Agora 6 (mis Hydref)

Cynnwys Agora mis Hydref

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Golygyddol

Newyddion Agora

Gobaith ar ôl Brexit?                                         Gethin Rhys

Ond Mae’r Beibl Yn Dweud …

Yr Eglwysi, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid  Aled Edwards

Y Cam Cyntaf                                                    Wynford Ellis Owen

Ymddiried, Nid Credu                                     Pastor Dawn Hutchinson

Aeddfedrwydd Ysbrydol

Dal i Ddisgwyl                                                   Reinhild Traitler/Rwth Tomos

Defosiwn Ar Ddechrau’r Dydd

Pedair Litani

Beth am fôn-docio?                                           Bethan Wyn Jones

Peidiwch â gorwedd i lawr                              Owain Llŷr Evans

Tri Phen                                                               Judith Morris

 

 

 

 

  • Golygyddol

    GOLYGYDDOL 

    Y Dirywiad, eto fyth

    Fe ddywedodd Geraint Tudur, ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, ar y radio yn ddiweddar ei bod hi’n ‘unfed awr ar ddeg ar Ymneilltuaeth’. Jogn Gwilym Jones, y cyn-gadeiryddDyna pam mai Eisiau Tyfu – Ofni Newid oedd thema cynhadledd flynyddol C21 yn y Morlan yn Aberystwyth ar 24 Medi. 

    Nid rhywbeth cyfyngedig i Gymru yw’r dirywiad; mae i’w weld ar draws gorllewin Ewrop, ac mae dyddiau goruchafiaeth ‘Byd Cred’ wedi hen ddarfod.

     “That was the Church that was” yw teitl llyfr newydd gan Andrew ...

    Rhagor
  • Gobaith ar ôl Brexit?

    Gobaith ar ôl Brexit?

    Gethin Rhys – Swyddog Polisi Cytûn

    O farnu yn ôl tudalen Facebook Cristnogaeth 21, sioc a siom fu canlyniad refferendwm mis Mehefin i lawer o ddilynwyr Cristnogaeth 21. Gellir deall y siom, ond mae’r sioc yn sioc! Oni fuom yn sylwi ar benawdau’r papurau newydd am Ewrop ers blynyddoedd? Oni fuom yn gwrando ar ein cymdogion ar riniog y drws neu yn y dafarn?

     

    Un o wirioneddau’r refferendwm yw ein bod yn gymdeithas ranedig dros ben. ...

    Rhagor
  • Cam Un yr AA

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

           Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ...

    Rhagor
  • Aeddfedrwydd Ysbrydol

    Aeddfedrwydd Ysbrydol

    Canlyniad cyntaf aeddfedrwydd mewn crefydd yw ein helpu i dyfu i fyny’n fuan er mwyn osgoi syrthio i’r un hen dwll dro ar ôl tro; gwneud yr un peth a disgwyl canlyniad gwahanol. Mae ‘gwir grefydd’, crefydd iach, yn rhoi enw iawn ar yr hyn sy’n real a gwir, a beth sy’n gweithio yn y pen draw.

    mam-a-merch 

    Y gair am hyn i gyd yw cariad. Amcan crefydd yw ein dysgu i garu. Dyna ...

    Rhagor
  • Pedair Litani

    Pedair Litani

    1.  Disgleirdeb Nefol

    earth

    Arweinydd  Rhag yr ysfa i ddeddfu a rheol
                  Rhag yr awydd i amddiffyn ein hunain 
                          yn erbyn amheuaeth,
                       ...
    Rhagor
  • Peidiwch Gorwedd i Lawr

    EISIAU TYFU – OFNI NEWID

    Cyflwyniad Owain Llŷr Evans

     I fynd i’r afael â’r thema, mae gen i bum person yn gwmni i mi.

     

    Nid y cwmni delfrydol, gan mai llofruddion ydynt. Felly, er mwyn ysgogi trafodaeth, byddwn yng nghwmni Procrustes, Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon. Perthyn y pump i fyd mytholeg Roegaidd; a Theseus fu’n ddiwedd i’r pump. Felly – ymddiheuriadau – nid pump ond chwe llofrudd!

     

    Hoffwn ddechrau gyda’r mwyaf dyfeisgar o’r pump: Procrustes. Cadw ‘Gwely a Brecwast’ ydoedd yn Corydalus, Attica, ...

    Rhagor
  • Defosiwn ar Ddechrau Dydd

                DEFOSIWN

              Ar Ddechrau’r Dydd

    Dduw’r diwrnod newydd yma,
    derbyn ein diolch ar ddechrau’r dydd,
    am ddaioni a chariad,
    a phopeth sy’n cynnal a gwneud bywyd yn bosib.

    Boed i’n llygaid weld y prydferthwch sydd o’n cwmpas.
    Boed i’n meddyliau ddirnad cyfleoedd a sialensau diwrnod newydd arall.
    Rhagor

  • NEWYDDION AGORA

    Newyddion Agora

    Pwyllgor Gwaith Cristnogaeth 21

    O ganlyniad i’r cyfarfod busnes  a gynhaliwyd ar ddiwedd y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth eleni, bu rhai newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgor Gwaith.

