Agora 17 mis Hydref 2017

 

Agora rhif 17 mis Hydref 2017

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Lewis Glyn Cothi – englynion   

Môr Goleuni – Tir Tywyll (Encil Aberdaron)        Enid Morgan

Encil Aberdaron                                                       Valmai a John Gwilym Jones

Cyfarfod gyda Dr James Alison (1 Tachwedd)   Enid Morgan

Tangnefedd a byw yn ddi-drais 

Dyfalu Duw  (seiliedig ar weddi Awstin Sant)

Calon y Drindod – mentro caru                           Ainsley Griffiths

Cam 10 yr AA                                                          Wynford Ellis Owen

Naomi Starkey. Cyfweliad gyda Pryderi Llwyd Jones

Hen broblem 

Gweld mewn drych…                                            Golygydd

Glywsoch chi hon?

  • Glywsoch chi hon?

    Glywsoch chi hon?

    Waldo yng ngharchar am wrthod talu dirwy, dirwy am wrthod talu treth incwm ag elfen yn mynd i gynnal byddin. Cyfaill yn mynd i ymweld ag e, ac mewn tristwch o’i weld yn y fath amgylchiadau yn ebychu, “Waldo bach, beth wyt ti’n neud fan hyn?”

    Waldo yn ateb fel fflach, “Beth wyt ti’n neud mas yn fan’co?”

    Dywedwyd yr hanes gan Tecwyn Ifan yn encil cristnogaeth21 yn Aberdaron.

    Rhagor
  • Hen Broblem

    HEN BROBLEM

    Gan amlaf, mae rhywun nad yw’n Gristion yn gwybod rhywbeth am y ddaear, am y nefoedd ac elfennau eraill y byd, am symud a chylch y sêr a hyd yn oed eu maint a’u safle, am eclips yr haul a’r lleuad y gellir ei rag-weld, cylchoedd y blynyddoedd a’r tymhorau, am fathau o anifeiliaid, llwyni, cerrig ac ati. Ac mae’n dal ei afael yn sicrwydd yr wybodaeth hon trwy brofiad a rheswm.

    Nawr, peth cywilyddus a pheryglus yw i anghrediniwr glywed Cristion, wrth ymhonni ei fod yn egluro ystyr yr Ysgrythur Sanctaidd, yn siarad dwli am y fath bynciau; a dylem sicrhau ...

    Rhagor
  • Cam 10 yr AA

    CAM 10 yr AA

    Arolwg personol a chyfaddef bai

    Mae Cam 10 yn awgrymu y dylem barhau i wneud arolwg personol, a dal ati i unioni unrhyw gamgymeriadau newydd wrth i’n hadferiad fynd rhagddo a dwysáu. Dechreuon ni fyw fel hyn wrth lanhau llanast y gorffennol. Rydym wedi cael mynediad i fyd yr ysbryd. Ein prif bwrpas yn awr yw tyfu mewn dealltwriaeth ac effeithiolrwydd – a chynnal ein hadferiad. Mae’r tri cham olaf, sef Camau 10, 11 a 12, yn cael eu disgrifio gan Alcoholigion Anhysbys (AA) fel ‘rhaglen ddyddiol yr adferiad’.

    Paratoad fu’r camau blaenorol i gyd – ein cyflyru ar ...

    Rhagor
  • Encil

    Encil

    Sylwadau Valmai a John Gwilym Jones ar Encil Aberdaron

    Daeth cwmni cynnes o bererinion i olwg Ynys Enlli ddydd Sadwrn olaf Medi. Wnaethom ni ddim croesi y tro hwn, ond lluesta yn Eglwys Aberdaron am y bore a rhan o’r prynhawn. Gan ein bod yn cwrdd ar Ddydd Waldo, roedd hi’n briodol iawn mai thema’r sesiynau oedd ‘Tywyllwch a Goleuni’. Fel gyda llawer o gyfarfodydd Cristnogaeth 21, bu’r geiriau a’r meddyliau a’r gweddïau yn gwlwm o emosiynau, yn gyfres o fyfyrdodau trosgynnol.

    Rhagor

  • Tangnefedd a byw yn ddi-drais

    TANGNEFEDD A BYW YN DDI-DRAIS

    Rwy’n dymuno tangnefedd ar bob gŵr, gwraig a phlentyn, ac yn gweddïo y bydd delw Duw ym mhob person yn ein galluogi i gydnabod ein gilydd fel rhodd sanctaidd wedi ein cynysgaeddu ag urddas enfawr. Yn enwedig lle bo gwrthdaro, gadewch i ni barchu ein ‘hurddas dyfnaf’ a seilio ein bywydau ar weithredu bwriadol ddi-drais.
    (Y Pab Francis)

    Mae gweithredu di-drais yn golygu hawlio ein hunaniaeth sylfaenol fel meibion a merched sy’n annwyl i Dduw tangnefedd; o ganlyniad awn allan i fyd rhyfel fel tangnefeddwyr i garu pob bod dynol. Ond dyma’r broblem: dydyn ni ...

    Rhagor
  • Lewis Glyn Cothi – englynion

    ENGLYNION I DDUW

    Un o’r cyfranwyr i Encil Cristnogaeth21 yn Aberdaron ar 30 Medi oedd y gantores Gwyneth Glyn. Yn ei chyflwyniad cyfoethog darllenodd y detholiad hwn o englynion o’r 15ed ganrif gan Lewis Glyn Cothi. Diolchodd i Twm Morys am y gwaith dethol.

