Yn wir, ofer fu ymdrechion glew swyddogion yr Undeb i drefnu hystingau er mwyn rhoi llwyfan i’r ymgeiswyr lleol – a hyn oherwydd diffyg diddordeb – difaterwch – ymhlith ein myfyrwyr, yr union rai sy’n mwynhau braint addysg a chyda’r gallu i fod yn arweinwyr y dyfodol.graduation-1345143_960_720

Mae’n codi hiraeth am fy nyddiau i ym Mhrifysgol Manceinion (prifysgol â nifer o fyfyrwyr gwleidyddol) ddiwedd y 1980au pan gynhaliwyd trafodaeth ffurfiol yn yr Undeb bob dydd Mercher er mwyn gwrando ar areithiau sylweddol gan fyfyrwyr yn dadlau o blaid neu yn erbyn rhyw bwnc llosg cyfoes. Tu fas, byddai llu o aelodau o fudiad y Gweithwyr Sosialaidd yn ceisio ein hennill i’w hachos a nifer o gymdeithasau yn poeni am ryfel, tlodi, anghyfiawnder a hawliau dynol. Gobeithio y bydd modd ailgynnau angerdd felly ymhlith y to ifanc.

Er bod y gwaith y medr y gaplaniaeth ei wneud er mwyn cynnig profiad ehangach i’r myfyrwyr yn gyfraniad digon bach, rwy’n gobeithio’i fod yn tystio i’r delfryd hwnnw o brifysgol fel lle sy’n ein galluogi i ddarganfod mwy – yn ysbrydol, yn gymdeithasol ac yn foesol – a gwneud felly nid er mwyn bod fel sbwng yn sugno maeth heb ei drosglwyddo’n ymhellach ond er mwyn derbyn y sgiliau, yr adnoddau a’r weledigaeth i fod yn ddinasyddion mwy crwn ac aeddfed sy’n gallu cynnig rhywbeth gwerthfawr ac unigryw i’n byd.