Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled

Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled

Wrth i mi sgrifennu (ar 17 Mehefin), mae’r trobwll gwleidyddol yng ngwledydd Prydain yn rhyfeddol o beryglus i’r sawl sydd ynddo neu ar ei ymyl. Mae’r SNP am ddyfnhau’r rhwyg cyfansoddiadol â San Steffan; mae Leanne Wood fel petai’n dod i ddiwedd ei harweinyddiaeth, yr un pryd â Carwyn Jones; mae Theresa May yn gamblo £25 biliwn o’n harian ar sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Iechyd a’i dyfodol gwleidyddol hithau. Erbyn i chi ddarllen hyn, fe all y bydd pethau a phobl gwahanol yn y penawdau wrth i ddigwyddiadau garlamu yn eu blaen.

Heb sôn am Brexit! Wrth gwrs, hwnnw sy’n gyfrifol am lawer o’r troi ar y trobwll. Does dim amheuaeth na fydd gyrfaoedd wedi eu hybu a’u chwalu cyn y daw’r cyfan i ben. Fe fydd helyntion y gêm wleidyddol bron mor gyffrous â helyntion Cwpan y Byd yn Rwsia. Ac fe wyddom fod yna gysylltiadau uniongyrchol rhwng Rwsia a Brexit, diolch i waith dygn y Gymraes Carole Cadwallader a newyddiadurwyr eraill.

Er difyrred y gêm wleidyddol hon, mae yna bethau pwysicach yn y fantol – pethau a fydd yn cael dylanwad arhosol ar ein bywydau ymhell wedi i chwaraewyr Cwpan y Byd a gwleidyddiaeth fynd yn angof. Mater bychan o’i gymharu â’r trafodaethau sy’n digwydd o olwg y cyhoedd am gyfansoddiad Prydain a masnach fyd-eang yw’r helynt am union eiriad Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). At hynny rwy am droi yn yr erthygl hon.

Slogan yr ymgyrch swyddogol o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd oedd “Take Back Control” – gadael i’r Deyrnas Unedig benderfynu a rheoli ei chyfreithiau ei hun, yn hytrach na bod yn ddarostyngedig i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Fe fu rhai mor amrywiol â Tony Benn ac Enoch Powell yn gwrthwynebu cyfraith Ewrop adeg pasio Deddf y Cymunedau Ewropeaidd yn 1972. Fe gynyddodd y gwrthwynebu pan benderfynwyd ffurfio ‘Marchnad Sengl’ i gymryd lle’r ‘Farchnad Gyffredin’ yr ymunom ni â hi yn y lle cyntaf. Pwrpas y ‘Farchnad Sengl’ oedd sicrhau nad oedd gwledydd yr Undeb yn cystadlu â’i gilydd trwy osod rheoliadau o ran safonau a fyddai’n llesteirio gwerthiant nwyddau o wledydd eraill yr Undeb. Y ffordd i wneud hyn oedd sicrhau unffurfiaeth rheolau. O hynny y deilliodd y rheoliadau am faint a siâp llysiau a ffrwythau (yn cymryd lle rheoliadau cenedlaethol a oedd yn dueddol o ffafrio ffermwyr y genedl), labeli bwyd (fel bod yn rhaid datgan beth yw’r cynnwys ac o ble y daeth), faint o gymorth gwladol y gellid ei roi i fusnesau preifat (fel na allai un wlad rhoi mantais i’w busnesau) neu sut y mae llywodraethau yn caffael nwyddau a gwasanaethau (rhaid iddynt roi cyfle cyfartal i bob un o Ewrop, yn hytrach na ffafrio busnesau lleol).

Mae’r syniad yn ymddangos yn un teg. Ond mae iddo ddau ganlyniad amhoblogaidd. Yn gyntaf, bydd busnesau bychain lleol yn ei chael hi’n gynyddol anodd i gystadlu â busnesau aml-wledig a chanddynt y gallu – a’r cyfreithwyr – i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phob gofyn ac yn cystadlu am bob cytundeb. Felly, dyna gwmni rheilffordd o’r Almaen yn cynnal gwasanaeth trenau Cymru, neu gwmnïau adeiladu o ddwyrain Ewrop yn ennill cytundebau awdurdodau lleol yn lle’r cwmnïau lleol a arferai wneud y gwaith. 

