Golygyddol

Golygyddol

Erbyn i’r geiriau hyn ymddangos ar eich sgriniau, gyfeillion C21, efallai y byddwn i gyd wedi dechrau treulio’r profiad o weld rhywbeth gwerthfawr, ond amherffaith ddigon, yn cael ei luchio ymaith fel pe na bai gwerth nac amcan wedi bod iddo o gwbl. A does dim llawer o bwynt rhestru ymhellach y celwydd, y methiant, y camarwain, y diffyg cymedroldeb sydd wedi bod ar y ddwy ochr. Mae’r rheini wedi peri i nodweddion peryclaf y Saeson a mwyaf di-ddeall y Cymry bleidleisio yn erbyn parhau i ymdrechu mewn sefydliad a ddaeth i fodolaeth i geisio dwyn i ben hanes canrifoedd o ryfela rhwng cenhedloedd bach a mawr.

Brexit-Le-Monde-574823Wrth fod yn rhan o’r Gymuned Ewropeaidd dymunem gredu bod yno genhedloedd bychain eraill â’r un agenda â ni, sef parhau i fod ‘Yma o Hyd’ gan ymroi i fyw ein ffydd a’i mynegi yn null ein diwylliant ein hunain. Diniwed, efallai.

Mae’r corff oedd yn medru hybu mân ddiwylliannau, er yn cydnabod eu bod yn broblem i’w cymdogion, bellach yn gwegian.  Yr oedd cynorthwyo’r  mân genhedloedd yn help i wrthweithio’r casineb sy’n ffynnu ar ddrwg-deimlad canrifoedd. Mae rhywbeth enbyd iawn mewn cofio gwallgofrwydd brwydr y Somme yn sgil y fath  dwpdra di-egwyddor.

Gall fod effaith y bleidlais yn tanseilio corff sy’n gwegian. Ac fe ddylem gofio, wrth gerdded yn ddigon dihidio heibio i’r aml brosiectau adeiladu ac amddiffynfeydd glan môr a godwyd gyda help Ewrop, na fydd rhai newydd yn debyg o gael eu codi, ac y bydd help o Lundain dipyn yn anos ei sicrhau. (Ac fe ddylem gydnabod bod methiant Ewrop i reoli arian yn gytbwys a manwl wedi bod yn rhan o’r ddadl dros dynnu allan.)

Y cwestiwn i ni yma yn C21 yw ceisio meddwl beth yw’n galwedigaeth ni fel Cristnogion yn un o genhedloedd bychain Ewrop. Dyma felly ddarn hynod o’r gyfrol Ffynonellau Hanes yr Eglwys 1. Y Cyfnod Cynnar, a olygwyd gan Dr R. Tudur Jones. Daw’r darn hwn o’r ‘Epistol at Diognetus’ a ysgrifennwyd tua’r flwyddyn 150 (tt. 37–8). Dogfen yw sy’n disgrifio beth yw’r ffydd Gristnogol a sut y mae Cristnogion yn ystyried eu dinasyddiaeth pan oedden nhw’n lleiafrif braidd yn od mewn ymerodraeth filwrol. Mae gennym rywbeth i’w ddysgu o gyfnod pan oedd y ffydd yn dal i gael ei ffurfio ac yn dal yn destun drwgdybiaeth ac erledigaeth gan Iddewon, a’u hystyrient yn fradwyr, a chan Rufeiniaid, a’u drwgdybient am fod yn annheyrngar i’r wladwriaeth. Dyma fe, yng nghyfieithiad Dr Tudur. Mae’n asgwrn i gnoi arno:

Nid yw Cristnogion yn wahanol i weddill dynion o ran eu lleoliad, eu hiaith na’u harferion. Ni thrigant mewn dinasoedd ar wahân, ac nid oes ganddynt dafodiaith wahanol ac nid yw eu buchedd yn anghyffredin … Er trigo ohonynt mewn dinasoedd Groegaidd neu ddinasoedd eraill, fel y bwrir coelbren bob un, ac er iddynt ddilyn yr arferion lleol ynglŷn â bwyd, dillad a phethau eraill bywyd beunyddiol, rhyfedd ac annisgwyl, a chyfaddef y gwir, yw cyfansoddiad eu dinasyddiaeth hwy. Trigant yn eu mamwlad, ond fel pererinion. Cyfranogant ym mhobpeth fel dinasyddion; a dioddefant bopeth fel estroniaid. Mamwlad yw pob tir estron iddynt, a phob tir estron yn famwlad. Priodant fel dynion eraill ac ymddygant ar blant; ond nid ydynt yn difa eu hepil. Rhannant eu byrddau, ond nid eu gwelyau. Cânt eu hunain yn y cnawd, ond nid ydynt yn byw yn ôl y cnawd. Maent yn byw ar y ddaear ond mae eu dinasyddiaeth yn y nefoedd. Ufuddhânt i’r deddfau ordeiniedig, ond yn eu bucheddau eu hunain rhagorant ar y deddfau. Carant bawb, ac fe’u herlidir gan bawb. Maent yn adnabyddus, ac eto fe’u condemnir. Fe’u lleddir, ac fe’u bywheir. Cardotwyr ydynt, ond cyfoethogant lawer. Maent angen bopeth ond y maent uwchben eu digon. Dioddefant eu dianrhydeddu ond ym mhob dianrhydedd fe’u gogoneddir. Fe’u henllibir, ac eto fe’u cyfiawnheir. Fe’u difenwir, ond bendithiant; fe’u sarheir, a dangosant barch. Pan wnânt dda, fe’u cosbir fel drwg weithredwyr, ac wrth gael eu cosbi, llawenhânt fel petaent trwy hynny’n cael eu bywiocáu …. Mewn gair, yr hyn yw’r enaid mewn corff, dyna yw Cristionogion yn y byd … Mae’r enaid yn trigo yn y corff, ac eto nid yw o’r corff. Felly mae Cristionogion yn trigo yn y byd, ond nid ydynt o’r byd.

Stwff i gnoi cil arno wrth feddwl am orchymyn Iesu: ‘Na fernwch, fel na’ch barner’.