E-fwletin 4 Gorffennaf, 2021

Croesffordd.

Mae Cristnogaeth yng Nghymru naill ai mewn argyfwng neu ar groesffordd. Bydd pawb sy’n gyfarwydd â hanes ein haddoldai ers blwyddyn a mwy yn gwybod fod tynged y gynulleidfa leol yn y fantol. Dros yr ugain mlynedd diwethaf roeddem eisoes wedi gweld yr addolwyr yn prinhau gyda phob angladd. Y ffyddloniaid yn marw, heb ganol oed na phlant i gymryd eu lle. Ond gyda gwaharddiadau’r Pandemig gwelsom y dirywiad yn prysuro’n echrydus o sydyn. Ymddangosai fel petai rhai o arweinwyr yr eglwysi lleol wedi gwangalonni, gyda rhai ohonynt yn amau a allant ailagor.

Y cwestiwn gan rai yw sut allwn ni ailfywhau yr eglwysi. Yr ateb syml a gynigiwn ni yw fod yn rhaid denu’r tyrfaoedd yn ôl. Ac yn wir cawsom yr argraff fod gwyddoniaeth fodern wedi ateb yr angen hwnnw. Mae Zoom mewn ambell le wedi cynyddu’r gynulleidfa yn sylweddol, er mai cynulleidfa rithiol yw hi.  Arbrofwyd hefyd gydag Ysgol Sul ar Zoom gan ddenu nifer dda o blant mewn ambell fro. Ond ofnaf mai cyfyngedig a lleol yw’r llwyddiannau hyn. A beth bynnag, nid diffyg niferoedd yw’r gwaeledd angheuol sy’n bygwth Cristnogaeth yng Nghymru.

 O ganlyniad i lwyddiant arwynebol yr Ysgol Sul ers cenhedlaeth neu ddwy, fe fagwyd to newydd yng Nghymru a gredai mai lle’r oedolion hŷn yw’r oedfa, a lle’r plant yw’r Ysgol Sul. A’r plant wedyn yn methu neidio dros y bwlch o Ysgol Sul i addoli mewn oedfa. Rwyf i a’m cenhedlaeth wedi methu magu addolwyr.

Sut allwn ni wneud hynny? Carwn i ein gweld yn dod yn ôl at y gynulleidfa fach deuluol, lle na byddai mwy na rhyw ddeg o deuluoedd yn cydaddoli, yn datcu a mamgu a mam a thad a phlant yn y capel lleol. Neu os mynnir, fe allant fod ar Zoom ac o flaen cyfrifiadur, yn weladwy i aelwydydd tebyg o fewn i’r un fro, gyda’r ieuenctid yn eu harddegau yn gofalu am ddarparu’r dechnoleg! Anghofiwn yr ysfa i bedlera am dorfeydd. Gallaf ddychmygu rhai o’r disgyblion ar y mynydd (yn Mathew 5.1) yn achwyn wrth Iesu am iddo ffoi oddi wrth y dyrfa a cholli cyfle gwych i annerch y miloedd. Ond pregeth i’r cwmni bach o ddeuddeg oedd y bregeth fawr ar y mynydd. Yn wir efallai y gall offerynnau megis Teams neu Zoom fod yn fodd effeithiol inni eto fagu aelwydydd o Gristnogion yng Nghymru.