E-fwletin 27 Mehefin, 2021

Grym y dudalen flaen

Mae’n codi ofn arna’ i, gymaint y mae’r cyfryngau yn cael effaith ar ein bywydau o ddydd i ddydd ac ar y byd a’r bobl o’n cwmpas. O ddihuno’r bore yma i weld y llun ar flaen y papur newydd ”heulog”, o wleidydd blaenllaw mewn coflaid gyda’i gydweithiwr i bob pennawd newyddion radio a theledu’n dilyn y “diweddaraf” heddiw, dwi wir wedi blino ar y cyfan. Fedra’i ond teimlo’n flin dros y rhai sydd wedi galluogi’r llun i fodoli yn y lle cyntaf – o’r un a welodd y weithred ar y camera a benderfynodd y byddai’n abwyd handi i’w ddefnyddio rhywbryd, i’r un a werthodd y llun i’r papur newydd, i’r ddau a oedd yn rhan o’r weithred yn y lle cyntaf. Ond gwyddwn hefyd fod gymaint mwy yn rhan o’r ffwlbri hwn! A fi yn eu mysg siŵr o fod wedi edrych ar y llun ar fy ffrwd newyddion y bore yma ac yn siarad am yr holl beth yma nawr! Mae’n ddiddiwedd. Does dim ffoi o’r holl beth!

Yr hyn sy’n anodd yw gwybod y bydd nifer o bobl ddiniwed yn siŵr o ddioddef oherwydd hyn, oherwydd gweithredoedd eraill, oherwydd yr awydd i ddial, oherwydd yr awydd trachwantus, oherwydd yr awydd i blesio eraill a’u hunain, oherwydd gwendid – ac nid y rhai amlwg bob tro chwaith. A dyna’r broblem. Yn ein gwendid, nid oes modd i ni wybod yn iawn yr effaith llawn y mae ein gweithredoedd yn eu cael ar eraill, y “ripple effect”, y crychdonnau, tan fod camera yn ein dal. Neu oes e’?

Ydy, mae drama yn perthyn i fywydau y rhan fwyaf ohonom –  i rai yn fwy na’i gilydd. Dwi’n mwynhau gwylio drama ac yn cael fy swyno’n aml gan ddrama – ar lwyfan neu sgrin. Mae fy ngŵr ar y llaw arall yn methu gwylio unrhyw “ddrama” pobl eraill ar y teledu mwyach. Does ganddo ddim diddordeb ac a dweud y gwir, y mae’n gwneud iddo deimlo’n bryderus ac yn sâl hyd yn oed. Mae e’n gall ac mae’n gallu tynnu ei hun yn ôl a sicrhau bod y ddwy droed yn ddiogel ar y ddaear neu mae’n gwybod y bydd yn cael ei sugno i drobwll gwenwynig, sydd yn ei dro yn ei wneud iddo deimlo’n hollol annifyr.

 

Chi’n cofio Duw yn cosbi Jwda? “Oes rhywun yn deall y galon ddynol? Mae’n fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni.” Jer 17:9. Beth sydd wedi newid? Pa obaith sydd i ni?

Ond, ar y llaw arall, mae’r cyfryngau wedi bod yn llawn ysgolion Cymru’n morio canu ein hanthem wych Hen Wlad fy nhadau i godi’r ysbryd cyn gêm Cymru yn erbyn Denmarc neithiwr. Llond caeau a buarthau ysgolion o blant mewn coch yn canu gyda baneri’r ddraig yn cyhwfan yn y gwynt a hyd yn oed Bronwen Lewis ar Good Morning Britain yn serennu gyda’i llais melfedaidd buddugoliaethus! Grym y cyfryngau yn gwneud daioni, yn codi calon ac yn ysbrydoli – ydy, mae’n beth prin, ond gadewch i ni wneud yn fawr ohono ac annog mwy o erthyglau ac eitemau fel hyn!

Chi’n gweld, p’un a ydych chi’n hoff o ddrama neu beidio, mae gyda ni fel Cristnogion swyddogaeth bwysig ar y cyfryngau. Nid pawb sy’n mwynhau’r ffyrdd hyn o gyfathrebu ac y mae hynny’n iawn wrth gwrs. Ond, mae angen i ni sy’n barod i wneud, annog ein gilydd wrth i ni gyfrannu ar y cyfryngau. Mae’n bwysig ein bod yn ymateb yn gadarnhaol ac adeiladol i bethau sydd yn ein corddi a lle y gwelwn annhegwch ac anghyfiawnder, ymatebwn mewn ffordd sydd yn dangos cariad a gobaith Crist.  Beth am i ni orlifo’r tudalennau digidol rhithwir gyda theimladau o gariad a dathlu gyda’r rhai sydd yn cyfrannu at wneud y byd yma’n fyd gwell?