Agora 10 (mis Chwefror)

Cynnwys Agora mis Chwefror

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Cynnwys rhifyn mis Chwefror

  1. Golygyddol                                   Enid R. Morgan
  2. Newyddion
  3. Cloddio                                          Pryderi Llwyd Jones yn holi Guto Dafydd
  4. Gweddïau
  5. Codi ‘nghalon                               Allan Pickard
  6. Arwyddbyst                                  Judith Morris
  7. Gwlad ddi-Dduw?                       Gethin Rhys
  8. Y Pedwerydd Cam (Rhan Dau) Wynford Ellis Owen
  9. Iaith a Metaffor                             Richard Rohr
  10. Embaras, dyna beth yw e!           Enid R. Morgan
  11. Llinach Drygioni                          Brian McClaren

 

  • Golygyddol

    Golygyddol

    Un o’r suffragettes ddywedodd ym 1928, “Mae byw i weld achos anobeithiol yn ennill y dydd yn un o bleserau mwya bywyd.” Mae’n siŵr y bydd caredigion Cristnogaeth21 yn barod i gydymdeimlo ag awydd y golygydd i lawenhau yng nghysegru gwraig i fod yn Esgob Tyddewi. (Derbynnir na fydd llawer o lawenydd ym mharhad y drefn esgobol!)

    Ym 1923 (ychydig llai na chan mlynedd yn ôl) y cyhoeddwyd llyfr Maude Royden, The Church and Woman. Mae’r gyfrol yn dweud y pethau sylfaenol i gyd ac yn ...

    Rhagor
  • Gweddïau

    Gweddïau machlud 2

    Ffynnon bywyd, yr un sy’n ein magu, ein cyfarwyddwr, ein craig, trysorfa bendithion, Diolchwn i Ti am ddod yn agos atom, nid fel dirgelwch annirnad, ond fel cnawd brau.

    Credwn iti roi i ni hiraeth a gweledigaeth am weld dy deyrnas yn ein plith.

    Dyro inni heddiw feddyliau sy’n glir a phwrpasol, calonnau wedi eu llawenhau wrth feddwl am beth y gallwn ei wneud ...

    Rhagor
  • Codi ‘nghalon

    Gofynnodd y Golygydd i bobl amlinellu beth fyddai’n codi eu calonnau yn ystod 2017. Dyma sylwadau Allan Pickard, Trysorydd Cristnogaeth 21..

    Codi ‘nghalon

    Un peth fyddai’n codi fy nghalon yn 2017 fyddai gweld pawb yn dod i gredu popeth dwi’n ei gredu. Pe bai hynny’n digwydd, fyddai dim cecru ac anghydweld, ac mae llawer gormod o hynny ymhlith y rhai sy’n dweud mai dilynwyr Iesu ydyn nhw. Roedd hi’n braf cael yr ysgrif wythnosol gan C21 yn 2016, ond doedd popeth ddarllenais i ddim wrth fy ...

    Rhagor
  • Cymru – Gwlad ddi-Dduw?

    Cymru – Gwlad ddi-Dduw?

    Dyna deitl sesiwn dan nawdd Gorwel ar 28 Mawrth yn y Senedd (manylion yma: http://www.gorwel.co/wordpress/?page_id=79) pan fyddaf i a Kathy Riddick o Ddyneiddwyr Cymru yn trafod y pwnc.

    gorwel_banner_02

    Nid trafodaeth am fodolaeth Duw fydd hon, ond trafodaeth am sut mae pobl Cymru bellach yn ymwneud â Duw – neu’n gwrthod ...

    Rhagor
  • Iaith a Metaffor

    Iaith a Metaffor

    Seiliedig ar waith Richard Rohr

    Pan fyddwn ni’n siarad am Dduw mae’n rhaid dibynnu o reidrwydd ar symbol a delwedd. O ran hynny mae unrhyw air am unrhyw beth yn symbol. Nid y peth ei hun yw’r gair a ddefnyddiwn amdano – boed bysgodyn, neu goeden, neu aderyn neu galon. Dyna paham yr oedd yr athronydd yn mynnu na allwn ddweud dim am rhywbeth nad ydyn ni’n gwybod dim amdano! At beth felly y mae’r geiriau Duw/Dieu/Gott/God/deus a theos yn cyfeirio?

