Agora 19 mis Rhagfyr 2017

 

Agora rhif 19 mis Rhagfyr 2017

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Byw ar bum cyfandir: Pryderi Llwyd Jones yn holi Ann Griffith

Agweddau Benywaidd ar Dduw      Enid Morgan

Eglwys sy’n dod i’r wyneb: crynodeb o sylwadau Richard Rohr gan Enid Morgan

500 mlwyddiant ecwmeniaeth –achos dathlu eto?   gan Gethin Rhys

Dyma’r Goleuni         Enid Morgan

  • Dyma’r Goleuni

    Dyma’r Goleuni

    Enid R. Morgan

    Rhyw bythefnos yn ôl roeddwn i ar y trên yn dychwelyd o’r Amwythig i Aberystwyth ac yn ffarwelio â ffrind oedd ar ei ffordd i Landudno. Wrth i’w thrên ymadael gwelais yn sefyll gerllaw i mi berson mewn gwisg Fwdwaidd – lliain gwinau, mwy llaes na chasog Anglican, yn cuddio’n ddiau drwch o ddillad cynnes! Gyda’r pen moel, doeddwn i ddim yn berffaith siŵr ai gwryw ynteu benyw ydoedd, ond llais tyner gwraig ofynnodd i mi, mewn acen ...

    Rhagor
  • Eglwys sy’n dod i’r wyneb

    “Eglwys sy’n dod i’r wyneb” – diwygiad o fath newydd

    ‘Emerging Church’ – sylwadau Richard Rohr

     Yng nghanol y digalondid am gyflwr y capeli a’r eglwysi yng Nghymru daw ambell si am bobl yn sôn yma a thraw, fan hyn a fan’co, am yr hiraeth am fath newydd o eglwys. Nid hiraeth am ‘ddiwygiad arall’, tebyg i’r hen rai yng ngwlad y diwygiadau, ond ffrwyth math newydd o ddiwygiad sy’n dod wrth i bobl arbrofi a dod ynghyd i rannu profiad. Yn America hawliwyd bod yr aden dde ‘Efengylaidd’ (am hyfdra – meddiannu’r gair hwnnw!) wedi lladd Cristnogaeth. Ond, i’r gwrthwyneb, ...

    Rhagor
  • Holi Ann Griffith

    Byw ar bum cyfandir

    Mae llais Ann Griffith i’w glywed yn aml ar Radio Cymru yn trafod materion Amercanaidd, neu, ac yn fwy cywir efallai, yn trafod materion byd-eang o America ond trwy lygaid ffydd merch o Aberystwyth. Mae’n ferch i’r diweddar Barchedig Huw a Mair Wynne Griffith ac yn chwaer i Nia a Gwawr. Mae’r llun (isod) ynddo’i hun yn dweud llawer amdani. Bu’n sgwrsio gyda Pryderi.

     Pryderi Ar ôl byw mewn sawl gwlad (fe ddown yn ôl at hynny eto) yr ydych erbyn hyn wedi bod yn America ers rhai blynyddoedd. Gyda pha gymuned/eglwys yr ydych yn teimlo’n gartrefol erbyn hyn? ...

    Rhagor
  • 500 mlwyddiant ecwmeniaeth

    500 mlwyddiant ecwmeniaeth –achos dathlu eto?

    Gethin Rhys

    Ar 31 Hydref 2017 fe gofiwyd 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd. Ar y cyfan, mae’r peth yn cael ei gofio fel rhwyg yn yr eglwys – rhwyg angenrheidiol yn nhyb rhai, ac achos gofid a gwae i eraill. Yn ei ddarlith wych ‘Catholigrwydd Protestaniaeth’ y prynhawn hwnnw yng Nghaerdydd, fe’n hatgoffwyd gan yr Athro Densil Morgan fod ymdrechion at gymodi a phontio wedi dechrau bron ar unwaith ar ôl i Martin Luther hoelio’i 95 o sylwadau ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg (neu, yn llai rhamantaidd, eu postio at yr esgob!). Yn Ebrill 1518 fe gafwyd ...

    Rhagor
  • Agweddau Benywaidd ar Dduw

    Salmau Cân a Salmau Merched

    Enid Morgan

    Rwy’n cael yr argraff nad ydi’r salmau ddim yn cael eu defnyddio llawer yn y traddodiad ymneilltuol ers blynyddoedd. Detholiad o salmau yn unig a geir yn y llyfrau emynau ac mae dysgu llafarganu’n golygu rhyw fesur o ymdrech, nid yn unig i ddysgu ond i oresgyn rhagfarn gwrth-eglwysig! Dônt i’r wyneb o dro i dro fel darlleniadau ysgrythurol gan y gweinidog, ond nid fel caneuon i’r gynulleidfa foli, gwyno neu alarnadu trwyddynt. Mae’r eglwysi’n dal i ddefnyddio’r salmau, ond mae llafarganu wedi gwanychu. O ganlyniad, darllen y salmau a wneir gan y gynulleidfa – er bod ...

    Rhagor