Agora 26 mis Gorffennaf 2018

 

Agora rhif 26 mis Gorffennaf 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled             Gethin Rhys

Cyflwyno’r Tra Pharchedig Jeffrey John                 Enid Morgan

Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur                              Y Tra Pharchedig Jeffrey John     

Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Encil C21

  • Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Encil C21

    Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Encil Cristnogaeth 21

    Encil Blynyddol C21
    Sadwrn Medi 22ain 10.00 – 3.30

    Eglwys Clynnog Fawr yn Arfon.

    Duw’r Creawdwr
    yng nghwmni
    Dr Hefin Jones, Y Tad Deiniol,
    Parch  Mererid Mair, Lloyd Jones a Gwawr Maelor

    Cost £25.00 (i gynnwys cinio)

    I gofrestu cysylltwch â Catrin Evans
    cyn Medi 12ed.
    catrin.evans@phonecoop.coop

    01248  680858

     

     

    Rhagor
  • Jeffrey Hywel Philip John

    Y TRA PHARCHEDIG JEFFREY HYWEL PHILIP JOHN

    Rhoddwyd croeso a chymeradwyaeth gynnes i Dr Jeffrey John pan ddaeth i Gapel Salem, Canton, Caerdydd, ar 30 Mehefin i ddarlithio ar y testun: “Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur”. Teg dweud bod cywreinrwydd a gwerthfawrogiad yng nghalonnau’r gynulleidfa. Wrth gyflwyno Dr John, dywedodd Enid Morgan, Cadeirydd newydd Cristnogaeth21, nad oedd wedi’i wahodd oherwydd y stormydd o gyhoeddusrwydd sydd wedi’i oddiweddyd dros y blynyddoedd, nac am iddo ddioddef cam gan Eglwys Loegr a chan yr Eglwys yng Nghymru; a cholled sylweddol fu hynny ...

    Rhagor
  • Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur

     Gaf i ddechrau gyda gweddi?

    Dyma’r Colect Anglicanaidd ar gyfer Sul y Beibl:

    Gwynfydedig Arglwydd, a beraist i’r holl Ysgrythurau Glân gael eu hysgrifennu i’n haddysgu ni, dyro i ni yn y fath fodd eu gwrando, eu darllen, eu chwilio, ac ymborthi arnynt, fel, trwy ddyfalbarhad, a chymorth dy Air Sanctaidd, y cofleidiwn ac y daliwn ein gafael yn wastadol yng ngobaith bendigedig y bywyd tragwyddol, a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

    ……………………………..

    Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur

    Bob dydd Sul, yn yr eglwys Anglicanaidd, o leiaf – dw i ddim yn siŵr a ydy’r un peth yn digwydd yn yr eglwysi rhydd – bob dydd Sul, rydyn ni’n eistedd ...

    Rhagor
  • Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled

    Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled

    Wrth i mi sgrifennu (ar 17 Mehefin), mae’r trobwll gwleidyddol yng ngwledydd Prydain yn rhyfeddol o beryglus i’r sawl sydd ynddo neu ar ei ymyl. Mae’r SNP am ddyfnhau’r rhwyg cyfansoddiadol â San Steffan; mae Leanne Wood fel petai’n dod i ddiwedd ei harweinyddiaeth, yr un pryd â Carwyn Jones; mae Theresa May yn gamblo £25 biliwn o’n harian ar sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Iechyd a’i dyfodol gwleidyddol hithau. Erbyn i chi ddarllen hyn, fe all y bydd pethau a phobl gwahanol yn y penawdau wrth i ddigwyddiadau garlamu yn eu blaen.

    Heb sôn am Brexit! Wrth gwrs, hwnnw sy’n gyfrifol am lawer ...

    Rhagor