BETH AM Y MOCH?

Ymaflyd â’r Testunau (Luc 8:28–39, Mathew 8:28–34 a Marc 5:1–20)

Beth am y moch?

Enid R. Morgan

‘Mab ffarm oeddwn i,’ meddai fy nghyfaill, sydd dros ei naw deg mlwydd oed, ‘ac roeddwn i’n eistedd yn y capel yn meddwl am y moch: sawl hwch fagu oedd ymhlith yr holl filoedd a aeth dros y dibyn?’ Yn llais yr hynafgwr clywn fachgen sylwgar o oes a fu, a gwenodd y ddau ohonom wrth feddwl am blentyn yn rhoi ei fys ar y math o fanylyn tramgwyddus sy’n gallu drysu unrhyw drafodaeth am ystyr y Beibl.

Felly, dyma ymdrech i feddwl eto beth yw ystyr y digwyddiadau yn Luc 8:28–39 (a Mathew 8:28–34 a Marc 5:1–20). Beth ar y ddaear wnawn ni nid yn unig o’r moch, ond yr ysbrydion aflan a’r cadwyni haearn sy’n mynnu torri? Os mynnwn ddarllen yr Efengylau fel myfyrdod ar ddigwyddiadau yng nghwmni Iesu o Nasareth ac ymgais i gyfleu eu hystyr, mae’r bwlch rhwng meddylfryd crefyddol Iddewon y cyfnod a’n meddylfryd mwy cyfyngedig, gwyddonol ni yn lleihau. Felly, dyma rai awgrymiadau a all helpu.

LegionFreedYstyrier yn gyntaf y lleoedd a’r enwau – mae aneglurder yn y fan hon. Mae cyfeiriad at ddwy dref: Gadara sydd bum milltir o’r môr, a Gerasa sy’n 30 milltir o’r môr; a does dim dibyn yn y naill na’r llall. (Does dim dibyn chwaith ger Nasareth, lle y dywedir i gynulleidfa’r synagog geisio bwrw Iesu oddi arno!) Mae hyn yn boendod os mynnir mai stori hanesyddol am ddigwyddiad penodol yw hi. Mae llai o ots os darllenir y testun fel naratif symbolaidd. Mae’r dibyn yn symbol i atgoffa’r Iddewon o’r fan lle y bwrid bwch dihangol oddi arno yn rhan o ddefod aberthol, a thorf yn taflu cerrig ato. Honnwyd hefyd fod y llythrennau gsr Hebraeg yn awgrymu’r weithred o fwrw allan, fel pan labyddir y bwch dihangol.

Beth am y Decapolis – dyma’r tro cyntaf i Iesu fentro yno deg dinas a sefydlwyd gan y Groegiaid i’r de-ddwyrain o Fôr Galilea? Buasai temlau yno, lle’r aberthid anifeiliaid i Zeus. Roedd y temlau hyn yn ganolog i fywyd y gymuned – yn fasnachol yn ogystal ag yn ddefodol a diwylliannol.

Mae gen i gof am ymweld â theml o’r fath yn nyffryn y temlau yn Agrigento yn Sicilia. Roeddwn wedi eistedd ar ddarn o garreg anferth i ddarllen llyfryn i dwristiaid. Fe symudais oddi yno’n go handi wrth sylweddoli mod i’n eistedd ar yr allor lle y byddai cannoedd o fustych yn arfer cael eu haberthu. Dyna pryd y sylweddolais i cymaint yr oedd economi dinas gyfan yn yr hen fyd yn  pwyso ar y cysylltiad rhwng defodau aberthol a’r  busnes gwerthu cig. O’r deml y deuai’r cig  a dyna pam yr oedd y pwnc yn un pwysig, os nad yn bwnc llosg, i Paul a’i gyfeillion yng Nghorinth.

Daeth cyfnod y Groegiaid yn rheoli i ben, ac yna cymerwyd eu lle gan y Rhufeiniaid – ardal ddryslyd, lawn dicter ac eiddigedd ac euogrwydd. Dyma’r ardal lle y bu Vespasian, yn ddiweddarach, yn gwersylla’i fyddin pan ddaeth diwedd ar Israel a dymchwel Jeriwsalem.  Felly, mae’r boblogaeth yn y fan hon yn boblogaeth Iddewig ei hanfod, yn dal â’i hymwybyddiaeth o gam ymerodrol. Ond mae’n dal i fanteisio ar yr elw sy’n deillio o arferion defodol a masnachol y Rhufeiniaid. Mae hi felly’n gymdeithas mewn dau feddwl. Mae hi wedi dioddef gormes dwy ymerodraeth ond wedi gorfod diystyru ei rheolau diwylliannol ei hunan a’r tabŵ ar fwyta cig moch. Dywed y gwallgofddyn mai ‘Lleng’ yw ei enw ‘am fod llawer ohonom’. Uned mewn byddin, wrth gwrs, yw lleng, ac y mae’r gorthrwm yn y Decapolis yn orthrwm ymerodrol a milwrol. Mae’r gwallgofrwydd yn gynnyrch gorthrwm ar  y naill law a chynffonna ar y llall.

