Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur

 Gaf i ddechrau gyda gweddi?

Dyma’r Colect Anglicanaidd ar gyfer Sul y Beibl:

Gwynfydedig Arglwydd, a beraist i’r holl Ysgrythurau Glân gael eu hysgrifennu i’n haddysgu ni, dyro i ni yn y fath fodd eu gwrando, eu darllen, eu chwilio, ac ymborthi arnynt, fel, trwy ddyfalbarhad, a chymorth dy Air Sanctaidd, y cofleidiwn ac y daliwn ein gafael yn wastadol yng ngobaith bendigedig y bywyd tragwyddol, a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

……………………………..

Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur

Bob dydd Sul, yn yr eglwys Anglicanaidd, o leiaf – dw i ddim yn siŵr a ydy’r un peth yn digwydd yn yr eglwysi rhydd – bob dydd Sul, rydyn ni’n eistedd yn yr eglwys ac yn gwrando ar rywun yn darllen darnau bach o’r ysgrythur sy wedi cael eu dethol ymlaen llaw gan y llithiadur. Ac fel rheol mae hynny’n iawn, achos fel rheol mae’r llithiadur yn dewis darlleniadau sy’n weddol uniongyrchol ac yn weddol amlwg eu hystyr. Ond bob hyn a hyn gellwch chi gael sioc.

Er enghraifft, ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd mewn cynulleidfa – nid fy nghynulleidfa i – pan ddarllenwyd darn o Lyfr Numeri, Pennod 15. Fel byddwch chi’n cofio, dwi’n siŵr, mae Pennod 15 Llyfr Numeri yn adrodd hanes rhyw hogyn o blant Israel a aeth allan o’r gwersyll un nos i gasglu brigau er mwyn gwneud tân i’w gadw’n dwym. Ond, yn anffodus, roedd y dyn druan wedi anghofio mai dydd Saboth ydoedd, ac felly fe gafodd ei arestio gan y gwarchodwyr am dorri’r Saboth.

‘And so …’ – aeth y darllenwr yn ei flaen – ‘And so the guards dragged the man before Moses and Aaron, who said, “This man is a sabbath-breaker; he must put to death. Let him be stoned by all the community outside the camp”. So they dragged the man outside and they stoned him with stones as Moses and Aaron commanded, until he was dead … This is the word of the Lord”. A dyma ni i gyd yn ateb, ‘Thanks be to God!’

Y peth a’m haflonyddodd fwyaf oedd na sylwodd neb ar yr eironi. Ac yn waeth byth, pan gyfeiriodd y pregethwr at y stori yn ei bregeth, wnaeth e ddim ond cymryd y stori’n arwynebol. Wnaeth e ddim cwestiynu o gwbl ym mha synnwyr gallwn ni ddweud mai ‘Gair Duw’ ydy stori mor anwar, neu beth yn y byd mae hi’n ei ddweud wrthym am natur Duw.

Roeddem ni beth amser yn ôl yn y gadeirlan yn St Alban’s yn dweud y Foreol Weddi, a Salm 109 wedi ei gosod ar gyfer y dydd. Wel, os dach chi fyth yn flin fel cacwn gyda rhywun, rwy’n argymell Salm 109. Un o’r salmau melltithio yw hi. Ac felly fe wnaethon ni i gyd sefyll ac adrodd, mwy neu lai, hyn:

O God, how I hate this man, your enemy and mine!
Let him be found guilty when he is judged!
Let his days be few, and let even his prayer for help be counted as sin!
Let his children be fatherless, let his wife be made a widow,
And don’t let anyone take pity on them either.
And now I come to think of it, curse his children’s children,    
And don’’t forget the sins of his parents as well.  
Glory be to the Father …

Roedd yn amhosib i ni orffen y salm am ein bod ni’n chwerthin gymaint. Ond y peth sy’n fy mhryderu fi yw – beth am yr holl eglwysi lle maen nhw’n meddwl mai pechod fyddai chwerthin amdani?

Roeddwn i mewn eglwys ar un achlysur pan wrthryfelodd cydwybod rhywun. Pan oeddwn i’n ficer yn Eltham, yn Ne Llundain, roedd gennym ni yn y gynulleidfa foneddiges urddasol iawn o’r enw Elsie. Roedd Elsie’n arfer darllen yr Epistol yn ystod yr Offeren, ac un bore Sul roedd yn rhaid iddi ddarllen rhywbeth gan Sant Paul ynglŷn ag israddoldeb gwragedd, a bod yn rhaid i wragedd ufuddhau i’w gwŷr ac yn y blaen.

