E-fwletin Gorffennaf 3ydd, 2016

Rhyfel Cyfiawn?

Na, nid rhyfel arfog ond rhyfel geiriol sydd gen i mewn golwg. Ymddengys mai dyna oedd ymgyrch y refferendwm. Er fod y rhyfel wedi ei hennill yn ôl y bleidlais, y mae`r brwydro yn parhau. Fel mewn rhyfel arfog mae`r teimladau yn gryf ar y naill ochr a`r llall.  Mewn rhyfel o unrhyw fath mae un ochr yn wyn a`r llall yn ddu. Mae ein hachos ni yn gyfiawn ond anghyfiawn yw eu hachos nhw. Mewn rhyfel y peth cyntaf i fynd yn ysglyfaeth iddo yw`r “gwir”. Bu`r dadlau a`r cecru yn hynod o bersonol,  roedd anwiredd a chelu`r gwir yn elfen yn y frwydr, a rhagfarn ac anoddefgarwch yn amlwg.  Unwaith y teflir mwd fe gollir y tir ys y dywedodd  Adlai Stevenson. y Seneddwr Americanaidd un waith.

Mae bod yn bersonol yn hawdd i`w adnabod a`i gondemnio. Nid yw`r celwydd  bob amser mor hawdd i`w adnabod, Yn aml ar ôl y rhyfel y daw y celwydd yn amlwg fel yn  ymgyrch y refferendwm. Roedd y naill  ochr a`r llall yn codi ein gobeithion i`r entrychion ac yn codi`r ofnau mwyaf dychrynllyd. Yr hyn sydd yn anodd ar y lefel hon o`r rhyfel hyd y gwelaf yw mai yn y tymor hir, ac yn y tymor hir iawn, y deuwn i weld pa mor real oedd rhai o`r ofnau a`r gobeithion.

Ond ar y naill ochr mae yna deimladau cryf oherwydd, yn gam neu’n gymwys, mae cyfiawnder o`u plaid a`u dicter yn un cyfiawn. Mae`r dicter hwnnw weithiau yn mynd allan o reolaeth ac yn troi`n gasineb personol ac annymunol,  a rhagfarn ac anoddefgarwch yn cymryd drosodd. Yn waeth na dim y perygl mwyaf yw gweld didwylledd ar un ochr yn unig. 

Er y gellir, dybiaf i, ddadlau dros ryfel cyfiawn mewn ambell achos, pa mor gyfiawn yw y rhyfel pan fo`r gwir yn mynd yn ysglyfaeth iddo a`r diniwed yn colli eu bywydau, heb sôn am fywydau y rhai sydd yn cymryd rhan ynddo?

A oedd y blaid “aros” yn meddu`r gwir i gyd? O blaid aros yr oeddwn i, ond ni chredais am funud fod y gwir i gyd ar yr ochr honno, fel mae`n amlwg nad oedd y gwir i gyd gan y blaid  “allan”. Ymddengys ar y lefel waraidd fod blaenoriaethau y naill blaid a`r llall yn wahanol wrth benderfynu y naill ffordd neu`r llall.

Nid yw paentio pawb gyda`r un paent ar y naill ochr neu`r llall  yn gymorth i`r achos o gwbwl, yn wir y mae`n gwbwl andwyol ac yn gadael ei effaith am genedlaethau i ddod.  Erys dylanwadau Streic y Penrhyn ar y gymuned ym Methesda o hyd yn ôl y sôn. Ond fel mewn rhyfel arfog, ynghanol y drin y mae pethau annisgwyl ac anarferol yn digwydd, pethau na fyddai yn digwydd ar adeg normal.

Yn rhy aml y mae`n haws dweud na gwneud.