Yr ail ganlyniad amhoblogaidd yw fod yn rhaid llunio’r rheolau’n ganolog. Mae gallu seneddau cenedlaethol a rhanbarthol i ddeddfu yn cael ei gyfyngu. Bob tro y mae gwlad neu ranbarth yn canfod ffordd o ffafrio’i heconomi ei hun, fe ganolir rheoli yn y maes hwnnw er mwyn gwaredu’r fantais a dychwelyd at gystadleuaeth ‘deg’ o fewn yr Undeb. Fesul tipyn, felly, fe gollir rheolaeth. Yn ôl lladmeryddion yr Undeb mae hwn yn bris gwerth ei dalu am y manteision economaidd a ddaw yn ei sgil. Ond fe all pethau edrych yn go wahanol i’r saer neu’r plymar lleol – neu’n wir, y cwmni trenau lleol – a arferai wneud y gwaith o fewn ei gymdogaeth, sydd â theulu lleol a heb unrhyw awydd i deithio’r Cyfandir yn chwilio am waith. Mae’n edrych yn wahanol hefyd i’r cymunedau Cymraeg hynny lle y collir pobl ifainc sydd yn barod i deithio, ac fe ddaw yn eu lle weithwyr o wledydd eraill nad ydynt bob tro yn awyddus i ddysgu iaith newydd a chymathu â’r gymuned Gymraeg.

Ys dywedodd cyfreithiwr mewn seminar a fynychais yn fuan wedi’r refferendwm, “Mae marchnad sengl yn ei hanfod yn canoli grym”. Aeth yn ei flaen i rag-weld y byddai grym y seneddau datganoledig yn cael ei gyfyngu wrth i’r Deyrnas Unedig ffurfio ‘marchnad sengl Brydeinig’ yn lle’r farchnad sengl Ewropeaidd. Roedd yn llygad ei le. Carwyn Jones oedd un o’r cyntaf i sôn am y “farchnad sengl Brydeinig”, ac felly nid oes ryfedd i Lywodraeth Cymru fod yn barod i weld y rheoliadau hynny a ganolwyd gynt yn Ewrop bellach yn cael eu canoli yn San Steffan. Mae’r Llywodraeth yn gweld yn eglur: os ydych am gynnal marchnad sengl ryng-genedlaethol, yna nid oes modd cynnal rheolaeth genedlaethol ar bob agwedd ar fywyd. 

Mae hwn yn wirionedd caled i genedlaetholwyr. Slogan Plaid Cymru yw Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru (hynny yw, “Take back control”). Mae’n slogan naturiol i genedlaetholwyr – ond yn slogan afrealistig i blaid sydd mor bleidiol i aros o fewn yr Undeb Ewopeaidd! Nid oes gwahaniaeth pa farchnad sengl y mae Cymru yn rhan ohoni, amod sylfaenol bod yn y farchnad honno fydd ildio grym i awdurdod canolog y farchnad. Mae’r SNP yn ceisio dilyn trywydd tebyg yn yr Alban – yn galw am “annibyniaeth”, ond hefyd am aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, sydd yn cwtogi’n sylweddol ar yr annibyniaeth honno. Mae bod yn genedlaetholwr a bod yn bleidiol i’r Undeb Ewropeaidd ill dau yn safbwyntiau rhesymol – ond byddai’n braf petai eu lladmeryddion yn fwy gonest fod yn rhaid cyfaddawdu’r naill os am dderbyn y llall.

