Jeffrey Hywel Philip John

Y TRA PHARCHEDIG JEFFREY HYWEL PHILIP JOHN

Rhoddwyd croeso a chymeradwyaeth gynnes i Dr Jeffrey John pan ddaeth i Gapel Salem, Canton, Caerdydd, ar 30 Mehefin i ddarlithio ar y testun: “Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur”. Teg dweud bod cywreinrwydd a gwerthfawrogiad yng nghalonnau’r gynulleidfa. Wrth gyflwyno Dr John, dywedodd Enid Morgan, Cadeirydd newydd Cristnogaeth21, nad oedd wedi’i wahodd oherwydd y stormydd o gyhoeddusrwydd sydd wedi’i oddiweddyd dros y blynyddoedd, nac am iddo ddioddef cam gan Eglwys Loegr a chan yr Eglwys yng Nghymru; a cholled sylweddol fu hynny i’r ddau sefydliad. Fe’i gwahoddwyd fel diwinydd praff sy’n siarad yn eglur, yn ddiflewyn-ar-dafod ac yn dra pherthnasol i’n cyfnod ni. I aelodaeth Cristnogaeth21 mae ei waith yn ysbrydoliaeth; bu’n rhaid ceisio cael dyddiad cyfleus, ac o’r diwedd fe lwyddwyd!

‘Bachan o’r Cymoedd’ yw Dr John, ac fe’i ganed yn Nhonyrefail yn 1953; graddiodd yn y clasuron ac ieithoedd modern yn Rhydychen, cyn mynd ymlaen i astudio diwinyddiaeth yno, yng Ngholeg Sant Steffan. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon ac yn offeiriad yn Esgobaeth Llandaf, a dechreuoedd ar ei weinidogaeth ym Mhenarth. Ond, gyda’i ddoniau arbennig, buan yr aeth yn ôl i academia i wneud doethuriaeth ar athrawiaeth yr Apostol Paul. Bu’n gaplan coleg ac yn ddeon yr Ysgol Ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Madlen cyn mynd ymlaen yn 1991 i fod yn ficer yn Eltham yn Llundain ac wedyn yn Ganghellor-ddiwinydd Eglwys Gadeiriol Southwark.

Yn y flwyddyn honno bu’n un o grŵp o uchel eglwyswyr a sefydlodd fudiad o’r enw Affirming Catholicism, mudiad a fu’n asgwrn cefn yn y frwydr i ordeinio gwragedd. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach mae’r ddadl am rywedd yn dal i fynd ymlaen, a’r gyfrol Permanent, Faithful, Stable: Christian Same-sex Marriage yn dal yn gyfraniad allweddol.

Yn 2003 fe’i dewiswyd yn Esgob Reading, ond dygwyd pwysau na ellid eu gwrthsefyll arno i dynnu ’nôl. Yn sgil hynny y sefydlwyd y mudiad Inclusive Church. Ac yn 2004 fe’i gwnaed yn Ddeon St Alban’s, ac yno y mae o hyd, yn manteisio ar ryddid yr eglwysi cadeiriol i ddatblygu gweinidogaeth gyfoethog a deallus.

Ddeng mlynedd yn ôl tynnodd storm am ei ben. Mewn sgwrs ar y BBC yn ystod yr Wythnos Fawr dywedodd fod athrawiaeth ‘Iawn Dirpwyol’ yn “waeth nag afresymol, yn wallgo, yn gwneud i Dduw swnio fel psychopath”.

Bu ei gyfrol ar ystyr yn y gwyrthiau – Meaning in the Miracles – o help mawr iawn i bregethwyr. Mae’n herio’r obsesiwn i ddeall yr ysgrythurau fel dogfen hanesyddol ffeithiol; ac mae’n haeddiannol yn herio rhyddfrydwyr hefyd am fod yn llawer rhy ‘ffwrdd â hi’ ac am osgoi ymgodymu â’r testun gan ei ddilorni hyd yn oed, fel pe bai’n gelwydd neu ofergoel. Dyma destun sydd, yn ôl Rene Girard, ‘mewn gwewyr esgor’.