Agora 12 mis Ebrill, 2017

Cynnwys Agora mis Ebrill

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

1. Golygyddol                        Enid R. Morgan
2. Newyddion
3. Eicon Yr Atgyfodiad:      Rowan Williams
4. Plwyfoldeb                         Gethin Rhys
5. Cristnogaeth ac Ecoleg  Cynog Dafis
6. Y Chweched Cam             Wynford Ellis Owen
7. Uniongrededd Radical   Enid R. Morgan
8. Myfi Yw                               Allan Pickard
9. Ymaflyd yn y Testunau  Enid R. Morgan
10.Myfyrdod Y Pasg             Geraint Rees
  • Newyddion Ebrill

    Newyddion

    Mwy na chytundeb Gwener y Groglith

    Bu marwolaeth Martin McGuiness yn gyfle trist i bwyso a mesur arwyddion gobaith yng Ngogledd Iwerddon.

    Bu tröedigaeth McGuiness ei hun, o fod yn filwr rhyddid, neu derfysgwr, i ddilyn ffordd ddi-drais drwy’r bleidlais, yn ogystal â’r newid cyhoeddus yn Paisley, o fod yn corddi’r dyfroedd gyda’i anerchiadau  a’i bregethau ymfflamychol,  i fod yn gymodwr oedd yn barod i wrando, – bu’r cyfan yn destun diolch ac agor drysau. ‘Doedd y cyfeillgarwch a dyfodd ...

    Rhagor
  • Golygyddol

    Golygyddol

    Enid R. Morgan

    ‘Myfi yw’r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd’.

    ‘Mae e’n gymêr’ ddywedwn ni am ryw berson sydd dipyn yn wahanol i’r cyffredin. Pobl wahanol, lachar eu bodolaeth fel unigolion, yn eu ffyddlondeb, eu gonestrwydd ac yn aml iawn yn eu hiwmor. Pobl sy’n codi arswyd weithiau oherwydd eu gwreiddioldeb didaro. ’Nôl yn y saithdegau arferai nifer o Gymry Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru ddod ynghyd am encil yn ...

    Rhagor
  • Cristnogaeth ac Ecoleg

    Cynog Dafis yn adrodd hanes trafodaeth yng nghylch C21 Aberstwyth am y cysylltiad rhwng crefydd ac ecoleg.

    Cristnogaeth ac Ecoleg: thema i’r 21ain ganrif

    Nodwyd ar y dechrau mor arwyddocaol yw hi fod y Beibl yn dechrau gyda disgrifiad o greu’r Bydysawd, un o’r caniadau godidocaf a gyfansoddwyd erioed. Mae’r pwyslais yma ar fawredd a rhyfeddod y bydysawd, ar gyfoeth ac amrywiaeth byd natur, ac yn arbennig fod y cyfan i gyd yn ei hanfod yn dda: ‘A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ...

    Rhagor
  • Uniongrededd Radical

    Uniongrededd Radical

    gan Enid R. Morgan

    Hanging by a Thread by }

    Nid yn aml y gellir cymell llyfr am y Grawys i anffyddwyr nac i bobl sy’n brwydro i ddal eu gafael yn y ffydd. Ond i bobl felly byddai teitl llyfr bychan Sam Wells yn siŵr o apelio, sef Hanging by a Thread. Mae’r is-bennawd, The Questions of the Cross (Canterbury Press), yn awgrymu bod ei ffordd o siarad am fyw a deall ein bywyd yng ngoleuni’r groes dipyn ...

    Rhagor
  • Ymaflyd yn y Testunau

    Ymaflyd yn y Testunau

    gydag Enid Morgan

    Mae dehongli llythrennol, hanesyddol o’r Ysgrythur yn fagl amlwg wrth baratoi ar gyfer y Pasg. Yn Efengyl Marc daw’n amlwg fod dirgelwch ‘beth bynnag ddigwyddodd’ yn peri ofn ac arswyd yn hytrach na llawenydd.  Ond mae mwy na hynny hefyd ... 

    Y Llanc Ifanc a’r Lliain Gwyn –

    Efengyl Marc, 14:51 & 15:46

    Mewn llun o’r Swper Olaf gan artist o Guatemala, nid ...

    Rhagor
  • Yr Atgyfodiad

    Yr Atgyfodiad

    Amcan eicon yw mynd â chi at y stori fewnol, i wraidd yr hyn sy’n digwydd. A’r hyn mae eicon yr atgyfodiad yn ei ddweud wrthym yw gwraidd yr hyn sy’n digwydd yn Atgyfodiad Iesu, sef ail-greu’r greadigaeth ei hun. Dyma Dduw ac Adda ac Efa; dyma lle dechreuodd y cwbl; a dyma lle y mae’n cychwyn eto. Nid diwedd hapus i stori Iesu’r yw’r Atgyfodiad; dyma stori am air Duw yn llefaru i galon y tywyllwch i ddwyn bywyd allan o ddim ac i ddwyn yr hil ddynol i fodolaeth, yn ...

    Rhagor
  • Plwyfoldeb

    Plwyfoldeb, y filltir sgwâr a merch y ficer

    gan

    Gethin Rhys

    It’s the economy, stupid!’ meddai Bill Clinton wrth esbonio beth oedd yn cymell pobl i bleidleisio. Ac er na fu hynny’n wir am bob pleidleisiwr, roedd yn esbonio canlyniadau etholiadau’r Gorllewin am ddwy genhedlaeth.

    O gyfnod ‘You’ve never had it so good’ (Harold Macmillan) a ‘The white heat of the technological revolution’ (Harold Wilson), roedd apelio at hunan-fudd economaidd etholwyr yn ddigon ...

    Rhagor
  • Y Chweched Cam

     

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

    Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut ...

    Rhagor
  • Myfi Yw

    Allan Pickard yn myfyrio am y Pasg

     ‘Myfi yw’

    Bara
    Rho i ni heddiw fara yn ôl ein hangen
    Y Winwydden
    Tro’r dŵr yn win i ni heddiw
    Goleuni
    Goleua’n tywyllwch a’r ffordd o’n blaen
    Bugail
    Rhagor   
  • Myfyrdod y Pasg

    Myfyrdod y Pasg
    gan Geraint Rees

    (Myfyrdod wedi ei ysbrydoli gan “Easter is Breaking” gan Kathleen Rolenz.)

    MAE’R PASG YN GWAWRIO

    Ym mhobman ar draws y byd, mae hi’n gyfnod y pasg. 

    Nid y pasg y meddyliwn amdano lle bydd ...

    Rhagor