    Ar dymor cynhaeaf maen nhw’n arbennig o ystyrlon a dwys. 

    Glanaf o bob goleuni – yn y byd,
             Mal y berth ...

    Rhagor
  • Gweld mewn drych…

    Gweld mewn drych …

    Roedd gan George Monbiot erthygl yn y Guardian ychydig yn ôl, myfyrdod ar yr etholiad cyffredinol. Ynddi mae’n awgrymu bod y cyfryngau wedi dangos nad oedden nhw wedi deall y bobl, ‘wildly out of touch with the nation’ oedd ei ymadrodd. Dyw hynny ddim yn syndod, meddai, oherwydd mae’r cyfryngau’n byw mewn neuadd o ddrychau. Mae pawb yn edrych ar ei gilydd, y papurau’n edrych ar beth mae’r cyfryngau darlledu’n ei ddweud, a’r darlledwyr yn edrych ar y papurau, ac yn ailgylchu’r hyn mae’r naill a’r llall yn ei ddweud. Ac yna, beth am yr arbenigwyr sy’n cael eu holi? Wel, ...

    Rhagor
  • Naomi Starkey

    Naomi, Aberdaron

    A ninnau wedi treulio diwrnod tawel, cofiadwy yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, ar y Sadwrn olaf o Fedi, daeth cyfle i gael sgwrs gydag un sydd wedi croesi’r bont ac wedi dysgu Cymraeg mewn amser byr. Mae bellach yn darllen a siarad Cymraeg yn hapus a chyfforddus. Mae Naomi Starkey yn giwrad yn Sant Hywyn ac yn un o dîm Plwyf Bro Enlli sydd yn ymestyn o Bwllheli i Aberdaron. Fe fu Pryderi yn sgwrsio gyda hi.

    Naomi, diolch am gytuno i sgwrsio gyda Cristnogaeth 21. Fe ddeuthum i ...

    Rhagor
  • Calon y Drindod – Mentro Caru

    CALON Y DRINDOD – MENTRO CARU

    Pe baen ni ond yn medru cymryd o ddifrif yr alwad i ffordd newydd o fyw a ymgorfforwyd gan Grist ac amlygu’r cariad hwn gyda dewrder yng nghanol gwae ac ansicrwydd yr oes sydd ohoni, pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad? Tybed a fyddem yn agosach at yr undod y gweddïodd Iesu drosto cyn ei farwolaeth, yr undeb perffaith sy’n bodoli rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, a’r byd, yn sgil yr amlygiad rhyfeddol hwn, yn dod i gredu? (Ioan 17:2)

    Ainsley Griffiths, Caplan Prifysgol Cymru: y Drindod, Dewi Sant, a swyddog y Weinidogaeth yn Esgobaeth Tyddewi, yn pori ...

    Rhagor
  • Dyfalu Duw

    DYFALU DUW

    Galwaf arnat, Dduw’r Gwirionedd,

    Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

    Y daw pob gwir, ble bynnag y bo;

     

    Dduw’r Doethineb,

    Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

    Y daw pob peth doeth, ble bynnag y bo;

     

    Dduw Ffynnon Bywyd,

    Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

    Y tardda pob bywyd, ble bynnag y bo;

     

    Dduw’r Gwynfyd,

    Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

    Y daw pob llawenydd, ble bynnag y bo;

     

    Dduw’r Da a’r Prydferth,

    Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

    Y daw popeth da a phrydferth, ...

    Rhagor
  • Cyfarfod mis Tachwedd – manylion

    Cyfarfod mis Tachwedd 2017

    ‘Beth yw ystyr dysgu gan Iesu mewn byd sy ar ddymchwel?’

    Dyna’r cwestiwn y bydd y diwinydd disglair James Alison yn ceisio’i ateb yng nghyfarfod nesaf cristnogaeth21 ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol gynt) ym Mhenarlâg, 10.30am – 4.30pm.

    Yn ei ail ddarlith bydd James yn sôn am ei ffordd bersonol ef o ddwyn ynghyd feddwl amheugar y sceptig a thraddodiad eglwysig.

    Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30

    Llyfrgell Gladstone Penarlâg

     DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON

     Rhaglen y Dydd:

     Rhagor

  • Môr Goleuni – Tir Tywyll

    MÔR GOLEUNI – TIR TYWYLL

    Encil Aberdaron

    Daeth ffrindiau hen a newydd ynghyd i ail encil cristnogaeth21 yn y gogledd ddydd Sadwrn, 30 Medi 2017. Diwrnod cofio Waldo ydoedd a dyfyniad o waith Waldo ‘Môr goleuni, tir tywyll’ oedd y thema gan y siaradwyr i gyd. Gyda gwyntoedd Hydref yn bygwth a dau o’r cwmni wedi eu dal ar Ynys Enlli am dri diwrnod oherwydd y tywydd, yr oeddcreigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’ yn gefndir cyson i’r sgwrs a’r myfyrio. Yn Eglwys Aberdaron ei hun – a oedd, ganrif a hanner yn ôl, yn furddun ond sy bellach yn gadarn ac ...

    Rhagor