Nid gwyddoniaeth yw Genesis, Penodau 1 a 2

 Nid gwyddoniaeth yw Genesis, Penodau 1 a 2

Mae’n anhygoel, yn fy meddwl i, fod rhai pobl yn mynnu dehongli’r ddwy stori am y Creu ar ddechrau llyfr Genesis fel adroddiad gwyddonol am ddechreuadau’r byd a bywyd ar ein planed. Mae nifer o Gristnogion hyd yn oed yn ein hoes wyddonol ni yn dewis dehongli’r Beibl yn llythrennol.

Dwi’n hoff iawn o ddarllen y penodau hyfryd hyn yn Genesis ac yn gwerthfawrogi’r neges hollbwysig sydd ynddynt. Dwi’n credu bod awduron y ddau adroddiad barddonol hyn yn ymdrechu’n ddidwyll i ddatgan yn eu hoes a’u hamser eu hunain mai Duw yw’r Alffa – yr UN a ddewisodd fod bywyd yn ei amrywiaeth rhyfeddol yn preswylio ar y ddaear.

Dwi’n methu’n lân â deall sut mae llythrenolwyr sy’n mynnu dehongli’r ddwy bennod hyn yn wyddonol yn esbonio’r gwahaniaethau dryslyd rhwng Penodau 1 a 2. Nid yw’r awdur neu’r ddau awdur yn cytuno ar drefn ddyddiol yn eu datganiad:

Genesis 1 – dywedir bod Duw wedi creu creaduriaid byw yn y dyfroedd ac adar ar y pumed dydd ond nid yw dyn yn cael ei greu tan y chweched dydd.

Genesis 2 – rhoddir blaenoriaeth i greu dyn (Adda) cyn creu’r anifeiliaid ac yna dywedir bod Duw wedi creu cymar i Adda ar ôl creu’r anifeiliaid trwy gymryd asen a chnawd o gorff Adda.

Sut yn y byd mawr y gellir dehongli hyn yn llythrennol ac yn wyddonol? Pa un sydd yn gywir?

Dryswch arall i’r llythrenolwyr y mae angen iddynt ei esbonio yw’r disgrifiad yn Genesis, Pennod 1, fod goleuni wedi ei greu ar y dydd cyntaf, ond doedd dim haul ar gael tan y pedwerydd dydd. Os yw’r llythrenolwyr yn dal i gadw at ddehongliad llythrennol a gwyddonol o Genesis, Pennod 1, sut mae esbonio beth oedd ffynhonnell y goleuni ar y dydd cyntaf gan nad oedd yr haul wedi ei greu am dridiau arall? Gwyddom mai’r haul yw tarddiad y goleuni sydd yn goleuo a gwresogi ein planed.

Ni ddylai’r llythrenolwyr barhau i gamddefnyddio barddoniaeth penodau cyntaf Genesis yn ein hoes wyddonol sy’n llawer mwy goleuedig na’r hyn oedd yn ddealladwy filoedd o flynyddoedd yn ôl, mewn oes gyn-wyddonol.

Yn bersonol, dwi’n cydnabod ac yn parchu prif neges Genesis sy’n ein cymell i gydnabod pwy orchmynnodd gychwyn y cosmos cymhleth hwn. Ni ddylem ddibrisio’r modd y mae gwyddonwyr ymroddedig (llawer ohonynt yn arddel y ffydd Gristnogol) o wahanol feysydd wedi ymchwilio’n ddyfal i gynnig dealltwriaeth lawer mwy derbyniol a rhesymegol ynghylch sut yr esblygodd bywyd o’r glec fawr filiynau o flynyddoedd yn ôl hyd ein dyddiau ni. Yr her i ni yw ceisio deall ymhellach sut daeth y byd a bywyd i fod.

Swyddogaeth gwyddoniaeth yw ceisio darganfod a dehongli sut a phryd y daeth y bydysawd i fod, tra mae Genesis yn ein cynorthwyo i sylweddoli a gwerthfawrogi pam y’n crëwyd a phwy yw’r awdur.

Ymunwn â’r Salmydd a’r gwyddonydd i ganfod gogoniant Duw yn y sêr a’r planedau: “Y mae’r nefoedd yn datgan (adrodd) gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.” (Salm 19: 1)

Gwilym Wyn Roberts

Mae Gwilym Wyn Roberts yn enedigol o Ddolgarrog, Dyffryn Conwy. Graddiodd mewn Mathemateg a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Bala–Bangor. Bu’n weinidog cyflogedig yn Gibea, Brynaman, a Bethania, Rhosaman, am saith mlynedd. Bu hefyd yn athro Mathemateg yn ysgolion cyfun Ystalyfera, Llanhari, Rhydfelen ac yn Bennaeth yr Adran Fathemateg yn Ysgol Gyfun Cymer, Rhondda, am 20 mlynedd. Mae’n dad i ddau o fechgyn ac yn aelod yng Nghapel Minny Street, Caerdydd, ac yn arwain gwasanaethau mewn capeli eraill yn ôl y galw. Mae’n hoff iawn o bêl-droed ac yn cefnogi Abertawe, Caerdydd a Wrecsam. Ei faes ymchwil ers ymddeol yw’r berthynas rhwng Gwyddoniaeth a Christnogaeth.