E-fwletin 1 Gorffennaf 2018

Annwyl Bawb

Cafwyd diwrnod cofiadwy ddoe wrth inni ddod ynghyd i wrando ar anerchiad y Tra Pharchedig Jeffrey John. Daeth pawb i gapel Salem, Caerdydd, gyda disgwyliadau uchel, a chafodd neb ei siomi. Cawsom ein swyno gan yr ysgolheictod manwl, y traddodi afieithus a’r hiwmor byrlymus. Diolch i bawb am drefnu, a dymunwn yn dda i’r swyddogion newydd, sef Enid Morgan (Cadeirydd) a T. Evan Morgan (Ysgrifennydd).

A nawr dyma droi at e-fwletin heddiw:

 

Geiriau gwag?

Fuoch chi erioed yn crwydro Cumbria? Dyma wlad arferai fod yn rhan o’n tiroedd Brythonaidd ond a gollwyd i’r Eingl a’r Daniaid dros ddeng canrif yn ôl.

Tybir i Frythoneg Cumbria ddiflannu o enau’r boblogaeth erbyn y 12fed ganrif. Y cyfan sydd ar ôl erbyn hyn yw enwau ambell fynydd, ambell bentref ac ambell fferm. Mae sawl blain, cair, penn a carrek ar fap o Ardal y Llynnoedd. Mae enwau rhai pentrefi fel Lanercos (Llannerch), Castle Carrock, Derwent (bro’r dderwen), Blencathra (blaen cadair), Cark (carreg)  Morecambe Bay (Bae y Môr Cam) ac yn y blaen yn dangos olion Brythonaidd. Hyd yn lled ddiweddar, mae’n debyg bod rhai bugeiliaid yn cyfrif  mewn rhifau sy’n awgrymu bod rhyw olion o’r Frythoneg wedi parhau hyd at yr ugeinfed ganrif. Ond wrth siarad gyda phobl ar fy nhaith, doedd gan neb ohonyn nhw unrhyw amgyffred o’u hetifeddiaeth Frythonaidd ac roedden nhw’n methu dychmygu unrhyw hanes amgen i gefndir Eingl-Ddanaidd y rhanbarth.

Gwnaeth hyn i mi feddwl am yr hyn sydd yn digwydd o’n hamgylch yng Nghymru. Mae’r cyfoeth o eiriau sy’n rhan o’n hetifeddiaeth Gristnogol yn diflannu’n gyflym – gras,  iachawdwriaeth, edifarhau… Oes ots am hyn?

Yn ei lyfr Speaking Christian – Recovering the Lost Meaning of Christian Words mae Marcus Borg yn esbonio sut  mae traddodiadau crefyddol yn cael eu mynegi trwy gyfrwng geiriau arbennig. Mae pob traddodiad yn ffocysu ar eiriau sy’n datblygu yn y pen-draw i fod yn rhan greiddiol o ddiwylliant y traddodiad hwnnw, gyda’r geiriau’n datblygu’n llaw-fer hwylus am ystod o brofiadau neu gredoau crefyddol. Mae Borg yn herio ei ddarllenwyr yn America i sicrhau eu bod yn defnyddio geiriau’n briodol ac yn olrhain ystyr gwreiddiau’r geiriau hynny. Yr hyn mae’n ei ddangos yw fod nifer o eiriau a ddefnyddir gan Gristnogion yn yr oes hon yn cael eu defnyddio mewn ffordd tra gwahanol i’r ffordd y’u deallwyd nhw’n wreiddiol.

Rhyfeddod i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf yma oedd gweld sut mae rhai Cristnogion nid yn unig wedi llwyddo i ail-ddiffinio geiriau ond wedi llwyddo i ail-ddiffinio natur Cristnogaeth yn America. Does dim angen mynd ymhellach na rhai o’r cyhoeddiadau a gafwyd ar Twitter a Facebook sy’n dangos cefnogaeth at wahanu teuluoedd ar ffiniau America. Ar y llaw arall, cafodd Jim Wallis, Samuel Barber, Shane Claiborne ac eraill eu harestio am brotestio yn erbyn polisi Trump, a hynny ar sail eu ffydd yn Iesu. Mae’n amlwg mai nid jyst geiriau sy’n ein gwahanu, mae rhywbeth llawer mwy dwys yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae dethol pa eiriau sy’n cyfrif yn aml yn fwy o broblem nag ystyr y geiriau eu hunain. Efallai mai dyna pam mae angen i ni gyd ffocysu dros y blynyddoedd nesaf, nid ar y geiriau sy’n ein gwahanu, ond ar y geiriau sy’n ein huno fel teulu Cristnogol byd-eang.  Rwy’n tybio mai geiriau a briodolir i’r Iesu yw’r rheiny; ac mae digon o her yn rheiny heb i ni hollti blew dros ambell ystyr.

“Rych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu’n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo.  Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy got iddo hefyd. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy.  Rho i bwy bynnag sy’n gofyn i ti am rywbeth, a phaid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti. Rych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’). Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi!”

Efallai na ddaw pobl Cumbria fyth nôl at iaith eu cyndeidiau, ond mae’r pris yn llawer rhy fawr os na fydd iddyn nhw, a phobl Cymru ail-ddarganfod geiriau Crist i’n hysbrydoli i fyw fel brodyr a chwiorydd.