YR EGLWYS GATHOLIG A’R GYMRU GYMRAEG

Yr Eglwys Gatholig a’r Gymru Gymraeg

349663-the-vaticanCyfnod o lawenhau oedd degawdau olaf yr ugeinfed ganrif i Gatholigion Cymraeg gan fod dau o’r tri esgob Cymreig, sef Esgob Daniel Mullins ac Esgob Edwin Regan, yn siaradwyr Cymraeg ac yn bobl oedd yn deall Cymru ac anghenion yr Eglwys yn ein gwlad. Esgob Daniel Mullins oedd llais yr Eglwys Gatholig i’r Cymry Cymraeg ac yn llais Cymru i’r Catholigion nes iddo fe ymddeol.  Wedi iddo ymddeol, ei gyd-weithiwr yng ngogledd Cymru, Esgob Edwin Regan, oedd llais Cymru o fewn sefydliad yr Eglwys yn fyd-eang tan ei ymddeoliad yntau chwe blynedd yn ôl.

Reagan

Esgob Edwin Regan

Mullins

Esgob Daniel J. Mullins

Mae ymddeoliad y ddeuddyn hyn wedi gadael gwagle. Maent yn byw yng Nghymru o hyd, ond heb gyfrifoldebau esgobol ers ymddeol.

 

 

 

Bellach, does neb o’r tri esgob Catholig gweithredol yng Nghymru (esgobion Caerdydd, Mynyw a Wrecsam) yn medru’r Gymraeg. 

Ymddengys i lawer o bobl fod yr Eglwys Gatholig yn mynd trwy gyfnod nawr o ddiffyg dealltwriaeth am anghenion Cymru – ac yn fwy byth o ddiffyg dealltwriaeth am anghenion Catholigion Cymraeg.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael (blwyddlyfr 2016), sef y rhai ar gyfer y flwyddyn 2014, nifer y Catholigion oedd yn mynychu’r Offeren yn y tair esgobaeth oedd:

Caerdydd    14,983                      Mynyw         6,594                        Wrecsam     6,316

Hynny yw, cyfanswm drwy Gymru o 27,893 o addolwyr cyson (oedolion a phlant).

O ystyried bod nifer o’r addolwyr hyn wedi mudo o wledydd eraill neu’n blant i ymfudwyr diweddar, daw rhywun i sylweddoli bod mwyafrif y newydd-ddyfodiaid yn deall dim oll am Gymru wrth gyrraedd yma, ac yn cael tipyn o syndod bod Cymru yn wahanol i Loegr a bod yr iaith Gymraeg yn wahanol i’r Saesneg.  Mae’r plant, wrth gwrs, yn cael cyfle i ddysgu am Gymru ac i ddysgu Cymraeg yn eu hysgolion – ac yn aml iawn, trwy’r plant mae’r rhieni yn dod i ddeall mwy am Gymru.

Nid yw’r mewnlifiad hwn yn gyfyngedig i’r lleygwyr.  Oherwydd ‘prinder offeiriaid’ o wledydd Prydain, mae nifer gynyddol o offeiriaid o wledydd eraill bellach yn bugeilio yng Nghymru. Dônt yn bennaf o India ac Affrica, gyda rhai hefyd o Wlad Pwyl ac o Ynysoedd y Philipiniaid, sef o’r un gwledydd a diwylliannau â’r mewnfudwyr yn y meinciau.

Nid yw’r mudo’n beth newydd. Ganrif a hanner yn ôl, Gwyddelod oedd llawer o’r Catholigion oedd yn codi eglwysi yma yng Nghymru ac yn llenwi’r meinciau; saith deg o flynyddoedd yn ôl, Pwyliaid ac Eidalwyr gafodd loches yma. Bu nifer o offeiriaid o’r gwledydd hynny yn gwasanaethu yma hefyd.

O edrych ar ystadegau swyddogol yr Eglwys Gatholig, gwelwn batrwm o ddirywiad, gyda rhai yn priodoli hynny – yn gam neu yn gymwys – i ddwy ffactor arbennig, sef:

* y newid yn yr agweddau cymdeithasol tuag at ryw ac atal-genhedlu a ddechreuodd yn ystod chwedegau’r ugeinfed ganrif

* y sgandal cam-drin plant sydd wedi siglo’r Eglwys yn fyd-eang.

Dyma  ystadegau Blwyddlyfr 1986 (ffigyrau 1984) a Blwyddlyfr eleni (ffigyrau 2014)

                                                                                    1984                                2014

Nifer yr Offeiriaid                                                  388                                                193*

Nifer yr Eglwysi/Canolfannau Offeren           265                                                 203

Deoniaethau                                                              20                                                    17

Plwyfi                                                                           176                                                133

Bedyddiadau Plant                                               2,859                                           1,779

Marwolaethau                                                        1,878                                           1,804

Darpar-offeiriaid dan hyfforddiant                    28 (+9)**                                     8

Mynychwyr Offeren                                             61,326                                       27,893

(*Neu, 196 yn ôl tudalen arall – 3 ychwanegol yn Esgobaeth Wrecsam)

(**Nodir y nifer hon ar wahân yn y Blwyddlyfr fel myfyrwyr newydd ddechrau ar eu hyfforddiant)

Ni ellir anwybyddu dirywiad o oddeutu 50% yn niferoedd offeiriaid a mynychwyr Offeren – yn enwedig o ystyried y daw nifer o’r offeiriaid a’r lleygwyr o blith newydd-ddyfodiaid. Hebddynt, byddai’r dirywiad yn waeth.