    Roedd cryn ddoethineb yn ...

    Rhagor
  • Llinach Drygioni

    Llinach Drygioni
    Brian McClaren

    Mae llinach drygioni … yn estyn o Gystennin i’r Pab Nicholas V i Columbus, hyd at wleidyddiaeth gyfoes America ac Ewrop: traddodiad o ragorfraint llwyth a chrefydd a grym – yn enwedig rhagorfraint y gwynion a goruchafiaeth y Cristnogion … Rhyw ddeugain mlynedd cyn 1392, cyhoeddodd y Pab Nicholas V ddogfen swyddogol dan yr enw Romanus Pontifex … sy’n sylfaen i’r hyn a elwir yn gyffredin yn Athrawiaeth Darganfod, y ddysgeidiaeth y gall Cristnogion wrth ‘ddarganfod’ rhywbeth, ei gymryd a’i ddefnyddio fel y ...

    Rhagor
  • Newyddion mis Chwefror

    Newyddion mis Chwefror

    Dyro dy fendith…

    Ar drothwy sefydlu Donald Trump yn Arlywydd America ar Ionawr 20fed rhoddwyd teyrnged iddo gan y Parchedig Wayne T. Jackson, arweinydd y Great Faith Ministries yn Detroit, (sydd hefyd yn galw ei hun yn Esgob), ac yn un o’r rhai a  gyfrannodd i’r seremoni sefydlu, drwy offrymu’r fendith.  Meddai, “Mae Donald Trump yn enghraifft o rywun sydd wedi cael ei fendithio yn helaeth  gan Dduw. Edrychwch ar ei gartrefi, ei fusnesau, ei wraig a’i jet. Nid ydych yn derbyn pethau felly oni bai eich bod wedi ennill ffafr Duw.”

     Gŵyl ...

    Rhagor
  • Cloddio: Pryderi Llwyd Jones yn holi Guto Dafydd

    Cyfres newydd o drafodaethau estynedig.  Yn y gyntaf, Pryderi Llwyd Jones sy’n holi  Guto Dafydd.

    CLODDIO

    Roedd Guto Dafydd eisoes yn fardd coronog, wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth (Ni bia’r awyr), nofel o’r enw Stad, a chyfrol i blant 11–15 oed, pan enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd yn Eisteddfod Genedlaethol 2016.

    Mae’r nofel yn sôn am Gymro o Lŷn yn cael triniaeth ...

    Rhagor
  • Arwyddbyst

    Gofynnodd y Golygydd i rai o gefnogwyr C21 amlinellu beth fyddai’n codi eu calonnau yn ystod 2017. Dyma sylwadau personol Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Bedyddwyr.

    Arwyddbyst

    Un peth fyddai’n codi fy nghalon yn 2017 yw gweld ein heglwysi yn gweithredu’n fwyfwy fel arwyddbyst i ddangos y ffordd yn glir tuag at egwyddorion, rhinweddau a moesau Cristnogol.

    Fel y gwyddom, bu’r llynedd yn gyfnod o bryder ac ansicrwydd mawr ledled y byd yn wyneb argyfyngau megis newid hinsawdd, y rhyfel yn y Dwyrain Canol ...

    Rhagor
  • Pedwerydd Cam yr AA – Rhan Dau

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

    Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut ...

    Rhagor
  • Embaras, dyna beth yw e!

    ‘Rhaid eich geni chwi drachefn … o’r newydd … oddi uchod …’

    Embaras, dyna beth yw e!
    Embaras i’r rhyddfrydwyr i gyd …

    Enid R. Morgan

    Os oes un ymadrodd sy’n debyg o godi swildod ymhlith dilynwyr Cristnogaeth21, mi dybiwn i mai’r ymadrodd am aileni yw hwnnw. Fe gysylltwn yr ymadrodd â’r cwestiwn go haerllug sy’n cael ei holi weithiau gan Gristnogion ceidwadol: “Gawsoch chi’ch aileni?” neu “Ydych chi’n Gristion?” A gwyddom fod ystyr gyfyng a phenodol i’r cwestiwn. Mae’n golygu nos dywyll yr enaid a bwlch yr argyhoeddiad a’r gair pechod ...

    Rhagor