Haleliwia am Heresi

HALELIWIA AM HERESI

(Adroddiad am ddwy sgwrs ar Zoom gan John Bell, o Gymuned Iona.)

Fe welwch ein bod wedi cynnwys recordiad o’r ddwy sgwrs ar diwedd yr adroddiad isod.

Rhaid i mi gyfaddef na wyddwn yn iawn beth i’w ddisgwyl pan glywais beth fyddai testun sesiwn John Bell ar gyfer cynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21. “Haleliwia am Heresi” meddai’r llythrennau breision a awgrymwyd ganddo, ac roedd hynny’n swnio’n bryfoclyd o feiddgar hyd yn oed i griw rhyddfrydol C21.

 

John Bell

Ond buan iawn y daeth yn amlwg i ba gyfeiriad y byddai’n ein tywys wrth iddo fynd ati i ddiffinio’r gair ‘heresi.’ Wedi iddo ein hatgoffa o’r diffiniad clasurol mai barn sy’n mynd yn groes i gredo ganolog yr eglwys yw heresi, aeth ati i honni bod heresi, nid yn unig yn rhodd gan Dduw, ond ei fod hefyd yn rhywbeth y mae Duw’n chwarae rhan ganolog ynddo. Mae heresi’n hanfodol i’n dealltwriaeth ni o’r ffydd Gristnogol. Gan na allwn ni ddeall Duw yn llwyr, fe gyfyd adegau pan fydd dehongliad yr eglwys yn groes i natur y Creawdwr. Bryd hynny, bydd Duw yn sefyll yn erbyn uniongrededd, ac ar ochr heresi.

Gyda’r datganiad hwnnw fel sylfaen ragarweiniol i’w gyflwyniad, aeth John Bell ati yn ei sgwrs gyntaf i ymhelaethu ar sail ddiwinyddol a Beiblaidd. Yna, yn yr ail sgwrs, bu’n sôn am y modd mae ein hagwedd at heresi yn ein gyrru i ymgyrchu dros rai o’r pynciau llosg sy’n nodweddu ein byd ni heddiw.

Daeth ei enghraifft gyntaf o Dduw yn ochri gyda heresi o Lyfr Numeri, lle mae’r hanesyn am farwolaeth Seloffehad, a adawodd bump o ferched ar ei ôl. Gan nad oedd ganddo feibion, byddai ei holl gyfoeth yn mynd i’w frodyr yn ôl cyfraith Moses, a’r merched yn gorfod byw ar eu trugaredd hwy. Ond penderfynodd y merched ddadlau eu hachos gerbron Moses, a throdd yntau at Dduw am arweiniad. Ateb Duw oedd bod achos y merched yn gyfiawn, ac y dylid newid y gyfraith i ganiatáu i ferched etifeddu eiddo Seloffehad.  Mewn geiriau eraill, dyfarnodd Duw yn groes i’r farn uniongred, ac o blaid yr heresi. Ac mae’n werth nodi na ddigwyddodd newid tebyg yn hanes teulu brenhinol gwledydd Prydain am 3,000 o flynyddoedd wedyn, pan newidiwyd y gyfraith yn 2013 i ganiatáu i ferch fedru etifeddu’r goron.

Mae llyfrau’r Hen Destament yn frith o hanes y proffwydi oedd yn sefyll ar y cyrion yn hytrach nag yn y canol, yn cael eu ceryddu a’u gwawdio gan y rhai mewn awdurdod oedd yn gweld eu hunain fel ceidwaid uniongrededd. Soniodd John Bell am Eseia oedd yn mynnu achub cam y ddaear ac Eseciel oedd yn cystwyo eilunaddoliaeth. Cyfeiriodd at Amos oedd mor feirniadol o agwedd drahaus arweinwyr ei gymdeithas am eu bod yn dilorni’r tlodion ac yn derbyn cefnogaeth yr awdurdodau crefyddol i wneud eu bywydau’n annioddefol.

Tensiwn yn creu cyffro

Dros y cenedlaethau, mae’r tensiwn rhwng gwarchodwyr uniongrededd yn y canol, a’r lleisiau proffwydol ar y cyrion, wedi bod yn fodd i yrru crefydd yn ei flaen. Os bydd y canol yn rheoli pethau’n rhy dynn, bydd ffydd yn fferru neu’n ymgaledu. Ar y llaw arall, os bydd lleisiau’r cyrion yn cario’r dydd yn barhaus, gall hynny arwain at anhrefn ysbrydol. Gall y tensiwn rhwng y ddau begwn arwain at greadigrwydd cyffrous.

