Gwaddol Caethwasiaeth

Gwaddol Caethwasiaeth

Nid un hanes yw hanes y Fasnach Caethion Trawsiwerydd (The Transatlantic Slave Trade). Mae’n wead cymhleth o straeon a hanesion sy’n creu un darlun brawychus o’r uffern y mae dynoliaeth yn gallu ei greu. Parhaodd y fasnach o 1440 hyd 1888; cipiwyd rhwng 10 a 12 miliwn o blant, gwragedd a dynion o Affrica i weithio fel caethion yn y gorllewin. Dyma un stori, wedi ei chofnodi yn fanwl gan Thomas Phillips, Aberhonddu:

Jeff Williams Darpar-Lywydd Undeb yr Annibynwyr

Ym mis Medi 1693 hwyliodd y llong Hannibal allan o Gravesend, ar yr afon Tafwys, a throi tua gorllewin Affrica. Ei chapten oedd Thomas Philips, o Aberhonddu. Prynwyd y llong ac ariannwyd y fordaith yn bennaf gan Jeffrey Jeffreys, brodor o Llywel, Sir Frycheiniog.

Roedd Jeffreys wedi ei sefydlu ei hun yn Llundain yn fasnachwr dylanwadol ac eithriadol o gyfoethog ac yn un o gyfarwyddwyr y Royal African Company. Roedd y llong wedi ei llogi gan y cwmni ar gyfer ‘a trading voyage to Guiney, for elephants teeth, gold and Negro slaves,’.

 

Roedd cargo’r llong yn cynnwys yr hyn oedd ei angen i brynu caethion –  barrau haearn a “Welsh plains” (gwlân o Gymru a ddefnyddiwyd i wisgo caethion). Ar yr 21 o Fai 1694, deg mis wedi gadael Lloegr, cyrhaeddodd yr Hannibal y Gold Coast, Ghana heddiw, a dechreuodd Thomas Phillips brynu caethion. Cymerodd dros ddau fis i brynu 702 o bobl, llosgi nod prif lythyren y llong ar eu cyrff a’u llwytho i grombil y llong. Cymerodd fis arall i lwytho bwyd, dŵr yfed a phopeth arall oedd ei angen ar gyfer y daith ar draws yr Iwerydd. Ar y 25 o Awst trodd y llong tua’r gorllewin a dechrau’r daith hunllefus i ynys Barbados.

Erbyn cyrraedd Barbados roedd 320 o’r caethion wedi marw o ganlyniad i heintiau, camdriniaeth ac amodau creulon eu caethiwed. Roedd y dyn o Aberhonddu wedi bod yn gyfrifol am un o’r troseddau gwaethaf yn hanes cywilyddus y fasnach caethion. Wrth gwrs, yr hyn oedd yn bwysig i’r Royal African Company oedd bod gwerth y rhai a fu farw yn cynrychioli colled o £6,650. Hon oedd mordaith olaf Thomas Phillips, enciliodd i Aberhonddu i fyw ‘the rest of my life as easily as I can, under my hard misfortune’. Bu farw ym 1713, ugain mlynedd wedi i’r Hannibal hwylio i Affrica.

Yn 2010 gosodwyd cofeb i Thomas Phillips yn Aberhonddu. Nid yw’r gofeb yn sôn dim am ei gysylltiad â’r fasnach caethion. Pam codi cofeb iddo bron i 300 mlynedd wedi ei farw? Yn syml, am fod rhywrai’n meddwl amdano fel un o arwyr y dre. Tynnwyd y plac lawr gan berson anhysbys ryw noson yn 2020.

Mae’r gorffennol yn taflu cysgodion dros ein presennol. Am nad oes neb yn fyw heddiw wedi bod yn rhan o’r fasnach caethion trawsiwerydd nac wedi dioddef yn uniongyrchol o ‘chattel slavery’ mynna rhai nad yw ei ddylanwad i’w weld ar ein cymdeithas heddiw. I’r gwrthwyneb! Chwyddwyd cyfoeth gwledydd Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn bennaf, trwy fasnach a’r chwyldro diwydiannol ac roedd y fasnach caethion yn hanfodol bwysig yn y twf hwnnw. Gwnaeth pob rhan o Gymru a phob un o’i diwydiannau elwa yn sgil caethwasiaeth. Crëwyd athrawiaethau a diwinyddiaeth hiliol i gyfiawnhau gwneud pobl Affrica yn gaethion; ac wrth hynny blannu gwreiddiau’r hiliaeth a’r syniad o oruchafiaeth y dyn gwyn, sy’n gwenwyno’n byd ni hyd heddiw.

Daeth masnach caethion yr Iwerydd i ben ym 1807. Gwnaed caethwasiaeth yn anghyfreithlon ym1833. Talwyd iawndal hael i berchnogion caethweision; er enghraifft cafodd George Hay Dawkins-Pennant, etifedd ystâd y Penrhyn, £13,870 am ei 764 caethwas (gwerth £11.1 miliwn heddiw). Ni chafodd y caethion yr un ddimau goch.

Sut ydym ni Gristnogion i fod i ymateb i’r cyfnod hwn yn ein hanes? Ein hanes? Ie. Rydyn ni’n barod i ymfalchïo bod Cristnogion ac eglwysi wedi bod â rhan allweddol yn yr ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth. A ydym yr un mor barod i gydnabod rôl Cristnogion fel masnachwyr eneidiau byw, a pherchnogion planhigfeydd lle gwnaed elw mawr a lle lladdwyd caethion drwy orweithio?

A ydym yn barod i wynebu gwaddol caethwasiaeth? A ydy gwahaniaethu ar sail lliw, hiliaeth, anghyfartaledd economaidd a grym, yr ymdeimlad o hawl cynhenid sydd gan un dosbarth dros y llall, a chymaint mwy, yn galw am edifeirwch gennym ni? Daeth Iesu er mwyn i bawb cael bywyd yn ei lawnder; beth felly sy’n rhaid i ni Gristnogion, eglwysi ac enwadau ei wneud?

Jeff Williams


Mae modd darllen rhagor yn y ffynonellau canlynol:

Hanes caethwasiaeth: https://www.britannica.com/topic/transatlantic-slave-trade

Llyfr Chris Evans, Slave Wales – The Welsh and Atlantic Slavery 1660-1850; University of Wales Press 2010; td 14 – 30

Hanes y Royal African Company: https://www.bl.uk/collection-items/charter-granted-to-the-company-of-royal-adventurers-of-england-relating-to-trade-in-africa-1663#

“This charter, issued by King Charles II (1630–1685) in 1663, represents the moment at which the transatlantic slave trade officially began, with royal approval, in the English (later British) Empire.”

Adroddiad am symud y plac: https://www.brecon-radnor.co.uk/article.cfm?id=112444&headline=Controversial%20plaque%20commemorating%20Brecon%27s%20links%20to%20slave%20trader%20is%20removed%20ahead%20of%20review&sectionIs=news&searchyear=2020