E-fwletin 20 Mehefin 2021

CHWILIO AM WEINIDOG

Mae pedair eglwys yn yr Ofalaeth y mae ein capel ni yn rhan ohoni, ac ym mis Hydref eleni, bydd ein gweinidog yn ymddeol. Mae brys felly i benderfynu ar y ffordd ymlaen, a thipyn o drafod ar ba ffurf y gall y weinidogaeth gymryd. Mae tipyn o anniddigrwydd am fod yr Henaduriaeth yn gwneud datganiadau pwysig, ond ddim yn cynnig unrhyw arweiniad clir. Chware teg iddynt hwythau, does neb mewn gwirionedd yn gwybod lle i droi, a dyw hi ddim yn debygol y gallwn ddod o hyd i weinidog yn unman beth bynnag.

Mae capeli Llanrug a Bethel yn hen adeiladau digon urddasol, ond heb eu moderneiddio. Mae capel bach Caeathro wedi ei weddnewid (diolch i gymorth gan yr Hen Gorff a’r Cyngor Sir) yn gapel a chanolfan gymunedol, ac y mae cynulleidfa fach Brynrefail yn cyfarfod mewn stafell hwylus yn adeilad braf Y Caban, ond mae amheuaeth bellach am y dyfodol. Mae Llanrug (pentre Cymreicia Cymru yn ôl y cyfrifiad) a Bethel yn ddau bentre a welodd adeiladu llawer o dai ers y 70au gan eu bod wedi eu nodi yn ‘bentrefi twf’ gan y Cyngor Sir; ni chafodd hynny fawr o effaith ar eu Cymreictod ieithyddol, ond ni chyfrannodd at dwf aelodaeth y capeli chwaith, ond mi gafodd effaith drwy ddenu teuluoedd o bentrefi llai fel Brynrefail a Chaeathro.

Mae ymddeoliad y gweinidog wedi arwain at drafodaeth ddiddorol ynglŷn â natur a ffyniant y capeli hyn i’r dyfodol, ac y mae rhywun yn dechrau gweld llygedyn o obaith y cawn ein gorfodi gan yr amgylchiadau i feddwl o ddifri am ffurf a phatrwm ein hoedfaon. Un cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn amlach yw “oes angen pregethwyr?”, ac oni fyddai’n well inni drefnu ac arwain oedfaon ein hunain?

Gwell byth, mae awgrym yn dod o gyfeiriad rhai sy’n gweithio i’r Henaduriaeth, y gellid cyflogi gweithwyr i hybu’r math yma o ddatblygiad, ac i annog ac hyfforddi aelodau i arwain a threfnu oedfa ac addoliad. Ac ym Mhenygroes gerllaw, mae Karen Owen yn frwd dros greu math newydd o weinidogaeth ardal, gan gyfuno cynulleidfaoedd Soar yr Annibynwyr a Chapel y Groes yr Hen Gorff. Ac er fod yna beth rhygnu dannedd wedi bod o du’r Henaduriaeth, does neb wedi ymddiswyddo mewn protest hyd y gwn i.

At hyn dwi’n dod: mae’r argyfwng sydd ar ein gwarthaf yn mynd i wneud un o ddau beth. Naill ai achosi ergyd farwol i’r hyn sy’n weddill o’n capeli anghydffurfiol, neu’n gorfodi ni i weld ein capeli – a’n Cristnogaeth -mewn golau newydd, a’n gorfodi i ffurf ar wasanaethau mwy creadigol, mwy perthnasol a mwy atyniadol. Dyw Iesu Grist ddim am inni aros yn ein hunfan a chwyno a gweld bai – mae’n disgwyl inni gydio yn yr awenau a bwrw iddi gydag asbri a hwyl, a throi’r dechnoleg newydd a phob dyfais arall i’n helpu i ledaenu gair Duw drwy ein cymdeithas, a gwneud Cristnogaeth yn rym go iawn yn ein gwlad.