Pabell Heddwch Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Pabell Heddwch Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Fel y bydd darllenwyr AGORA’n gwybod yn siŵr, cynhaliwyd yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf ym mis Mehefin 1947 yn Llangollen. Roedd hi’n union wedi’r ail ryfel byd ac roedd gan y trefnyddion arloesol un nod syml ond uchelgeisiol: creu heddwch a harmoni.

Drwy ddod â phobl o bob cwr o’r byd at ei gilydd i gydganu, roedden nhw’n argyhoeddedig y gellid cyflawni cyfeillgarwch rhyngwladol a chyd-ddealltwriaeth. Anfonwyd gwahoddiad agored at gorau’r byd yn datgan:

 ‘Yn oes y bom atom a’r roced, sy’n anwybyddu ffiniau cenedlaethol yn eu gallu i chwalu a lladd, cred Llangollen bod heddwch yn mynnu eofndra sydd gryfed â’r hyn a welir yn nydd rhyfel.’

A daeth y cantorion.

Daethon nhw o wledydd a oedd wedi disgrifio ei gilydd fel ‘gelynion’ gwta flwyddyn neu ddwy’n gynharach; a thros y degawdau mae miloedd wedi dod o fwy na chant o wledydd i rannu llwyfan yr Eisteddfod.

A hithau’n 74 mlwydd oed eleni, mae neges sylfaenol Eisteddfod Llangollen am Heddwch a Harmoni yn ymddangos bron yn bwysicach nag erioed. Er gwaetha’r pandemig a’r cyfyngiadau teithio sydd wedi dod yn ei sgil, dyma fynd ati o’r newydd yn ysbryd Llangollen, ysbryd sy’n gwybod nad breuddwyd gwrach yw gobaith ond yn hytrach gweithred ymarferol, i wahodd pobl ledled y byd i gymryd rhan.

O ran yr elfen gelfyddydol, mae cynlluniau cyffrous i addurno Pont Llangollen a’i gweddnewid yn Bont Tangnefedd. Yna, mae Catrin Finch yn arwain criw mawr mewn perfformiad rhythmic cynhyrfus ac yn ogystal â hynny, mae corau a fyddai fel arfer yn cystadlu â’i gilydd wedi dod ynghyd i ganu premiere byd o waith corawl ‘Tangnefedd’ – y gerddoriaeth gan Paul Mealor a Mari Pritchard wrthi’n ddyfal yn trefnu’r cyfan.

Ond ar ganol y maes rhithiol mae un babell – un pafiliwn – i’w gweld: Tent Tangnefedd, ac yn honno, ar hyd yr wythnos mae rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau:

Bydd trafodaeth ar Beth yw Academi Heddwch – gyda chyfeillion o sefydliadau yn yr Aland, Gogledd pellaf Ewrop, ac yn Fflandrys.

Bydd Noson Cymru’n Cofio Sebrenica wedyn nos Fawrth – gydag Elivr Solak, gitarydd a oroesodd y gyflafan.

Traddodir Y Ddarlith Heddwch gan neb llai na Begoña Lasagabaster o’r Cenhedloedd Unedig ac yn dilyn honno, cynhelir Panel y Tangnefeddwyr a fydd yn trafod creu heddwch mewn cyflafan, gyda’r Athro Berit Blieseman de Guevara a’r Dr Jenny Mathers Prifysgol Aberystwyth a Jane Harries, Ysgolion Heddwch Cymru gyda Jill Evans, Cadeirydd CND Cymru

Ar gyfer y bobl ifanc yn benodol wedyn bydd Seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru a Chyfnewidfeydd Diwylliant.

Noson agoriadol y Babell oedd digwyddiad ar y cyd rhwng Academi Heddwch Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Pen Cymru, Pen Gwlad y Basg a’r Gyfnewidfa Lên lle’r oedd beirdd o Gymru a Gwlad y Basg yn darllen Cerddi Heddwch. Bydd recordiad o hwnnw ar gael maes o law.

Byddai Academi Heddwch Cymru yn falch dros ben o’ch cwmni chi! Mae’r cyfan yn rhad ac am ddim. Gallwch gynnau’r ZOOM a, gyda phaned neu frechdan, gallwch wrando ar drafodaethau gan gyfranwyr o Gymru a thu hwnt. Croeso cynnes i chi gyd.

<https://www.eventbrite.co.uk/o/academi-heddwch-cymru-33667861775?fbclid=IwAR0VAudDiYzatbqRi6XiGwdL3Hfdtr9MG9aHaHuQRTmEKrnS7cMX6LUmu-I>