Y Chwyldroadwr

Y Chwyldroadwr

The Revolutionary: Who was Jesus? Why does he still matter? (Gol. Tom Holland)

Yn 2020 tynnwyd ein sylw gan C21 at lyfr o bwys gan Tom Holland, sef Dominion: The Making of the Western Mind. Roedd honno’n gyfrol o ymchwil treiddgar yn crisialu panorama diwylliannol oedd yn dangos sut y bu i’r traddodiad Cristnogol wareiddio byd o greulondeb, a sut y dyrchafwyd bodau dynol a sefydlu urddas a hawliau dynol o ganlyniad i ddysgeidiaeth yr eglwys. Yn 2021 mae Tom Holland wedi mynd gam ymhellach wrth edrych ar berson Iesu Grist a’i ddylanwad. Ei honiad yw ein bod ni, 2020 o flynyddoedd wedi genedigaeth Crist, yn para i fod yn blant y chwyldro Cristnogol, a hwnnw yw’r chwyldro mwyaf trawsnewidiol, hirhoedlog a dylanwadol yn hanes y ddynoliaeth. Mae hyn yn ddweud mawr gan awdur sydd ddim yn galw ei hunan yn Gristion.

Naw traethawd cymharol gryno yw’r gyfrol – gan awduron sy’n amrywio o’r athronydd poblogaidd Julian Baggini, y darlledwr a’r nofelydd A N Wilson, ambell ddiwinydd fel Robin Gill a Rowan Williams a’r athro Mwslemaidd Tarif Khalidi. Mae pob un yn taclo Iesu Grist o’u persbectif ei hunan ac yn ceisio rhoi mewnwelediad deallus o gyfraniad unigryw ac allweddol Iesu Grist i fywyd.

Yr hyn mae pob un yn ceisio’i ateb yw: “Beth oedd yn chwyldroadol am Iesu?” Ceir atebion o onglau amrywiol iawn – sut y bu i Iesu newid ffyrdd o feddwl, sut y bu iddo chwyldroi gwleidyddiaeth, sut y bu iddo newid gêm bywyd.

Awgryma Julian Baggini mai’r hyn sy’n gwneud Iesu yn arbennig yw natur agored ei genadwri – yr hyn mae’n ei alw’n ei ‘genius of ambiguity’. Awgryma mai cyfrinach Cristnogaeth yw ei bod wedi llwyddo i fod yn ystyrlon i bob oes a phob diwylliant. Yno mae her arbennig i blant y ffydd yng Nghymru heddiw.

Cyfraniad annisgwyl i rai fyddai un gan yr arbenigwr Islamaidd Tarif Khalidi. Aiff e ar drywydd Iesu trwy lygaid ei deulu ffydd yntau. Mae’n cyfeirio at feirdd Moslemaidd diweddar sydd, yn eu dadansoddiad o’r cyflwr dynol, ar faterion o anghyfiawnder a dioddefaint, yn tynnu ar symboliaeth Gristnogol mewn themâu fel yr ymgnawdoliad, marwolaeth ac atgyfodiad. Mae awgrym yn ei waith fod Khalidi yn obeithiol am well deialog rhwng y ddau deulu ffydd mawr os gallwn ni barhau i ddwyn ein hysbrydoliaeth o’r un ffynhonnau.

Yn y bennod sy’n cloi’r llyfr, mae Rowan Williams yn cyflwyno Iesu fel sefydlydd diwinyddiaeth Gristnogol. Yn dreiddgar iawn mae’r cyn-Archesgob yn crisialu cyfraniad sylweddol Iesu fel un sy’n rhoi hunaniaeth (identity) i’w ddilynwyr. Mae’n rhoi hunaniaeth i’r gymuned Gristnogol gyfan sy’n un drawsnewidiol, a honno’n hunaniaeth sy’n agored a chroesawgar. Aiff ymlaen i awgrymu fod perthyn i’r gymuned honno yn rhoi ystyr i fywyd dynol drwy ei ffocws ar y di-rym a’r gorthrymedig. Yng nghanol holl wleidyddiaeth yr eglwys Gristnogol yn y ganrif hon, mae’n anochel fod rhywun yn cael ei brocio i ofyn jyst pa mor agored ein gwahoddiad ydym ni, ac i ba raddau ry’n ni’n ffyddlon i’r di-rym a’r gorthrymedig.  

Braf gweld ysgolheigion o bob math o draddodiad yn rhoi eu harfarniad personol o gymeriad y mae pob un ohonyn nhw’n cytuno yw’r dylanwad mwyaf ar y byd gorllewinol, ac yn un i’w gymryd o ddifri yn yr 21ain ganrif. Cyfrol ddarllenadwy ac un o bwys.