Aeth ymlaen i sôn am weinidogaeth yr Iesu fel enghraifft o’r cyrion yn herio’r canol  drwy gyflawni dibenion Duw. I’r Iesu, ystyr cyflawni’r ddeddf oedd arddangos bwriadau Duw mewn modd gweladwy.  Dyna a gawn ni yn ymwneud yr Iesu â’r Sabath, lle mae’n mynnu iachau pobl er mwyn eu rhyddhau o gaethiwed poen, gwahaniaethu ac esgymuno, a thrwy hynny’n adfer eu hurddas. Drwy gydol ei weinidogaeth, dangosodd yr Iesu ei fod yn ystyried unrhyw un sy’n gwneud ewyllys Duw yn aelod o’r gymuned ffydd.

Yr unig beth a wna ymlyniad ystyfnig y sefydliad canolog wrth uniongrededd cibddall yw cadw pobl o feddyliau cyffelyb mewn hualau caethiwus, a’u gorfodi i efelychu arferion sydd wedi hen golli eu grym a’u gwerth. Soniodd am sawl enghraifft o hynny, yn amrywio o wisgoedd eglwysig trymion a thrwchus ar gyfandiroedd poethion, i draddodiadau diystyr a ffurfiau estron ar wasanaethau yn cael eu gwthio ar gynulleidfaoedd mewn gwledydd tramor.

Herio uniongrededd

Yn ystod blynyddoedd y Chwil-lys yn Sbaen, a thrwy gyfnod yr apartheid yn Ne Affrica, gwelwyd carfanau o fewn yr eglwys yn defnyddio darnau digyswllt o’r Ysgrythur i gyfiawnhau gormesu cyd-ddyn. Meddai John Bell, “Roedd melltith apartheid wedi ei wreiddio mewn diwinyddiaeth ffug ymhell cyn dod yn realiti gwleidyddol.” Ac yna, ychwanegodd bod y rhai oedd mewn grym yn gyndyn iawn o gredu y gallai Duw siarad ym mywydau nac ar wefusau’r rhai oedd yn dioddef, a’r rhai hynny ar y cyrion. Yn y Gwledydd Cred Ewro-ganolog, dim ond mewn dogfennau hanesyddol y mae llais Duw i’w glywed.

Wrth gwrs, nid yw hyn i gyd yn profi bod y pŵer canolog wastad yn anghywir, ond mae’n dangos bod angen i’r weledigaeth ymylol a’r ddeinameg ryddhaol a berthyn i’r cyrion gael eu defnyddio i herio’r uniongrededd. Heddiw, mae John Bell yn gweld angen mawr i herio agwedd ac ieithwedd Oes Fictoria oedd yn gosod cymaint o bwyslais ar faddau pechodau ac yn portreadu’r Iesu fel person goddefol, tirion, llariaidd ac addfwyn. Y gwir amdani yw bod Iesu wedi arddangos pob emosiwn posib, gan gynnwys cariad, trugaredd, tymer ddrwg, dicter, a chydymdeimlad wrth iddo ymwneud â phob math o bobl, a llawer ohonyn nhw’n cael eu hystyried yn fodau amharchus. A’r hyn a welwn ni yw llwybr Teyrnas Dduw yn trechu ceyrydd crefydd uniongred.

Creu gweledigaeth amgen

Wrth droi at ei ail sgwrs, gofynnodd John Bell sut y medrwn ni, o’r cyrion, ail-gyfeirio ac ail-ffurfio’r dyfodol. Buan y daeth yn amlwg nad oes ganddo unrhyw ffydd yn y rhai sy’n troedio coridorau grym San Steffan i’n tywys i ddyfodol gwell. “Mae’n bwysig bod asiantaethau annibynnol, megis yr eglwys, yn cyfleu gweledigaeth amgen o’r cyrion,” meddai.

Elusengarwch yn hytrach nac ariangarwch yw hanfod y weledigaeth gyntaf yr hoffai ei lledaenu. Caredigrwydd ar draul trachwant. Ond er y byddai llawer iawn yn cytuno gyda hynny, nid pawb a fyddai’n barod i dalu’r pris. Dyw codi trethu ddim yn ennill pleidleisiau, ac felly mae’r meddylfryd presennol yn bwydo ein trachwant ac yn llyffethair i’n helusengarwch.

Treuliodd ychydig amser yn archwilio agwedd Iesu Grist tuag at arian a materoliaeth. Dadleuai na fu i’r Iesu felltithio cyfoeth personol erioed; y syniad o eilunaddoli Mamon oedd yn ei wylltio, ac roedd yr anghyfartaledd rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn dân ar ei groen. Felly, tybed a ddylem ni, fel y gymuned ffydd, ymgyrchu dros godiad mewn trethi i’r rhai ohonom sydd wedi arbed arian yn ystod y pandemig? O gofio y gall arian gyflawni llawer o ddaioni o’i ddefnyddio’n iawn, oni ddylem ni geisio cymell diwylliant o elusengarwch a charedigrwydd? (‘Allgaredd’ –altruism– yw’r gair a ddefnyddir gan John Bell.)