Wel, darllenodd Elsie’r testun hwn, deadpan, yn ei llais cryf ac urddasol, ac wedyn edrychodd i fyny ar y gynulleidfa a dweud, ‘I shall NOT say “This is the Word of the Lord”, for it plainly is not. This is simply St Paul being SILLY’.

Wel, rydw i’n cydymdeimlo ag Elsie, achos mae’n gwestiwn perthnasol iawn a ddylem ni ddweud ‘This is the word of the Lord’ ar ôl pob darn o’r ysgrythur; achos weithiau, megis ar ôl Numeri, Pennod 15, neu Salm 109, mae’n amlwg nad yw hynny ddim yn gwneud synnwyr. Os oes cydwybod Gristnogol gyda ni, rydyn ni’n gwybod yn berffaith dda na ddylem ni labyddio torwyr y Saboth, na gweddïo ar Dduw i ddinistrio ein gelynion. Y problem yw, pan ddywedir ‘This is the Word of the Lord’ ar ôl pob darlleniad, mae hynny’n rhoi’r argraff bod pob darn o’r Beibl, tu allan i’w gyd-destun, i’w weld fel neges lythrennol ac uniongyrchol i ni gan Dduw nawr. Ac mae’n amlwg fod hynny’n anghywir, ac efallai’n beryglus. Mae’r ysgrythur yn cludo gair Duw, mae’n gyfrwng i glywed gair Duw, ond mae hynny’n wahanol i ddweud mai Gair Duw yw hi ym mhob rhan a darn.

Yn y synnwyr mwyaf ‘gwirioneddol’ does dim ond un Gair Duw, sef Iesu Grist, y Logos, y Gair bywiol a thragwyddol; ac mae Ef yn dod atom ni trwy eiriau’r ysgrythur, wrth gwrs ei fod e, ond mae’n dod hefyd trwy weddi a’r eglwys a’r sacramentau, a’n cydwybod, a’n rheswm, a’n profiad, a thrwy bobl eraill.

Dyna paham rydw i’n anhapus i ddweud ‘Dyma air yr Arglwydd’ ar ôl pob darlleniad o’r Beibl. Byddai’n gywirach, efallai, dweud mai’r holl Feibl, yn ei gyfanrwydd, yw gair Duw; achos yna o leiaf rydych chi’n derbyn bod yn rhaid dehongli pob darn trwy ei gymharu â’r gweddill. Ond i wneud hynny, wrth gwrs, rydych chi’n dal angen eich rheswm a’ch gwybodaeth a’ch profiad personol i weithio mas beth yw safbwynt y cyfanrwydd.

Y gwir broblem yw bod pawb, bron, yn anwybodus iawn o’r Beibl, hyd yn oed y rhai sy’n mynd i’r eglwys. Dwi ddim yn gwybod am y capeli, ond prin iawn yw’r Anglicaniaid sy’n darllen neu’n astudio’r Beibl y tu allan i wasanaethau. Ac oherwydd nad ydyn nhw’n clywed dim ond darnau bach mewn gwasanaethau, dydyn nhw byth yn cael persbectif ar y cyfanrwydd, nac yn gweld pa mor hanfodol yw’r cyd-destun er mwyn deall y testun.

Ar y lefel fwyaf sylfaenol mae llawer o Gristnogion heb sylweddoli nad un llyfr yw’r Beibl, ond wyth deg pedwar o lyfrau, gan gynnwys yr Apocryffa – llyfrau a ysgrifennwyd ac a adolygwyd ar hyd mil o flynyddoedd mewn amrywiaeth eang o ddiwylliannau gwahanol. I’m tyb i, mae’r Beibl yn debyg i kaleidoscope, sy’n trosglwyddo golau Duw, ond golau sydd wedi’i hidlo a’i blygu a’i liwio gan gymaint o awduron a golygyddion gwahanol yn y proses. Ac mae rhai rhannau o ddarlun y caleidosgop yn ddisglair ac yn wych, ond mae eraill yn dywyll iawn, a rhai’n farbaraidd rhonc.