Sleid LlengMae perthynas y gwallgofddyn a’i gymdeithas yn un od iawn. Mae’r gymdeithas yn ei ofni fel un llawn trais, ac felly mae wedi cael ei roi mewn cadwyni. Mae’n cael pyliau o ddychwelyd i’r ddinas ac angen cadwyni newydd. Ond fedrwn ni ddim credu na ellid gwneud cadwyni o haearn na ellid eu rhwygo gan ddyn, pa mor gryf bynnag yr oedd! Oedden nhw’n fwriadol yn gosod cadwyni y gellid eu torri, dim ond i’w arafu am gyfnod? Mae’r driniaeth a roddir i wallgofion, hyd yn oed yn ein cyfnod ni, yn fater o’u cadw draw rhag tarfu ar y gweddill ohonom.

Mae Walter Wink, yn ei lyfrau rhyfeddol am iaith Iesu a’r Efengylau am ddrygioni a daioni, yn adrodd stori i oleuo’r pwynt. Un o’r ddau beilot a lywiodd yr awyren a ollyngodd y bom atomig ar Hiroshima oedd Claude Eatherly. Rai blynyddoedd ar ôl y rhyfel fe ddechreuodd gamymddwyn mewn mân ffyrdd yn ei gartref yn Galveston, Texas. Pan wrthododd gydnabod ei fai, fe’i hanfonwyd i ysbyty meddwl ac egluro’r salwch fel euogrwydd personol am ei weithred yn gollwng y bom. Awgryma Wink mai’r broblem oedd fod y gymdeithas yn gwrthod derbyn ei chyfrifoldeb hithau dros y bom a ollyngwyd ac yn hapus i roi’r cyfrifoldeb i gyd ar y ‘gwallgofddyn’.  Roedd eu trais hwy yn cael ei drosglwyddo i’r unigolyn, a’i wneud yn ‘fwch dihangol’.

Awgrym Wink yw fod yr un peth yn digwydd yn y hanes rhyfedd hwn.

swine-over-cliffBeth felly am y moch? Fel y mae’r gwallgofddyn yn cael ei fwrw allan o’i gymdeithas, felly mae’r drygioni a’i llethodd ef yn cael ei fwrw ar y moch, a’r rheini’n rhuthro ‘dros y dibyn’. (Buasai cynulleidfa o Iddewon yn rhoi bonllef o gymeradwyaeth!) Ddylai Iddewon ddim fod yn magu moch yn y lle cyntaf. Cymdeithas afradlon, fel y mab, oedd hi, yn gwneud bywoliaeth ar sail safonau diwylliannol ei gormeswyr masnachol a milwrol. Roedd dinasyddion Gadara, wrth fwrw allan y gwallgofddyn, yn trosglwyddo iddo ef eu heuogrwydd moesol hwy eu hunain. Dyna paham y mae’n bwysig ei fod, ar ôl cael gwared ar y moch symbolaidd, yn cael gorchymyn gan Iesu i ddal i fyw gyda’i erlidwyr. Bydd ef yn symbol parhaus eu bod hwy, fel yntau, wedi cael cyfle i dderbyn iachâd. Efallai fod arnyn nhw fwy o ofn y dyn ‘wedi ei wisgo ac yn ei lawn bwyll’ na phan oedd yn rhwygo’i gadwyni.

Mae’r tu hwnt i’n gallu i wybod ‘beth ddigwyddodd’ fel man cychwyn y stori symbolaidd hon. Nid oes modd tynnu llinell rhwng ffaith a dehongliad. Ond o’i ddarllen yn y ffordd hon cawn destun llawn arwyddocâd cymdeithasol, moesol, diwylliannol i ninnau wrth inni geisio byw dan reolaeth ymerodraethau economaidd a milwrol ein cyfnod ninnau.

Mae’n gyfoethocach dehongliad na dryswch yr hogyn o Feirionnydd yn poeni am golli’r hychod magu!

Crynodeb yw’r uchod. I’r neb a fynno ddarllen yn fanylach, ffynhonnell y dehongliadau hyn yw’r awduron canlynol:

Confronting the Powers, Walter Wink (Fortress Press, 1986)

The Scapegoat, Rene Girard (Johns Hopkins University Press, 1986)

Jesus the Forgiving Victim, James Alison (Doers Publishing, 2013)

(Bydd cyfieithiad Cymraeg Enid Morgan o lyfr James Alison, Jesus the Forgiving Victim, sef Y Dioddefus sy’n Maddau, yn cael ei gyhoeddi’n fuan gan Gyhoeddiadau’r Gair)