E-fwletin 8 Gorffennaf 2018

Moloch a Mamon

Bum yn cynnal oedfa yn Ebeneser, Llangybi, yn ddiweddar, gan dderbyn y croeso cynnes arferol gan y criw bach ffyddlon. Yn y festri y cynhelir yr oedfaon fel rheol ond wedi’r oedfa dyma fentro gofyn a oedd y capel digwydd bod ar agor. Fel roedd hi’n digwydd, mi roedd y drws heb ei gloi a mewn a mi.

Roedd y capel yn glyd – os ychydig yn llychlyd. Roedd dwy fynedfa bob ochr i’r pulpud, elfen gyffredin iawn ym mhensaernïaeth capeli Ceredigion, oriel, a rhyw hanner dwsin o resi o gorau pren cymen iawn eu golwg. Dyma ddringo i’r pulpud a sefyll yno’n stond gan daflu fy llygaid i bob cornel o’r capel bach hynod hwn. Dychmygais yno glywed llais un o’m harwyr yn taranu ar ei bregeth. Roedd y pulpud hwn, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn eiddo i Niclas y Glais.

Roedd y Parch T. E. Nicholas (1879-1971) yn dipyn o aderyn brith ac yn ddraenen yn ystlys unrhyw un a gefnogai’r drefn Brydeinig gyfalafol filwrol, fel ag yr oedd yn nechrau a chanol yr ugeinfed ganrif. ‘Comiwnydd rhonc a Christion gloyw’ yw disgrifiad Hefin Wyn ohono yn ei gofiant diweddar (Y Lolfa, Talybont: 2017). Yn ystod ei gyfnod byr yn Llangybi bu dan lygaid craff yr awdurdodau Llundeinig a oedd wedi eu cymell i gadw llygad barcud ar y rebel lleol gan wraig i dirfeddiannwr lleol. Bydden nhw’n clustfeinio’n agored ar ei bregethau ar y Sul.

Datblygodd Niclas yn sonedwr medrus iawn – yn enwedig yng nghyfnod ei garcharu ef a’i fab, Islwyn, am eu gwrthwynebiad cydwybodol i’r Ail Ryfel Byd. Cyn hynny, braidd yn felodramatig yw ei gerddi, yn null ei gyfnod. Ond o ddarllen ei gerddi cynnar un o’r delweddau sy’n sefyll yn y cof yw ei ddefnydd o dduwiau paganaidd yr Hen Destament. Mae Moloch a Mamon yn cael sylw amlwg ac aml ganddo. Moloch – duw rhyfel y Cananeaid a oedd yn croesawu aberthu plant – a Mamon – duw ariangarwch a thrachwant.

Hawdd yw anwybyddu delweddu felly fel rhyw sentimentaleiddiwch gor-ddramatig. Ond, fel y gwyddom, mae Moloch a Mamon yn cael eu haddoli o hyd ar draws y byd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain mewn llawer dull a modd. Un o’r llefydd sy’n rhoi bri mawr ar y ddau ddiawl hyn yw Unol Daleithiau’r Amerig – a neb llai felly na’i Harlywydd diweddaraf, Donald Trump.

Erbyn y Sul nesaf bydd Arlywydd Trump yn derbyn croeso cynnes gan gynrychiolwyr y drefn Brydeinig – yn frenhines a Phrif Weinidog – yng nghoridorau grym. Bydd croeso twymach iddo hefyd y tu allan iddynt yn ôl y protestiadau sydd wedi eu trefnu.

Wn i ddim sawl pulpud fydd yn atsain i bregethu tanbaid a fydd yn herio dylanwad andwyol Moloch a Mamon ar wareiddiad y Gorllewin y Sul nesaf ond mae’n siŵr y bydd rhyw adlais bell i’w clywed rhwng muriau Ebeneser, Llangybi, o eistedd yno a chlustfeinio.