    Wrth i’w dymor fel cadeirydd ddirwyn i ben, diolchwyd i John Gwilym am ei gadeiryddiaeth sydd wedi bod yn llawn hiwmor a  doethineb.

    Croesawyd Tecwyn Ifan fel cadeirydd newydd, a derbyniwyd nifer o aelodau ychwanegol i’r pwyllgor.

     Dyma ffurf y pwyllgor newydd:

  • Ond mae’r Beibl yn dweud …

    Mae Eglwys Loegr, eto fyth, dan yr ordd am ei ‘rhagrith’ yn penodi gŵr hoyw yn Esgob Grantham. Dywedodd Archesob Caergaint yn gadarn ddigon nad oedd a wnelo’i rywioldeb ddim oll â’i weinidogaeth. Ond cynhyrfwyd eraill mwy ceidwadol i alw’r penodiad  yn ‘beryglus’.

    Yn yr erthygl hon ystyrir geiriau Sant Paul yn nechrau’r Epistol at y Rhufeiniaid, testun allweddol i bawb sy’n condemnio cyfunrywioldeb ac yn credu bod Paul yn ddiamwys gondemnio cyfunrywioldeb i wŷr a gwragedd.

    Ond mae’r Beibl yn dweud …

    Arfer cyfleus a sefydlwyd ...

    Rhagor
  • Ymddiried, nid credu

     ymddiried-nid-credu

    Nid mater o gredu yw ffydd. Mater o ymddiried yw, mater o garu, mater o fyw.

    Nid mater o gredu; mater o ymddiried yw ffydd.

    Ffydd yw rhoi un droed o flaen y llall ac ymddiried y bydd daear odani.

    Nid mater o gredu yw ffydd, ond mater o garu.

    Ffydd yw syllu i’r tywyllwch ac ymddiried bod cariad yn bod a mentro bod yn ddigon dewr i ymagor i’r cariad hwnnw, ac ...

    Rhagor
  • Dal i Ddisgwyl

    dal-i-ddisgwyl
    
    
    
    
    
    
    
    
    
    
    Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
    fod pobl yn marw o newyn
    gan nad oes bwyd i’w fwyta.
    
    Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
    fod pobl yn marw o ddiffyg gobaith
    gan eu bod nhw’n methu gweld dihangfa.
    
    Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
    fod pobl yn marw o ...
    Rhagor
  • Beth am fôn-docio?

    O’r Gynhadledd Flynyddol

    EISIAU TYFU – OFNI NEWID

    Beth am fôn-docio? medd Bethan Wyn Jones

    Yn ddiweddar, dwi wedi cael y profiad o orfod gwagio cartref ar ôl i berthynas i mi farw. Roedd o mewn gwth o oedran ac wedi cael bywyd braf – wedi medru crwydro fel fynna fo a mynd i lle bynnag roedd o isio tan y blynyddoedd diwethaf pan aeth o’n rhy wael.

    Ond un peth nad oedd wedi’i wneud oedd taflu unrhyw beth, ac felly ...

    Rhagor
  • Tri Phen

    EISIAU TYFU, OFNI NEWID

    Tri Phen

    Yn dilyn sgwrs gyda’r Golygydd, lluniodd Judith Morris ei sylwadau ar gyfer y Gynhadledd ar yr is-benawdau canlynol: rhywbeth i’w ollwng; rhywbeth sy’n broblem; rhywbeth sydd â photensial.

    Rhywbeth i’w Ollwng: Delwedd

    Yn gyffredinol, rydym yn bobl gadarnhaol. Er enghraifft, cynhaliwyd cyfarfodydd Mudiad y Chwiorydd, Undeb Bedyddwyr Cymru, yn Rhuthun ddydd Mercher diwethaf. Roedd yna awyrgylch hyfryd yn y ddau gyfarfod a’r mwyafrif helaeth wedi profi mwynhad a bendith. Yn ystod oedfa’r hwyr daeth yr Athro Mari Lloyd Williams i sôn am y gwaith arbennig sy’n cael ei ...

    Rhagor
  • Yr Eglwysi, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

    Yr Eglwysi, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

    Aled Edwards
    Prif Weithredwr Cytûn

    Fe newidiodd Brexit yr hinsawdd ar gyfer trafod sut i drin tramorwyr. Ceir tystiolaeth eang erbyn hyn ein bod yn byw mewn diwylliant sy’n llai goddefgar ynghylch tramorwyr ac sydd weithiau yn gynyddol atgas.

    Mae’r cynydd cyson mewn troseddau casineb ers Brexit yn dangos hynny. Yn gyffredinol, mae tramorwyr yn teimlo’n fwy bregus ac yn bryderus ynghylch eu statws a’u lle.

     

     

    Rhagor