Mae yna ddewisiadau anodd eraill ynghlwm wrth hyn. Ym mlynyddoedd cynnar ein haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd fe fu Cymorth Cristnogol ac elusennau eraill yn ymgyrchu yn erbyn y rhwystrau a osodir gan y farchnad Ewropeaidd ar nwyddau o wledydd y tu allan – gan gynnwys gwledydd tlawd. Yn wir, ceisio lliniaru effaith y rhwystrau – yn enwedig gostwng cyflogau yn y gwledydd tlawd mor isel â phosibl er mwyn cystadlu â bwyd Ewropeaidd er gwaetha’r tariff a godwyd – oedd rhan o symbyliad y mudiad Masnach Deg y mae’r eglwysi mor ganolog iddo. Fe anghofir mai rhan o’r angen am fasnach deg yw annhegwch codi treth uchel ar nwyddau megis te, coffi, cocoa a siwgr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd – ac mae’r tariff yn uwch fyth os troir y cocoa yn siocled neu’r siwgr yn rhan o fwyd wedi ei brosesu. Mae yna ddadleuon dros godi muriau o amgylch Ewrop i amddiffyn ei gyflenwad bwyd cynhenid. Mae yna ddadleuon hefyd dros fasnach deg a fyddai’n caniatáu i wledydd tlawd wella’u byd drwy gynhyrchu mwy o nwyddau a’u hallforio i wledydd mwy cyfoethog, lle gall pobl fforddio’u prynu. Ond nid oes modd cael y ddau beth yr un pryd – rhaid cyfaddawdu rywle ar hyd y daith. Ysywaeth, nid yw lladmeryddion masnach deg na chefnogwyr yr Undeb Ewropeaidd yn barod iawn i gydnabod hynny.

Fe fydd yr un cwestiynau’n codi wrth i’r Deyrnas Unedig ar ei liwt ei hun ddechrau trefnu cytundebau masnach â gwledydd eraill. Mae yna lawer o ofnau wedi eu lleisio y byddai cytundeb masnach â’r Unol Daleithiau yn arwain at safonau is o ran diogelwch bwyd (cyw iâr wedi’i olchi â chlorin) ac at fynnu mwy o breifateiddio ar wasanaethau cyhoeddus er mwyn ffafrio cwmnïau Americanaidd. Nid y Deyrnas Unedig, ond yr Undeb Ewropeaidd, ddechreuodd y broses hon, gyda chytundeb CETA â Chanada a’r ymdrech aflwyddiannus i gael cytundeb TTIP rhwng yr UE ac UDA. Does dim ots ai trwy’r Deyrnas Unedig neu drwy’r Undeb Ewropeaidd y deuir i gytundebau masnach â gwledydd eraill y byd – nid Cymru fydd â’r gair olaf am yr amodau yn y naill achos na’r llall. Ildio rheolaeth (nid ei chymryd yn ôl) fydd y canlyniad. Dyna pam mae’r cenedlaetholwr Donald Trump mor wrthwynebus i’r cytundebau hyn.

Yn ystod ac wedi ymgyrch y refferendwm fe fu rhai’n tynnu sylw at y posibiliadau o gytundebau masnach rydd fyddai’n fanteisiol i wledydd tlawd sy’n aelodau yn y Gymanwlad. Ond ers y refferendwm, ceir mwy o sôn am gytundebau â gwledydd cyfoethog y Gymanwlad – megis Awstralia a Seland Newydd. Hyd yn oed wedyn, mae ffermwyr Cymru yn ofni mewnforio bwyd rhad – megis cig oen Seland Newydd. Y drafferth yw na ellir sicrhau hawl i allforio ein bwyd ni am bris cystadleuol heb sicrhau yr un hawl i wledydd eraill fewnforio i Gymru. Yn y maes hwn hefyd, rhaid gwneud dewisiadau anodd ac wynebu gwirioneddau caled.

Nid gwlad o laeth a mêl fu’r Undeb Ewropeaidd. Ac nid gwlad o laeth a mêl fydd y Deyrnas Unedig wedi Brexit chwaith. Na Chymru annibynnol, o ran hynny. O na fyddem yn ddigon gonest i gyfaddef y gwir yn hytrach na byw yn ôl sloganau!

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) ac yn Ysgrifennydd Gweithgor Cytûn am Gymru ac Ewrop. Barn bersonol a geir yn yr ysgrif hon.

Ceir cyfle dan nawdd Cytûn i drafod y materion hyn ymhellach, mewn awyrgylch Cristnogol ac agored, yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener, 10 Awst, 2–3.30 (gyda thoriad am 2.40) yn Ystafell VSAC, Adeilad WCVA, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Bae Caerdydd CF10 5FH, dafliad carreg o faes yr Eisteddfod.