Gwelsom lywodraeth Prydain yn torri’n ôl ar y cymorth ariannol i wledydd sy’n datblygu, ac mae llawer o ddatganiadau’r llywodraeth bresennol yn arddangos arwyddion o genedlaetholdeb dinistriol. Maen nhw’n cyfeirio at Brydain fel ‘grym byd-eang’ ac yn ymfalchïo ein bod yn medru trechu pawb ar y llwyfan rhyngwladol. (“Global Britain is a world-beater”.)

Yn ôl John Bell, mae’r ddau osodiad yn croesddweud ei gilydd. Mae bod yn ‘rym byd-eang’ yn golygu bod gennym gyfrifoldeb moesol i fod yn hael ac yn garedig. Mae honni ein bod yn drech nag eraill ar y llwyfan rhyngwladol yn sawru o imperialaeth gystadleuol, afiach.

Gwarchod yr amgylchedd

Mae’r ail weledigaeth sydd ei hangen yn ddirfawr o’r cyrion yn ymwneud â’r amgylchedd. Ar un wedd, mae’n syndod mai dim ond yn ddiweddar y daeth Cristnogion i bryderu am ddyfodol y blaned ac am broblemau’r amgylchedd. Dim ond yn y 1980au y dechreuodd pobl sôn am y glaw-asid, cynhesu byd-eang, mynyddoedd ia yn dadmer a bygythiad swnami. Prin oedd yr ymdriniaethau gan ddiwinyddion amlwg ar y pynciau hyn nes inni ddod at rywun fel Dietrich Bonhoeffer. Erbyn heddiw, mae angen dimensiwn gwahanol, meddai Bell, sef dimensiwn ysbrydol. Fe ddylem ni fod yn dweud rhywbeth, nid o safbwynt gwleidyddol, ond o safbwynt ffydd, fel ein bod yn symud y ddadl ymlaen ac yn gwella ein dealltwriaeth o’r ddaear. 

Aeth ymlaen i gynnig tri pheth a allai gyflawni hynny: Yn gyntaf, roedd am ein hatgoffa bod y ddaear yn hen ffrind i Dduw, ymhell cyn i ddynoliaeth fodoli. Yn ail, mae Duw’n amlwg yn ymfalchïo mewn bydysawd llawn amrywiaeth. Yn drydydd, mae lles y ddynoliaeth yn llwyr ddibynnol ar y modd y byddwn yn trin y ddaear a osodwyd i’n gofal.

Gwersi Brwydr Roineabhal

Aeth ymlaen i fanylu am yr hyn ddigwyddodd ar Ynys Harris pan geisiodd cwmni rhyngwladol gael caniatâd cynllunio yn 1991 i dyllu chwarel anferth ar fynydd Roineabhal yn ardal Lingearabhagh. Hon fyddai’r chwarel fwyaf yn Ewrop, a’r bwriad oedd cloddio dros gyfnod o 60 mlynedd nes difodi’r mynydd yn llwyr. Cafwyd dau ymchwiliad cyhoeddus nes i’r cwmni dynnu’r cais yn ôl yn 2004. Soniodd yn benodol am ddau berson a fu’n rhoi tystiolaeth i’r Ymchwiliad. Y naill oedd Sulian Stone Eagle Herney, pennaeth llwyth y  Mi’Kmaq yng Nghanada, gŵr oedd yn awyddus i gyflwyno’i wrthwynebiad am na allai wynebu ei wyrion pe bai mynydd arall yn cael ei ddinistrio er mwyn elw, fel oedd eisoes yn digwydd yn Nova Scotia. Y llall oedd yr Athro Donald McCleod o Goleg Eglwys Rydd yr Alban, a ddadleuodd ar sail ddiwinyddol yn erbyn y datblygiad.

Mynydd Roineabha, Ynys Harris (Llun Calum-McRoberts)

Wedi blynyddoedd o frwydro, llwyddodd trigolion Harris a gwahanol fudiadau cadwriaethol i dorri crib y cwmni ac ennill eu hachos yn erbyn rhesymeg uniongred y cyfalafwyr rhyngwladol. Roedd hon yn foment o falchder i’r ffydd Gristnogol a dystiodd bod Duw a’r Beibl ar gael i’r byd i gyd, a bod y goleuni’n drech na’r tywyllwch a’r gwirionedd yn drech na chelwydd.  

Yn awr ac yn y man, mae’n werth inni arddel safbwynt a allai gael ei weld fel safiad hereticaidd yn erbyn uniongrededd. Drwy wneud hynny, mae’n bosibl ein bod yn amlygu cyflawniad y gyfraith ac yn cyd-sefyll gyda’r gwir broffwydi a’r efengyl.

Emlyn Davies

Sgws gyntaf John Bell:

 

Ail Sgwrs John Bell: