Agora 7 (mis Tachwedd)

Cynnwys Agora mis Tachwedd

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Golygyddol                              Enid Morgan

Newyddion Agora

Chwarae gyda Duw                 Rhiannon Johnson

Beth sy’n bod arnon ni?          Enid Morgan

Disgwyl

Dyfyniad gan Kierkegaard

Yr Ail Gam                               Wynford Ellis Owen

Dynoliaeth                               Seiliedig ar waith Walter Wink

Cymorth i Addoli ac Arbrofi    Dathlu Bara’r Bywyd a Chwpan y Fendith

Dim ond arwydd Jona             Enid Morgan

  • Golygyddol

    GOLYGYDDOL

    Enid Morgan

    dail

    Mis Tachwedd a Sul y Cofio ar y ffordd. Dyma ni hefyd hanner ffordd drwy’r cyfnod o gofio can mlynedd ers y Rhyfel Byd cyntaf. Bu cryn nerfusrwydd ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuwyd ar bedair blynedd o goffáu. Ofnid y byddai’r cwbl yn cael ei oruwchlywodraethu gan y gyfundrefn filwrol. Nid felly y bu. Bu’n gyfle i bobl gofio – mor fanwl ag y gallent, i chwilio am hen ddyddiaduron a ...

    Rhagor
  • Meithrin bywyd ysbrydol plant

    Chwarae Gyda Duw

    Meithrin bywyd ysbrydol plant

    gan
    Rhiannon Johnson 

    Mae dau fachgen wyth mlwydd oed yn chwarae ar y llawr. Maen nhw wedi dechrau casglu ynghyd y teganau a ddefnyddir i adrodd dwy stori hollol wahanol – stori Arch Noa, a dameg y Bugail Da. Mae ffigwr y Bugail Da wrthi’n arwain yr holl greaduriaid i mewn i’r arch. Gwylio ydw i. Mae’r bechgyn yn dod o hyd i’r blaidd ...

    Rhagor
  • Beth sy’n bod arnon ni?

    Beth sy’n bod arnon ni?

    – Goleuni newydd ar y picil rydyn ni ynddo

    Enid Morgan yn cyflwyno gwaith James Alison mewn dwy gyfrol ddylai apelio at bobl Cristnogaeth21

    Mae gen i gof clywed y digrifwr o’r Alban Armando Ianucci yn disgrifio’i hun yn grwt bach oedd yn cynorthwyo wrth yr allor yn ei eglwys blwyf yn Glasgow ac yn gofyn  i’w offeiriad,  ‘Ry’ch chi’n dweud bod Iesu wedi marw dros ein pechodau ni – sut mae hynny’n gweithio?’ Cwestiwn digon tebyg ofynnais innau i Mam ryw ddydd Gwener y Groglith: ...

    Rhagor
  • Cam Dau yr AA

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

           Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth. ...

    Rhagor
  • Dathlu Bara’r Bywyd a Chwpan y Fendith

    Cymorth i Addoli ac Arbrofi

    Dathlu Bara’r Bywyd a Chwpan y Fendith

    Ceir amryw enwau a delweddau yn yr ysgrythurau Hebreig a Christnogol i ddisgrifio ‘Duw’. Daethom ynghyd heddiw i addoli a dathlu’r ‘rhuddin yng ngwreiddyn Bod’, chwedl Waldo, hwnnw sydd y tu hwnt i’r holl enwau a delweddau; y peth hwnnw sydd wastad yn anhraethol fwy nag y gallwn ei feddwl na’i fynegi na’i brofi, ond mai’r un ‘Duw’ sy’n bresennol o’n cwmpas ac ynom. Gadewch i ni fod yn ymwybodol ohono wrth ddod ynghyd fel ...

    Rhagor
  • Newyddion Agora

    Newyddion Agora

    keyboard2

    Paratoi ar gyfer 2017

    Mae’r paratoadau i gofio dechrau’r Diwygiad Protestannaidd yn 2017 wedi dechrau yn barod. Bydd yn ddigwyddiad mawr a hanesyddol ac y mae Cerbyd Teithiol y Diwygiad yn dechrau ei daith o Genefa, Dinas y Diwygiad, ar Dachwedd 3ydd, ac fe fydd yn ymweld â  67 o ddinasoedd  mewn 19 o wledydd Ewropeaidd cyn dechrau’r dathliadau ddiwedd Hydref 2017. Mae mudiadau fel CPEC (Cymdeithas eglwysi Protestannaidd yn Ewrop) SEK (Cyngrair Eglwysi Protestannaidd y Swistir), EKD (Eglwysi Efengylaidd yr ...

    Rhagor
  • Disgwyl

    DISGWYL

    Mae’r Duw a ddaeth at ei bobl yn Iesu yn mynd i dadlennu ryw ddydd ei deyrnas yn ei holl ogoniant gan ddwyn cyfiawnder a llawenydd i’r byd i gyd. Sut mae modd bod yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw? Ble mae’r ffyrdd i’w sythu? Pa goelcerth sydd angen ei chynnau i losgi’r llanast sydd ar ei lwybrau? Pa goed marw sy angen eu torri i lawr?  A llawn bwysiced, pwy ddylid eu galw i gyfrif, nawr, i edifarhau?

    N.T. Wright yn St Matthew for All


    Rhagor

  • Un o ddyfyniadau Kierkegaard

    kirkegaard

    “Mae’r hen eirfa ddogmatig, Gristnogol fel castell cyfareddol lle mae tywysogion a thywysogesau’n gorffwys mewn cwsg dwfn – does ond angen ei ddeffro, ei fywhau er mwyn iddo sefyll yn ei ogoniant llawn.” (Kierkegaard)

    Rhagor
  • Beth yw Dynoliaeth?

    Beth yw Dynoliaeth?

    Mae cant o bobl ifanc, plant, o Syria sydd wedi gorfod aros yng ‘ngwersyll’ Calais wedi cael caniatâd i ymuno â’u teuluoedd ym Mhrydain. I ddeall yn well y pethau yr oedden nhw’n ffoi rhagddynt, edrychwch ar y ffilm White Helmets (ar gael ar Netflix). Cyn ac ar ôl edrych ar y ffilm, ystyriwch eiriau’r ysgolhaig Walter Wink am beth yw bod yn ddynol.

    Mae Duw yn ddynol … Camsyniad mawr y ddynoliaeth yw credu ei bod hi eisoes yn ddynol.

    Rhagor

  • Dim ond Arwydd Jona

    Dim ond Arwydd Jona
    gan Enid Morgan

    A threfnodd yr Arglwydd i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson. (Jona 1:17)

    Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy’n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona (Mathew 16:4) (Hefyd, Mathew 12:39–41 a Luc 11:29–32)

    Glywsoch chi erioed bregeth ar stori Jona? (Gyrrwch air os gwnaethoch chi!) Mae Iesu’n sôn am ‘arwydd Jona’ ond ni ...

    Rhagor