Myfyrdod ar y Deyrnas

Myfyrdod ar y Deyrnas gan Geraint Rees

Mae cysyniad y ‘Deyrnas’ yn allweddol i’n dealltwriaeth o genadwri Iesu Grist. Trwy’r Gwynfydau, rhoddwyd blas i ni o werthoedd a blaenoriaethau’r Deyrnas, a honno’n Deyrnas yr ‘yma a nawr’. Dros y milenia fe gafodd cynifer o ddilynwyr Crist flas arbennig ar osod y Deyrnas honno mewn bywyd tu hwnt i’r bedd. Ar yr un pryd, gyda thwf a marwolaeth ymerodraethau gwleidyddol, fe ddatblygodd rhai ohonyn nhw ddimensiwn oedd yn honni i raddau eu bod yn fynegiant gwleidyddol o deyrnas Iesu Grist, fel y gwelir yn hanes concro De America gan y Sbaenwyr, yr Ymerodraeth Brydeinig yn ei hanterth, neu hyd yn oed feddylfryd America yn y ganrif hon.  

Ar lefel arall, mae’n ddiddorol clywed pobl yn holi: ‘Sut y gallwn ni gael pobl i ddod i’r capel?’ Wrth edrych ar genadwri Crist, onid prif nod eglwys yw ehangu’r Deyrnas … i bobl fyw o’i mewn, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n llwyr ymwybodol ohoni na’i henw?  

************

Wrth ddilyn Iesu y chwyldroadwr, fe ddown o hyd iddo mewn teyrnas yn rhywle, a’r Deyrnas honno yn llawn lliw, sawr a sain hanfod ei ddwyfoldeb, a’n dwyfoldeb ninnau.

Dyma’r Deyrnas sy’n gosod anghenion pobl eraill o flaen ein hanghenion ni ein hunain, ond pan wireddir y Deyrnas honno, bydd eraill wedi mwy na gofalu am ein hangenion ninnau … ac wedi ein hanwesu mewn cariad.

Dyma’r Deyrnas sydd heb rymoedd nag ysfa i dra-arglwyddiaethu dros eraill, ond sydd yn cael ei gyrru gan rym gofalu dros eraill, eu gwasanaethu a’u caru’n ddiamod.

Dyma’r Deyrnas lle na fydd casglu trysorau a statws o ddim lles i neb, a lle y bydd balchder a chenfigen yn niwsans go fawr wrth geisio dilyn y llwybr i’r Deyrnas.

Dyma’r Deyrnas sy’n rhoi diogelwch i ni i gyd, a’n nod yw tynnu pobl i fod yn ddinasyddion ohoni er mwyn eu diogelwch hwythau a’n diogelwch ninnau.

Dyma’r Deyrnas sydd heb ffiniau amlwg iddi, ond fe wyddom yn iawn pan fyddwn o’i mewn a theimlo’r oerni pan fyddwn yn cwympo’r tu allan iddi. O’i mewn mae gofal, cynhesrwydd a chynhaliaeth. Tu allan iddi mae’r ci wedi bwyta’r ci.

Dyma’r Deyrnas sydd heb sasiwn, cwrdd chwarter nac esgobaeth, ac sydd heb glywed am gyllideb nac amlenni brown.

Dyma’r Deyrnas sydd yn rhoi gwerth ar bawb, ac sy’n addo bod mwy i ddod nag a fu.

Dyma’r Deyrnas sydd yn addo iachawdwriaeth i’r dorf ac i gymdeithas gyfan tu hwnt i’r hunan, ac iachawdwriaeth i bopeth o’n cwmpas. Dyma’r Deyrnas sydd yn diogelu awyr iach, dŵr glân, bioamrywiaeth, cyfiawnder i bawb a gobaith am ddyfodol sy’n seiliedig ar gariad.

Dyma’r Deyrnas y soniodd Crist amdani, a ddatguddiwyd yn rhannol ganddo, y Deyrnas sydd yn ein calonogi … ond heb ddyfod eto. Deled y Deyrnas honno. Amen.