Yn fwy na dim, mae’n rhaid i bobl weld yn llawer cliriach nag y maent fod syniadau sylfaenol yn y Beibl yn newid o lyfr i lyfr, ac yn aml iawn, o adnod i adnod o fewn llyfrau. O awdur i awdur ac o olygydd i olygydd, rydyn ni’n symud rhwng undduwiaeth ac amldduwiaeth, unwreiciaeth ac amlwreiciaeth, rhwng y Duw anthropomorffaidd a gerddodd yng ngardd Eden, a’r Duw Diderfyn sy’n llenwi nef a daear; rhwng aberthu anifeiliaid a gwrthod aberthu anifeiliaid, rhwng moesoldeb y llwyth a moesoldeb yr unigolyn, rhwng anghrediniaeth mewn bywyd ar ôl marw a chrediniaeth ynddo.

Mae’r gwahaniaethau sylfaenol hyn yn fwy amlwg wrth gwrs yn yr Hen Destament nag yn y Newydd, achos bod yr Hen Destament yn ymestyn dros lawer mwy o amser, ond mae cryn dipyn o anghytundeb sylfaenol yn y Testament Newydd hefyd, fel y cawn weld.

O ganlyniad, mae’n amhosib darllen y Beibl a bod yn siŵr o wneud y synnwyr iawn ohono, heb fod yn barod i wneud tipyn o waith ymlaen llaw, er mwyn darganfod y cefndir y mae pob llyfr a phob awdur yn dod ohono. Mae’n rhaid gofyn cwestiynau. O ble mae’r awdur yn dod – o ran hanes, lleoliad, cymdeithas, traddodiad crefyddol? Beth yw’r perthnasau rhwng yr awduron a’r testunau gwahanol? Pwy sy wedi adolygu pwy, a phaham? Beth yw amcan diwinyddol neu boliticaidd yr awdur hwn? Pwy oedd yn ei dalu fe? Beth yw’r genre y mae e’n ysgrifennu o’i fewn, a’r traddodiad llenyddol sy wedi dylanwadu arno?

Mae diwinyddion yn hoffi rhoi enwau crand ar y cwestiynau hyn – ‘form criticism, redaction criticism, genre criticism’ ac yn y blaen. Ond yn y pen draw, maen nhw i gyd yn berwi i lawr i gwestiynau perffaith syml, sy’n gwestiynau mae’n rhaid eu gofyn er mwyn gweld y testun yn erbyn y cyd-destun a thynnu’r ystyr allan.

Y peth sy’n fy mhoeni i, yn enwedig ar ôl gweithio am flynyddoedd fel deon coleg yn Rhydychen, yw’r ffaith fod cynifer o Gristnogion deallus, ac yn enwedig myfyrwyr, yn gwrthod cwestiynu’r Beibl o gwbl. Ym mhob Undeb Cristnogol dwi wedi gwybod amdano mewn prifysgolion, os dach chi’n mentro gofyn cwestiynau fel hyn, neu sôn am bwysigrwydd astudiaeth academaidd o’r Beibl, byddwch chi’n cael eich labelu fel ‘unsound, unbiblical, dangerous liberal’, ac os dach chi’n parhau i ofyn cwestiynau, byddwch chi allan drwy’r drws mewn amrantiad.

Ond y gwir yw: os nad ydych chi’n gofyn y cwestiynau hyn, ni fyddwch chi fyth yn mynd i’r afael â’r Beibl o gwbl. Os wnewch chi ddim ond cymryd y testun yn arwynebol, heb wybodaeth bellach, y risg yw y byddwch chi’n camddeall neu’n colli ystyr gywir y testun yn llwyr.

Yng ngweddill y ddarlith aeth Dr Jeffrey John drwy nifer o enghreifftiau. Meddai, “Wrth wneud hyn rwy’n gobeithio tanlinellu sut y mae gwir astudio’r Beibl, yn hytrach na’r hyn sy’n honni bod yn astudiaeth feiblaidd, yn ei gyfoethogi’n aruthrol ac nid yn ei danseilio, ac yn ei wneud yn llawer mwy perthnasol i’n bywyd bob dydd.”

 Yn y misoedd nesaf bydd C21 yn cyhoeddi, un ar y tro, saith llith fer sy’n ddeifiol ddangos werth ei ffordd o fynd at y Beibl.