Cofio Cyril G Williams

Cyril G. Williams 1921–2004

Mae’n anodd dychmygu heddiw pa mor argyfyngus oedd hi ar y diwydiant llyfrau Cymraeg ar ddechrau’r 1950au. Ers oes aur gyntaf y wasg Gymraeg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pethau wedi crebachu i’r fath raddau erbyn canol yr ugeinfed ganrif fel bod llawer o gyhoeddwyr a llyfrgellwyr yn darogan ei thranc o fewn degawd neu ddwy os na ellid sicrhau ymyrraeth cyrff llywodraethol. Ond yn ystod dyddiau llwm ddechrau’r 1950au cyhoeddwyd un gyfrol nodedig iawn gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, sef Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953). Cyfrol yw hon sy’n cynnwys dros 3,300 o ysgrifau bywgraffyddol ar Gymry amlwg. Bu’n rhaid chwilio’n ddyfal iawn am gymorth ariannol i wireddu’r fenter o argraffu gwaith oedd dros 1,100 o dudalennau. Yn y diwedd, cafwyd cefnogaeth gan Gronfa Gyffredinol y Cymmrodorion, Cronfa Degwm siroedd Cymru, sefydliadau addysgol, unigolion a’r Pilgrim Trust. Ond nid dyna ddiwedd hanes Y Bywgraffiadur chwaith, oherwydd fe gyhoeddwyd dau atodiad pellach i gynnwys rhai oedd wedi marw rhwng 1940 a 1970.

Beirniadaeth Deg?

Yna yn 2007 fe lansiwyd fersiwn electronig o’r holl gofnodion, gan ychwanegu erthyglau am rai fu farw ers 1970. Bellach mae’n cynnwys dros 5,000 o ysgrifau, a phersonau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd. Er bod y Bywgraffiadur gwreiddiol wedi derbyn croeso cynnes gan ysgolheigion, addysgwyr a rhai sy’n ymddiddori yn hanes pobl Cymru dros y canrifoedd, un feirniadaeth a leisiwyd oedd bod llawer gormod o weinidogion a phregethwyr anghydffurfiol nad oeddynt yn teilyngu’r fath sylw wedi eu cynnwys yn y gyfrol.

Ers 2014, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros ddatblygu’r wefan i’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Ymhlith y datblygiadau hyn roedd sicrhau gwell cydbwysedd o ran y meysydd a gynrychiolir – felly ceir mwy o sylw nag o’r blaen i gynnwys unigolion a gyfrannodd i feysydd megis gwyddoniaeth a chwaraeon, ac i ferched. Er hynny mae’n braf medru adrodd bod un a wnaeth gyfraniad gwerthfawr iawn fel gweinidog anghydffurfiol a diwinydd ymhlith yr unigolion diweddaraf i’w gynnwys yn Y Bywgraffiadur, sef Cyril G. Williams, a hynny union gan mlynedd wedi ei eni ym mis Mehefin 1921.

Cyfraniad Cyril Williams

Cyril G. Williams

Fe’i ganwyd yn fab i löwr ym Mhont-iets, yr ieuengaf o naw o blant. Mynychodd gapel Elim, Eglwys Bentecostaidd, am gyfnod yn ystod ei blentyndod cyn i’r teulu ddychwelyd i Nasareth, Capel yr Annibynwyr, fel y gallent addoli yn y Gymraeg. Dechreuodd bregethu pan yn 15 mlwydd oed, ac wedi iddo raddio a chymhwyso fel gweinidog fe’i ordeiniwyd yn y Tabor, Pontycymer cyn derbyn galwad i eglwys Radnor Walk yn Chelsea ac oddi yno i gapel y Priordy, Caerfyrddin. Wedi pedair blynedd ar ddeg fel gweinidog bugeiliol, fe’i denwyd i’r byd academaidd lle treuliodd weddill ei yrfa gan wneud cyfraniad mawr i addysg grefyddol yng Nghymru a thu hwnt.

Er yn Gristion o argyhoeddiad dwfn iawn, nid oedd yn barod i dderbyn bod popeth a ymddangosai yn y Beibl yn llythrennol wir – safbwynt oedd yn ddadleuol iawn ymhlith llawer iawn o weinidogion a diwinyddion. Maes arall nad oedd yn boblogaidd gan rai oedd ei sêl ddiysgog o blaid gwerth cyflwyno credoau crefyddau eraill, yn arbennig crefyddau’r dwyrain, i’w fyfyrwyr ac i gynulleidfa ehangach. Dangosodd fod llawer o’r gwerthoedd canolog yn gyffredin i grefyddau’r byd, ond nid oedd hyn yn ei arwain i feddwl bod modd eu huno. Wedi iddo gael ei ddyrchafu’n Athro Astudiaethau Crefyddol a Deon Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, tyfodd yr Ysgol i fod yn ganolfan o bwys rhyngwladol o ran addysgu ac ymchwil ym maes crefyddau cymharol, gan ddenu myfyrwyr ac ysgolheigion o bob rhan o’r byd. 

Roedd yn awdur toreithiog yn y ddwy iaith. Ymhlith ei gyfraniadau Cymraeg roedd ei gyfrol Crefyddau’r Dwyrain (Caerdydd, 1969) ac Y Fendigaid Gân (Caerdydd, 1991) sef cyfieithiad Cymraeg o Bhagarad Gita, tesun cysegredig Hindŵaidd. Yn ddiddorol iawn, wrth gofio i’w deulu gefnu ar yr eglwys Bentecostaidd ym Mhont-iets, astudiaeth o Dafodau Tân oedd testun ei ddoethuriaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan y teitl Tongues of the Spirit (Caerdydd, 1981).

Dyma ddiwinydd o statws rhyngwladol a gyfrannodd yn helaeth i addysg grefyddol yng Nghymru; mae’n llawn haeddu cael ei gynnwys yn Y Bywgraffiadur, a hynny ar achlysur dathlu can mlwyddiant ei eni.

Gwilym Huws

(Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn Dolen y Tab, sef cylchgrawn digidol wythnosol Capel y Tabernacl, Efail Isaf.)