1200px-StPatricksChurchCardiff

Eglwys Padrig Sant, Caerdydd

Yn 2016 yng Nghymru, cynhelir mwy o Offerennau yn yr iaith Falayalam nag o Offerennau Cymraeg – a mwy o Offerennau Pwyleg nag o Offerennau Cymraeg. Yn y flwyddyn 2014, o’r 1,200 o fedyddiadau yn Archesgobaeth Caerdydd, gweinyddwyd 101 ohonynt (bron i 10%) yn Eglwys Padrig Sant, Caerdydd (Eglwys y Pwyliaid).

 

 

Beth, felly, am y Catholigion Cymraeg? A beth am neges genhadol yr Eglwys Gatholig yma yng Nghymru?

Ysbeidiol fu’r weledigaeth genhadol yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Gellid sôn am gewri fel Henry Bailey Maria Hughes, Esgob Francis Mostyn a’r Genhadaeth o Lydaw,  Cymdeithas Teilo Sant, Coleg y Santes Fair Aberystwyth a Saunders Lewis – a’r Cylch Catholig. Ond mae diffyg gweledigaeth a pholisi cenhadol yn golygu bod cymunedau o Gatholigion Cymraeg yn cael eu chwalu pan fydd esgobion yn penderfynu symud offeiriaid ar fympwy. Mae rhai esgobion ac offeiriaid wedi deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yng ngwaith bugeiliol a chenhadol yr Eglwys – ac eraill ddim. 

HeraldYn ddiweddar, llwyddodd offeiriad o India – Tad Joshy (sef Rev. Fr. Joshy Thomas Cheruparambil Joseph) i ddysgu Cymraeg yn ei blwyf yn Nolgellau a daeth i ddathlu’r Offeren yn Gymraeg yn Aberystwyth yn 2012 … yn fuan cyn iddo gael ei alw’n ôl i India.  Dyna golled i ni yng Nghymru pan aeth e! 

Ar 20 Mehefin eleni cynhaliwyd Offeren fawr yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Caerdydd, i ddathlu canmlwyddiant Talaith Cymru – ac Archesgobaeth Caerdydd – a sefydlwyd gan y Pab Bened XV trwy’i Lythyr Apostolaidd ‘Cambria Celtica’ yn 1916. Defnyddiwyd y Gymraeg ar ddechrau a diwedd yr Offeren gan Archesgob George Stack. Darllenwyd un o’r llithiau yn Gymraeg, ac ’roedd ‘Calon Lân’ ar ddiwedd yr Offeren bron wedi codi’r to! Dyma arwydd o obaith am y gwanwyn newydd yng Nghymru.

Ond beth am y ‘prinder offeiriaid’?  Mae nifer o eglwysi’n cau oherwydd ‘prinder offeiriaid’ – megis dros draean o holl eglwysi Esgobaeth Wrecsam eleni. Ond a oes prinder offeiriaid, neu a yw ffactorau fel pris eiddo a symud poblogaeth yn dylanwadu ar benderfyniadau?

Os edrychwn eto ar y ffigyrau, gwelwn fod 388 o offeiriaid ym 1984 i fugeilio 61,326 o fynychwyr Offeren (a nifer anhysbys o addolwyr achlysurol), sef 1: 158.  

Yn 2014 gwelwn fod 193 o offeiriaid i fugeilio 27,893 o fynychwyr Offeren (a nifer anhysbys o addolwyr achlysurol), sef 1: 145.

Felly, ar gyfartaledd, mae pob offeiriad y dyddiau hyn yn gyfrifol am fugeilio llai o blwyfolion na’i ragflaenydd 30 mlynedd yn ôl. 

Sut felly y gellid cyfiawnhau cau eglwysi ar sail ‘prinder offeiriaid’?  Gan gydnabod bod llawer o offeiriaid yn gwneud gwaith bugeiliol rhagorol, oni ddylid gofyn beth yw’r materion sydd yn golygu nad oes amser bellach gan nifer o offeiriaid i gyflawni eu priod waith sagrafennol, ysbrydol a bugeiliol? Oni fyddai’n well gadael y gwaith swyddfa, y gwaith cyllid, y garddio a’r trefnu blodau i leygwyr cymwys? 

Am fywgraffiad y Tad John FitzGerald, ‘Ieuan Hir’, gweler:

http://yba.llgc.org.uk/cy/c10-FITZ-JOH-1927.html

Am erthygl yn Saesneg am y Tad Joshy, gweler:

http://www.catholicherald.co.uk/news/2012/01/20/welsh-faithful-campaign-to-keep-indian-priest/